Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

WAHWN (Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru), a sefydlwyd yn 2013, yw’r corff cymorth sector cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae ein gwaith yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac ysgogwyr allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae ein haelodaeth ar gynnydd ac yn cynnwys dros 700 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd, gan gynrychioli sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch a gweithio ar draws yr ystod lawn o ymarfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, celfyddydau a chymunedol. Mae WAHWN yn falch o’i rôl ganolog mewn nifer o fentrau partneriaeth allweddol ac o’n safle yn cynnig llais cenedlaethol i’r sector ar lefel strategol, gan ddangos arfer gorau wrth roi polisïau sy’n bodoli ar waith a dylanwadu ar bolisïau newydd.

Gweledigaeth

Galluogi’r celfyddydau a chreadigrwydd i drawsnewid iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion, cymunedau a gofal iechyd yng Nghymru.

Cenhadaeth

  • Cefnogi, datblygu ac ymchwilio i ymarfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.  Mae hyn yn adeiladu ar ein rhwydweithiau sefydledig, sy’n estyn y tu hwnt i’n haelodau, ac yn cyrraedd arweinwyr y gwasanaeth iechyd a fforymau cynllunio allweddol megis Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau ac Iechyd. Drwy’r genhadaeth hon rydym ni’n ceisio:
  • Cysylltu a grymuso gwneuthurwyr newid ar draws ecoleg celfyddydau ac iechyd Cymru.
  • Ennill ein plwyf yn wleidyddol er mwyn cefnogi grym trawsnewidiol y celfyddydau a chreadigrwydd ar gyfer iechyd a llesiant.
  • Hyrwyddo a chefnogi arloesi creadigol er mwyn trawsnewid systemau gofal iechyd yng Nghymru.
  • Cynyddu gwydnwch ac effaith sefydliadau celfyddydol ac artistiaid ar gyfer cyflwyno gwaith artistig sy’n cyd-fynd â chanlyniadau iechyd a llesiant.

Ein Diben

Ysgogi datblygu cynaliadwy a thwf sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus, cynrychioliadol a chynhwysol yng Nghymru sy’n cysylltu ac yn cefnogi gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd, ac yn hyrwyddo cyfranogiad creadigol. Gweithredu fel archbwer i ddatgloi twf, llewyrch, iechyd, llesiant a gwydnwch.

Y gwerthoedd sy’n ein hysgogi:

  • Arloesol 
  • Cynhwysol 
  • Cydweithredol
  • Ymrwymo i newid cymdeithasol cadarnhaol
Chwilio