Opportunities & Events
Disgrifiad o Rôl Cynrychiolydd Cleifion
Location: Bronglais | Start Date: 2023
Summary:
Ar gyfer Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus Bronglais Fel rhan o’n cynlluniau ar gyfer datblygu Uned Ddydd Cemotherapi newydd sy’n addas i’r diben yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, rydym yn gweithio gyda Thîm Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda i integreiddio celf gyhoeddus yn yr uned newydd. Disgrifiad o Rôl Cynrychiolydd Cleifion
Content:
Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb strategol am ddatblygu a chyflwyno Cynllun Celf Gyhoeddus ar gyfer yr Uned. Mae Hywel Dda yn chwilio am gynrychiolydd cleifion i ymuno â’r grŵp a defnyddio eich profiad o’r uned bresennol i helpu i greu uned newydd sy’n arbennig ac yn unigryw i’n holl gleifion, staff a theuluoedd.
Rôl wirfoddol yw hon ac ni fydd tâl am eich amser i gyfrannu.
Beth yw rôl Cynrychiolydd Cleifion?
• Fel cynrychiolydd cleifion byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus, ac eraill o fewn y system Gofal Iechyd i helpu i wella profiad cleifion yn Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais i helpu i gyflawni’r weledigaeth a rennir ar gyfer rôl celf yn yr uned newydd.
• Byddwch yn rhoi eich llais i'n helpu i wrando ar gleifion, teuluoedd a gofalwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn gofalu amdano
• Byddwch yn rhoi cyngor ar olwg a theimlad Uned Ddydd Cemotherapi newydd Bronglais
• Byddwch yn helpu i gyflawni'r Cynllun Celf Gyhoeddus ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi newydd Bronglais
Datganiad o ddiddordeb Expression of interest - https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrrKKoI-qo45FhO7XKTZM_XhUNE5BMVRGNDBTMk8yM0JLR0lVRjlJWDBONi4u