Opportunities & Events
Galwad Artistiad: Iechyd Cyhoeddus Cymru - Gweithredu ysbrydoledig i ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol
Location: Cymru | Start Date: Dyddiad Cay: 09 Mis Medi 2025
Summary:
A allai eich creadigrwydd helpu i ledaenu’r Sgwrs Genedlaethol am les meddyliol? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am gomisiynu 6 artist i greu cynnwys digidol o ansawdd uchel ar y thema “gweithredu ysbrydoledig i ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol”. Bydd hyn yn cefnogi Hapus – ein rhaglen hirdymor i helpu i ddiogelu a gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru.

Content:
Mae sawl elfen yn gysylltiedig â rhaglen Hapus, a phob un wedi'i hanelu at annog pobl i flaenoriaethu eu lles meddyliol ac i ymgysylltu â gweithgarwch sy'n cefnogi’r lles hwnnw. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol, yn codi ymwybyddiaeth o'r sylfaen dystiolaeth bresennol ynglŷn â’r hyn sy'n gweithio ar gyfer lles, yn adeiladu rhagor o dystiolaeth ac, yn hanfodol, yn cychwyn Sgwrs Genedlaethol am les meddyliol.
Mae’r comisiynau blaenorol a ddyrannwyd wedi rhoi cyfle i artistiaid helpu i ennyn diddordeb pobl yn y sgwrs, a’u procio i feddwl am yr hyn y mae lles yn ei olygu iddyn nhw.
Yn awr, rydym am rannu syniadau ac adnoddau a fydd o gymorth i’n hysbrydoli wrth i ni i gyd gymryd camau i gefnogi ein lles meddyliol ni a lles meddyliol pobl eraill.
Y Brîff
Rydym yn chwilio am artistiaid sy’n rhychwantu ystod o ffurfiau ar gelfyddyd a all greu cynnwys digidol o ansawdd uchel sy'n ysbrydoli ac ysgogi pobl yn ein grwpiau blaenoriaeth i gymryd camau i gefnogi eu lles meddyliol.
Dylai eich cynnwys creadigol gael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl o un neu fwy o'r grwpiau canlynol:
- Menywod.
- Pobl ifanc 18-29 oed.
- Y rhai sy'n nodi anabledd, sydd ag iechyd gwael neu sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, a gall gynnwys y rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.
- Pobl sy'n byw mewn amgylchiadau â llai o adnoddau a chyfleoedd.
- Y rhai o grwpiau ethnig leiafrifol
Dylai eich cynnwys creadigol:
- Ysbrydoli pobl i ymgysylltu â Hapus.
- Ysgogi pobl i gymryd camau i wella eu lles.
Bydd angen i’r artistiaid arddangos y canlynol:
- Meddu ar brofiad o gyd-gynhyrchu gwaith gyda grwpiau blaenoriaeth neu fod wedi nodi partneriaid cefnogol sydd â phrofiad perthnasol.
- Defnyddio’r sylfaen dystiolaeth i’w hysbrydoli i ddod â themâu a chysyniadau allweddol yn fyw drwy greu cynnwys y gellir ei rannu'n ddigidol.
- Bod â syniad clir o sut mae neilltuo amser ar gyfer yr hyn sy'n bwysig i chi yn cefnogi lles unigolion a’r gymuned.
- Creu cynnwys digidol neu ffilm i safon broffesiynol y gellir ei darlledu, ar eu liwt eu hunain neu mewn partneriaeth â gwneuthurwr ffilmiau neu unigolion eraill sydd â'r arbenigedd technegol angenrheidiol. Bydd yr allbynnau ar ffurf cynnwys digidol a gallent gynnwys er enghraifft, y gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddyd weledol, ffilm fer, cân.
Rydym yn awyddus i gomisiynu cynnwys gan artistiaid sydd wedi'u lleoli ledled Cymru. Dylai’r artistiaid ganolbwyntio ar ddatblygu a chreu allbynnau yn eu dewis iaith. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried a yw cyfieithiad/pa gyfieithiad sy'n briodol yn seiliedig ar yr allbwn creadigol a grëir a bydd yn talu unrhyw gostau yn ôl yr angen. Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn ogystal ag artistiaid B/byddar, anabl a niwroamrywiol.
Ffioedd
Mae ffioedd o hyd at £3,000 fesul comisiwn ar gael i alluogi artistiaid, sefydliadau celfyddydol neu bartneriaethau o artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau i gynllunio a chyflwyno cynnwys digidol i safon broffesiynol.
Drwy’r alwad hon, hoffem gomisiynu 6 darn ar wahân o gynnwys digidol. Rydym yn rhagweld y bydd rhagor o gyfleoedd ar gael yn y dyfodol yn rhan o raglen Hapus.
Sut i wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 09.09.2025
Anfonwch gynnig byr, dim mwy na 1,000 o eiriau, at Iechyd Cyhoeddus Cymru: HI-Programme.Support@wales.nhs.uk yn dweud wrthym am:
- Eich ymarfer creadigol a phrofiad sy'n arbennig o berthnasol i'r comisiwn hwn.
- Eich syniad creadigol, gan gynnwys sut y bydd yn ysbrydoli pobl eraill i gymryd camau sy'n cefnogi eu lles, sut rydych chi'n bwriadu gwneud eich syniad ar gael yn ddigidol, a rhestru unrhyw gydweithwyr a allai gynorthwyo gyda'r elfennau technegol.
- Cofiwch gynnwys CV cyfredol gyda'ch cynnig hefyd.
Anfonwch fideo byr (uchafswm o 2 funud) ohonoch chi yn cyflwyno eich syniad creadigol hefyd. Bydd hyn yn ein helpu i gael syniad o'ch steil a'ch dull gweithredu. Nid ydym yn disgwyl fideo wedi'i gynhyrchu'n broffesiynol ar gyfer y cynnig. Rhaid i chi anfon y fideo drwy Borth Rhannu Ffeiliau Diogel GIG Cymru; mae’n galluogi i ffeiliau hyd at 20GB gael eu rhannu. Mae'r platfform yn gweithio orau drwy’r porwr Firefox.
Bydd angen i chi anfon e-bost i HI-Programme.Support@wales.nhs.uk i ofyn am ddolen a fydd yn eich galluogi i lanlwytho'ch ffeil i'r porth diogel.
