Opportunities & Events

Elusen y Celfyddydau a Lles, Inside Out Cymru, yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd

Location: Gwent

Summary:

Drwy ddod yn aelod o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, gallwch helpu i lywio’r prosiect yn ei flaen, dysgu mwy am faes y celfyddydau ac iechyd, a datblygu arfer a chysylltiadau o fewn y sector hwn.

Content:

A oes gennych chi angerdd dros y Celfyddydau? A ydych chi’n credu yn effeithiau therapiwtig gweithgaredd creadigol? A ydych chi wedi graddio’n ddiweddar neu eisoes yn gweithio yn y sectorau Celfyddydau neu Ofal Cymdeithasol? Os mai ‘oes’ neu ‘ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae angen eich help arnom ni! Mae Inside Out Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr gwirfoddol newydd i helpu i gydlynu, datblygu a goruchwylio eu rhaglen waith sy’n digwydd ledled Gwent. Pam dod yn ymddiriedolwr Inside Out Cymru? Drwy ddod yn aelod o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, gallwch helpu i lywio’r prosiect yn ei flaen, dysgu mwy am faes y celfyddydau ac iechyd, a datblygu arfer a chysylltiadau o fewn y sector hwn. Beth fyddai disgwyl i ymddiriedolwr ei wneud? Mae aelodau bwrdd Inside Out Cymru yn cyfarfod 3-4 gwaith y flwyddyn i gyfrannu at waith yr elusen trwy roi gyngor, barn a rhannu sgiliau. Gall Rheolwyr Prosiect alw ar ymddiriedolwyr am eu cymorth trwy gydol y flwyddyn a byddan nhw bob amser yn cytuno ar ymrwymiadau amser ymlaen llaw. Ynglŷn ag Inside Out Cymru Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Inside Out Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gydag oedolion gyda’r nod o hybu iechyd meddwl da a lles drwy’r celfyddydau, yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl fel ysbytai neu gartrefi gofal. Mae’r prosiect yn cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Casnewydd a Chaerffili. Sut i wneud cais I fynegi eich diddordeb, anfonwch lythyr byr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr y prosiect. Gellir anfon hwn drwy e-bost neu drwy’r post at y cyswllt isod: engage@inside-out-cymru.org neu Inside Out Cymru, d/o Arts Service, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili, NP12 1BB. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 12 canol dydd, dydd Gwener, 15 Mawrth 2024 a byddwn yn gwahodd y rhai sydd ar y rhestr fer i gyfarfod yn ystod Ebrill 2024 i gwrdd ag aelodau eraill y Bwrdd. Am unrhyw wybodaeth bellach, gan gynnwys cyfrifoldebau allweddol, cysylltwch â Kate Verity ar info@inside-out-cymru.org

Search