Opportunities & Events
Rheolwr y Gwasanaeth Theatr a Chelfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Siriol Caerffili
Location: Blackwood
Summary:
Mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon swydd wag ar gyfer rheolwr lleoliad theatr neu gelfyddydau profiadol, gydag arbenigedd ymarferol arbennig wrth drosglwyddo i fodel cyflawni elusennol newydd. Rydyn ni'n recriwtio Rheolwr y Gwasanaeth Theatr a Chelfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Adfywio ehangach. Dyddiad Cau: 20 Chwefror
Content:
Oriau gwaith: 22 Oriau
Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2025
Lleoliad: Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £24,682.22 - £26,584.92 pro rata ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Grŵp Cynghori sefydledig, uwch reolwyr y Cyngor, arweinwyr gwleidyddol a chynghorydd annibynnol (i'w benodi) i ddyfeisio a gweithredu model cyflawni i symud y sefydliad ymlaen i'r dyfodol i sicrhau bod adnoddau'r Gwasanaeth Theatr a'r Celfyddydau yn cael eu rheoli yn y ffordd fwyaf effeithiol a phriodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd.
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, Iechyd yr Amgylchedd, Cymorth Cyntaf, Asesu Risg, Tân a Thrwyddedu, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, Deddf Diogelu Data.
- Profiad o reoli cyllidebau a thargedau incwm.
- Hyblygrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at welliant parhaus.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Antony Bolter/Allan Dallimore ar 07766162570/ 01443 866441 neu ebost: boltea@caerphilly.gov.uk dallia@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Dyddiad Cau: 20 Chwefror
Mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer 07-03-2025