Opportunities & Events
Galwad agored am wneuthurwr ffilmiau Cysgod rhag y Glaw prosiect llesiant creadigol gyda phobl syn profi heriau iechyd meddwl
Location: Gogledd Cymru | Start Date: Awst 2025
Summary:
Rydym yn ceisio penodi gwneuthurwr ffilmiau i ddogfennu effaith prosiect Ymbarél yn erbyn y Glaw ar gyfranogwyr wrth gefnogi neu o bosibl wella eu lles trwy greadigrwydd.
Content:
Crynodeb Mae Cysgod rhag y glaw yn brosiect sy’n bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Awdurdod Lleol Conwy (Creu Conwy) a Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Mae’n defnyddio creadigrwydd i wella llesiant meddwl yn dilyn covid-19 trwy raglen Gelfyddydau Cymunedol ar gyfer pobl sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl neu sy’n profi heriau iechyd meddwl. Rydym yn awyddus i benodi gwneuthurwr ffilmiau i werthuso effaith y prosiect ar gyfranogwyr o ran cefnogi eu llesiant neu ei wella o bosibl. Ariennir y prosiect gan NHS Charities Together, wedi’i gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfeydd Elusennol Awyr Las yn BIPBC. Briff y prosiect Ers Covid gwelwyd effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth. Mae arferion diweddar yn tueddu i roi ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar i leihau’r pwysau ar wasanaethau’r GIG, ac i sicrhau bod pobl, yn unol â Strategaeth y Bwrdd Iechyd, yn gallu, derbyn gofal yn nes at eu cartrefi, lle bo’n bosibl. Mae tystiolaeth gadarn bod defnyddio’r celfyddydau o fewn gofal iechyd yn effeithiol (e.e., Fancourt, Warran ac Aughterson 2020). Gall creadigrwydd sbarduno, greu ffocws, difyrru, tawelu’r meddwl, cynnig seibiant, bod yn gymdeithasol, a rhoi mwynhad a phleser. Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng timau Celfyddydau Creu Conwy a Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gyflwyno gweithgareddau celfyddydol mewn lleoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn golygu y gall y prosiect gynnwys sbectrwm eang o'r boblogaeth o ran difrifoldeb eu salwch, er mwyn ategu unrhyw driniaeth, i atal dirywiad mewn iechyd meddwl, i gynnal iechyd meddwl presennol a gwella iechyd meddwl a lles. Bydd partneriaid cymunedol sy’n cynnal gweithgareddau ac yn cefnogi cyfranogwyr yn rhan o’r prosiect yma. Mae'r bartneriaeth hon yn rhan o Fframwaith Strategol Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC gan ei bod yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd poblogaeth Gogledd Cymru drwy'r celfyddydau. Y gymuned yw ffocws y prosiect hwn, er mwyn lleihau’r pwysau ar unedau a gwasanaethau iechyd meddwl lleol, drwy ymgysylltu â’r rhai sy’n profi afiechyd meddwl, naill ai pan fyddant newydd gael diagnosis neu driniaeth, neu fel rhan o gefnogaeth barhaus ar ôl cyfnodau o fod yn glaf mewnol, neu i atal salwch rhag digwydd eto. Yn yr un modd, dylai'r prosiect hybu lles cyffredinol y grŵp hwn, yn ogystal â gwella hwyliau - cynyddu hyder, ymdeimlad o werth, mwynhad a phleser, difyrrwch a ffocws, o bosibl. Hyfforddiant a datblygiad staff yn rhoi’r hyder i unigolion integreiddio’r celfyddydau â gofal iechyd, cefnogi eu lles personol, ac ymgysylltiad â chleifion. Bwriedir i hyn fod o fudd i'r staff a'r cleifion fel ei gilydd er mwyn gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd. Bydd hyfforddiant a datblygiad ar gyfer partneriaid ac artistiaid yn cefnogi’r sector ehangach er mwyn bodloni’r galw a’r angen, ac yn sicrhau bod hyfforddiant ac arbenigedd digonol yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd gyda phobl sy’n profi heriau o ran eu hiechyd meddwl a’u lles. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau iechyd a lles y rhai sy'n gweithio yn y maes hwn, er mwyn atal gorflinder a sicrhau eu bod nhw eu hunain yn cadw’n iach er mwyn iddynt allu parhau i wneud y gwaith hwn. Nodau'r prosiect Ceir dwy elfen i’r prosiect ar gyfer cyflawni’r nodau: 1. Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gweithgareddau creadigol mewn lleoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych er mwyn cefnogi ystod eang o bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl naill ai: pan fyddant newydd gael eu rhyddhau o wasanaethau cleifion mewnol, yn aros am driniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl neu wedi iddynt fynd at feddyg teulu neu wasanaethau eraill am gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl. Nod yr elfen gymunedol hon yw cefnogi Gofal Iechyd trwy leihau'r pwysau ar wasanaethau drwy gefnogi'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl yn gynt, yn ogystal â'r rhai sy'n profi heriau parhaus, i gefnogi eu lles meddwl er mwyn lleihau'r angen am fynediad at ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd. 2. Hyfforddiant a datblygiad celfyddydol ar gyfer sefydliadau partner, staff gofal iechyd yn BIPBC, ac artistiaid. Rhagwelir ystod o fanteision i staff, gan gynnwys: cynyddu hyder a boddhad, cefnogi ymgysylltiad rhwng cleifion a staff yn ogystal â chefnogi lles meddwl staff. O ran partneriaid, bydd ganddynt fwy o hyder wrth ddefnyddio'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl a lles eu cyfranogwyr a’u hiechyd a'u lles eu hunain. Bydd yn cynyddu’r ystod o artistiaid sy’n gallu gweithio gyda phobl sy’n profi heriau iechyd meddwl, yn ogystal â chefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles nhw i sicrhau sector cefnogol a ffyniannus sy’n gallu bodloni galw ac angen. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno gyda phartneriaid, sydd â phrofiad o gyflwyno cyrsiau byr a darpariaeth Addysg Uwch yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles, yn ogystal â defnyddio ystod o adnoddau ac arbenigedd. Canlyniadau disgwyliedig Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal gan artistiaid a gontractir yn allanol. Bydd y prosiect yn cael ei reoli gan Dîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC, gyda Thîm Celfyddydau pob sir yn arwain ar gyflwyno ac adrodd yn ôl yn eu meysydd penodol. Bydd gweithgareddau’n digwydd fel a ganlyn: • Cyfres o weithdai gweithgarwch creu celf yn y gymuned ar gyfer y rhai ar restrau aros a’r rhai sy'n aros am ddiagnosis/triniaeth, neu sydd wedi gadael gwasanaethau iechyd meddwl o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn ddiweddar ar draws Conwy a Sir Ddinbych • Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff a phartneriaid ar ymgorffori'r celfyddydau i ymarfer iechyd • Hyfforddi artistiaid ynghylch cynnal iechyd a lles y gweithlu artistiaid a datblygu'r rhai sy'n gweithio gyda phobl â heriau iechyd meddwl i gefnogi arfer gorau Bydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yn derbyn adroddiad ar gynnydd y prosiect ddwywaith y flwyddyn Lleoliad Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych Er enghraifft: canolfannau llesiant, lleoliadau celfyddydol, ardaloedd cymunedol Cyfanswm y gyllideb/ffioedd £2’500 (gan gynnwys TAW) ychwanegwch yn fanwl yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y ffioedd/cyllideb e.e. Teithio, cynhaliaeth, deunyddiau, amser paratoi, cyfarfodydd, ymweliadau ac ati. Dylai hyn gynnwys: Ffioedd artistiaid/ gwneuthurwr ffilmiau (gan gynnwys TAW) ac unrhyw ofynion eraill Teithio ac unrhyw gostau cynhaliaeth Deunyddiau Cyfarfodydd/Ymweliadau Drafftio a golygu’r ffilm Sylwer efallai y bydd angen derbynebau arnom fel tystiolaeth o ddeunyddiau a brynwyd. Dylai ymatebion i’r alwad hon gynnwys prisiau manwl-gywir, yn cynnwys treuliau, a darparu dadansoddiad manwl o gostau. Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu hasesu ar sail ansawdd y gwasanaeth a'r gallu amlwg i fodloni'r briff, yn hytrach na'r pris isaf. Fodd bynnag, mae gwerth am arian hefyd yn faen prawf i’w ystyried wrth ddewis. Rydym yn gwahodd pob ymgeisydd i gyflwyno eu cynigion mwyaf cost-effeithiol. Dulliau / ymagweddau a gofynion Rydym yn chwilio am wneuthurwr ffilmiau i gyfleu ysbryd y prosiect gan gynhyrchu ffilm fer ddiddorol ac addysgiadol, sy’n dangos gwerth y prosiect i randdeiliaid. