Gwehyddu: Cynhadledd Celfyddydau ac Iechyd

Cadw'r Dyddiad:

WEAVE | GWEHYDDU 2025

Mae Weave | Gwehyddu – cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru – nôl yn yr hydref.

Bydd Gwehyddu 2025 yn cael ei chynnal ar 8-9 Medi 2025 ym Mhrifysgol Wrecsam.

Nod y gynhadledd, a drefnir gan Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw dod â dros 150 o ymarferwyr creadigol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a gwneuthurwyr polisi o bob rhan o’r wlad, at ei gilydd i ddathlu rhaglenni celfyddydau ac iechyd yng Nghymru a mynd i'r afael â'r angen am ddull ataliol hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phwysau ar wasanaethau.

Mae Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran rhoi’r celfyddydau ac iechyd wrth wraidd iechyd a llesiant, wedi’i ysgogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.

Bydd Gwehyddu 2025 yn cynnwys prif anerchiad gan Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ogystal â thrafodaethau panel a sesiynau grŵp yn ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddulliau creadigol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, a gwaith y celfyddydau gyda dementia i’r defnydd o fyd natur yn y celfyddydau, iechyd a llesiant, ymchwil ac arloesi sy'n gysylltiedig â'r sector, a llesiant staff ac ymarferwyr creadigol.

Caiff y gynhadledd eleni ei chyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i noddi gan raglen Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda buddsoddiad cynllun CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru.

Mae tocynnau ar werth nawr. Mae llefydd yn brin, felly fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar.

 

Chwilio