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cynnwys ffilmio rhai o’r gweithgareddau creadigol a’r hyfforddiant sy’n cael eu cynnal, rhywfaint o’r gwaith a wnaed gan gyfranogwyr, yn ogystal â nifer fach o gyfweliadau byr gyda phartneriaid allweddol ac o bosibl, gyda nifer fach o gyfranogwyr yn y prosiect (os byddant yn cytuno i hynny). Bydd y gwneuthurwr ffilmiau’n ymgysylltu ag ystod o grwpiau oedran ac â phobl sydd â phrofiadau amrywiol yn ymwneud â’u hiechyd meddwl a heriau iechyd eraill sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac felly, dylai allu gweithio gyda’r grŵp amrywiol hwn o gyfranogwyr. Bydd angen ffilmio mewn ffordd sensitif er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn aros yn ddienw ac i sicrhau cyfrinachedd i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn unrhyw rai o’r gweithgareddau. Bydd y gwneuthurwr ffilmiau yn gweithio’n agos gyda thîm y prosiect i gyflwyno’r ffilm yn ymwneud â’r gweithgareddau celfyddydol/creadigol fel y’i hamlinellir yn y briff hwn. Efallai y bydd angen i’r gwneuthurwr ffilmiau gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac arfer myfyriol, ac efallai y caiff ei wahodd i gymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddatblygiad arall ar adegau, fel rhan o’r prosiect. Dylai’r ffilm fod ar gael gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg (gall BIPBC ddarparu cyfieithiadau). Diogelu data a chyfrinachedd Bydd y prosiect yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol BIPBC. Er mwyn sicrhau diogelwch holl gyfranogwyr a phartneriaid y prosiect gan gynnwys artistiaid, efallai y bydd gofyn i'r gwneuthurwr ffilmiau gytuno i gytundeb diogelu data a chyfrinachedd. At ddiben y prosiect, a phe bai’r gwneuthurwr ffilmiau yn cydsynio, mae’n bosibl y gofynnir iddo lofnodi ffurflen(ni) caniatâd i recordio ar fideo neu’n ffotograffig. Bydd y gwneuthurwr ffilmiau yn rhoi sicrwydd i dîm y prosiect bod y safonau ansawdd uchaf ar gyfer y dulliau a ddefnyddir yn cael eu bodloni, gan gynnwys unrhyw nodau allweddol a gyflawnir. O bryd i’w gilydd gall y tîm ofyn i wneuthurwr ffilmiau ddiwygio neu archwilio dulliau eraill i’w trafod o fewn cylch gorchwyl y prosiect. Asesiad risg Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r gwneuthurwr ffilmiau ddarparu asesiad risg ar gyfer unrhyw weithgaredd a wneir gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddir a/neu gellir gofyn iddynt gyfrannu at asesiad risg tîm neu wasanaeth ar gyfer y gweithgareddau. Efallai y bydd angen i’r gwneuthurwr ffilmiau addasu ei arferion gan ddibynnu ar y grŵp cyfranogwyr a/neu’r lleoliad ac efallai y bydd angen iddo gydymffurfio â phrotocolau lleol (e.e. rheoli heintiau, meddyginiaeth neu ofynion meddygol eraill). Disgwyliadau • Cynhyrchu ffilm fer ddeinamig a diddorol sy’n para 5-10 munud, yn fras, gyda fersiwn fer o bosibl sy’n para 1-2 munud • Cynnal rhai cyfweliadau penodol gyda phartneriaid prosiect a dethol cyfranogwyr. Caiff y rhain eu cydlynu ar y cyd â chi • Cydweithio â thîm y prosiect i rannu drafftiau/golygiadau ac ymateb i ddiweddariadau • Ymgysylltu â thîm y prosiect a darparu’r wybodaeth angenrheidiol yn brydlon Llinell amser y prosiect Ceir llinell amser ar gyfer y broses ymgeisio ac amserlen prosiect arfaethedig isod Amserlen y cais a’r prosiect: Carreg filltir Dyddiad Rhannu’r galwad agored 07/07/25 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion 30/07/25 am 5 pm BST Llunio rhestr fer a phenderfynu 01-03/08/25 Contractio 05/08/25 Cyflawni’r prosiect gan gynnwys ymweliadau safle ac unrhyw hyfforddiant neu werthusiad gofynnol 07/08 – 31/01/25 (yn amodol ar gytundeb ar gyfer dyddiadau ac wythnosau penodol) Cyflawni ffilm y prosiect 31/03/25 Cymhwysedd Mae hon yn alwad agored i artistiaid/ gwneuthurwr ffilmiau sy'n gallu bodloni brîff y prosiect, yr hyn sydd i’w gyflawni, a'r amserlen. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. Sut i wneud cais • Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb i: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk cyn 5pm BST ar 30/07/25 • Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais erbyn y dyddiad yn y llinell amser uchod • Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn dechrau fel y nodir yn y llinell amser uchod Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r alwad agored, cysylltwch â ni drwy e-bost BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk Bydd tîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i'r ymholiadau hyn o fewn 3-4 diwrnod gwaith. Dylai eich Datganiad o Ddiddordeb gynnwys: • Datganiad byr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn (500 gair ar y mwyaf), a'ch dulliau gweithredu cychwynnol • 2 enghraifft o waith perthnasol yn y maes hwn, gallwch gynnwys dolenni i enghreifftiau ar-lein • 2 argymhelliad (gallai hyn gynnwys dyfyniad byr neu fanylion cyswllt ond dylai ddatgan yn glir y gydberthynas rhyngoch chi a’r sawl sy’n eich cymeradwyo a’u gwybodaeth am eich gwaith chi) • Dyfynbris ar bapur pennawd yn rhoi gwybod am eich costau - Dylai’r uchod gynnwys cyfanswm o bedair tudalen ar y mwyaf neu ddewis cyfatebol arall ar ffurf sain/fideo Dewisol: • Eich CV Asesu ceisiadau Bydd eich cais yn cael ei asesu gan dîm partneriaeth y prosiect. Asesir cryfder y ceisiadau yn ôl y meini prawf isod: Y cais – cwrdd â briff y prosiect • Pa mor dda mae'r cais yn ateb y briff • Pa mor dda mae'r cais yn cyfleu'r gallu i gyflawni'r holl ofynion a chyflawniadau Ffioedd / Cyllideb • Dichonoldeb ar sail y gyllideb a gyflwynwyd ar gyfer unrhyw gostau/ ddeunyddiau (os oes angen) • Gwerth am arian Tîm y prosiect • Gallu’r artist/ gwneuthurwr ffilmiau i roi sicrwydd ynghylch eu sefydlogrwydd a'u hyfywedd trwy gydol y prosiect • Gallu'r artist/ gwneuthurwr ffilmiau i ddangos ei allu i weithio mewn partneriaeth ac i weithio gyda chyfranogwyr sy'n profi ystod o heriau iechyd meddwl a heriau iechyd eraill sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles Cyfrinachedd Data a Chydymffurfiaeth Risg • Gallu'r artist i sicrhau cydymffurfiaeth o ran data a chyfrinachedd • Gallu'r artist i sicrhau prosesau asesu risg priodol Arweiniad pellach Mae tîm y prosiect yn cadw’r hawl, gan weithredu’n rhesymol, i: • Terfynu’r broses ddyfarnu os na cheir ceisiadau priodol; • Newid yr amserlen ar gyfer caffael y Contract, ac mewn amgylchiadau o'r fath bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn hysbysu pob ymgeisydd o unrhyw newid yn y modd cyflymaf posibl; • Terfynu trafodaethau gydag artistiaid/ gwneuthurwr ffilmiau sy'n ymgeisio; • Terfynu'r drefn sy'n arwain at ddyfarnu'r Contract; • Peidio â dyfarnu unrhyw Gontract o gwbl o ganlyniad i'r broses hon Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn unrhyw fodd o ran unrhyw un o'r gweithredoedd hyn. • Ni chaniateir unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â'r prosiect hyd nes y bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig penodol i hynny ddigwydd. Ni ellir gwneud unrhyw ddatganiadau i unrhyw ran o’r cyfryngau ynglŷn â natur y cais hwn, ei gynnwys nac unrhyw gynigion, sy’n ymwneud â’r cais, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan bartneriaid y prosiect. • Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ad-dalu unrhyw gostau yr eir iddynt gan artistiaid/ gwneuthurwr ffilmiau wrth baratoi eu ceisiadau. • Os nad ydych yn sicr o ystyr cwestiwn neu unrhyw beth yn y gwahoddiad hwn i dendro yna cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gofyn i Gelfyddydau mewn Iechyd BIPBC i egluro yn ysgrifenedig drwy e-bost. • Bydd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i unrhyw ymholiadau o fewn 3-4 diwrnod gwaith. Gall Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC hefyd wrthod ateb cwestiwn os yw'n ystyried bod y cwestiwn yn amhriodol. Os na fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn gallu ateb cwestiwn, bydd hyn yn cael ei gyfleu. • Mae Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn croesawu gofynion penodol ar gyfer cefnogi mynediad artistiaid i ymgymryd â chyflogaeth yn unol â chylch gorchwyl y prosiect a bydd yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth berthnasol fel sy'n briodol i'r prosiect.