Opportunities & Events
Opera Cenedlaethol Cymru Cais am Gynigion ar gyfer Dadansoddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad SROI
Location: Ar-lein
Summary:
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwahodd cynigion gan sefydliadau neu unigolion sydd â chymwysterau addas i gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ar gyfer ein rhaglen Lles gyda WNO.
Content:
Cyflwyniad Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn rhannu effaith rymus opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, mewn cymdogaethau ac ar-lein. Credwn fod opera’n gallu trawsnewid bywydau a'n cenhadaeth yw dod â drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl. Gan adeiladu ar 77 mlynedd ers sefydlu’r Cwmni a'n gwreiddiau mewn canu cymunedol, mae opera’n rhan greiddiol o’r gerddoriaeth a grëir yng Nghymru ac yn chwarae rhan werthfawr yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn Lloegr. Fel cwmni cenedlaethol sydd â statws rhyngwladol, mae WNO yn gobeithio cyflwyno’r byd opera i bawb. Mae ein Gwerthoedd - Arloesi, Cyfranogiad, Creadigrwydd, Cynhwysiant ac Amrywiaeth - wrth wraidd ein diwylliant. Rydym yn ymrwymo i ymgysylltu â’n hartistiaid, ein gweithwyr celfyddydol a’n cynulleidfaoedd, ac rydym yn ymrwymo’n barhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cynaliadwyedd yr amgylchedd a’r Gymraeg. Gan edrych ymlaen tua’r dyfodol, mae WNO yn ymateb i fyd sy’n newid drwy lunio cynllun hirdymor i ddatblygu arfer cynaliadwy ar draws y sefydliad, gan greu cwmni cadarn sy’n sicrhau bod potensial opera’n cael ei gyflawni drwy hirhoedledd, etifeddiaeth a pherthnasedd. Mae WNO yn cyflogi dros 220 o bobl - yn amrywio o artistiaid, crefftwyr, technegwyr a chymorth busnes – a leolir yn ein cartref modern, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, a thu hwnt. Wrth galon WNO mae ein dau ensemble llawn amser, Corws WNO a Cerddorfa WNO, sy’n cynnwys cerddorion o’r radd flaenaf. Mae adran Prosiectau ac Ymgysylltu WNO yn cynnwys un Cyfarwyddwr Prosiectau ac Ymgysylltu, chwe Chynhyrchydd, un Rheolwr Addysg a Hyfforddiant a thri Chynorthwyydd Prosiect. Prosiectau ac Ymgysylltu WNO Mae Prosiectau ac Ymgysylltu yn chwarae rhan allweddol i gyflawni diben y Cwmni , sef sbarduno cenhedlaeth newydd i fwynhau opera, drwy weithio gyda chymunedau ledled Cymru a Lloegr – yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi dod ar draws opera o'r blaen neu heb fynediad i'r celfyddydau. Mewn ysbryd o gydweithredu, rydym yn creu prosiectau gyda chyfranogwyr o deuluoedd ifanc i bobl o oed ymddeol. Gyda thros 75 o brosiectau gwahanol yn cael eu cynnal yn wythnosol bob blwyddyn, mae ymgysylltu a chynhwysiant yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn, fel y gall cynulleidfaoedd fwynhau opera nid yn unig mewn theatrau ond ar draws amrywiaeth o wahanol fannau a llwyfannau anarferol. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd a phartneriaid newydd i sicrhau bod y ffurf gelfyddydol yn parhau i fod yn berthnasol i'r byd yr ydym yn byw ynddo. Sefydlwyd ein rhaglen ymgysylltu cymunedol ers dros 35 mlynedd. Mae'n sicrhau bod pob cenhedlaeth yn cael profiad celfyddydol eang gyda'r bwriad o ddod ag opera a manteision canu a pherfformio i gymunedau a gweithio gyda phobl na fyddai fel arfer yn gallu cymryd rhan yn y celfyddydau. Mae'r rhaglen yn gweithio ar draws pedair elfen o weithgarwch; Lles a Noddfa sy'n cynnwys ein gwaith ym maes iechyd a gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches; Addysgu ac Ysbrydoli sy'n cynnwys ein gwaith mewn ysgolion, gyda pherfformwyr ifanc a grwpiau o bob cenhedlaeth. Rhaglen Celfyddydau ac Iechyd (Lles gyda WNO) Mae ein strategaeth Celfyddydau ac Iechyd, a ddatblygwyd drwy ein tîm Prosiectau ac Ymgysylltu, wedi datblygu fwyfwy dros y pum mlynedd diwethaf yn unol â'r galw am ymyrraeth gelfyddydol gan y gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae adran Prosiectau ac Ymgysylltu WNO wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen hon sy’n datblygu ar draws gwahanol amgylcheddau gofal iechyd a lleoliadau cymunedol yng Nghymru. Wrth i gymunedau ledled y wlad geisio ymdopi â chymdeithas sy'n addasu i fyd sy’n newid a heriau fel yr argyfwng hinsawdd, adferiad COVID, heriau cynyddol iechyd meddwl ac effeithiau ynysu cymdeithasol ac anghydraddoldeb cymdeithasol, ein bwriad nawr, yn fwy nag erioed, yw ymateb yn rhagweithiol fel sefydliad celfyddydol cenedlaethol i gefnogi eu hanghenion. Gwyddom fod gan y celfyddydau gyfraniad arbennig o bwerus i'w wneud i sicrhau bod pobl yn teimlo’n iach ac yn rhan o gymdeithas, ac rydym yn canolbwyntio ar y maes hwn fel rhan bwysig o'n rhaglen wrth i ni barhau i geisio lleihau effeithiau tymor hir y pandemig. Yn 2021, cysylltodd tri bwrdd iechyd o Gymru ag Opera Cenedlaethol Cymru i gynllunio rhaglen gydweithredol sy'n diwallu anghenion cleifion â COVID Hir yng Nghymru, gyda'r nod o’u helpu i wella’n gorfforol trwy gynnig adnoddau i helpu symptomau diffyg anadl, a helpu i wella iechyd meddwl a llesiant a lleihau pryder. Mae'r rhaglen Lles gyda WNO bellach wedi'i sefydlu'n llawn ac yn cael ei chynnig mewn partneriaeth â saith bwrdd iechyd y GIG ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn defnyddio technegau canu ac anadlu a ddefnyddir gan gantorion opera proffesiynol i helpu’r rhai sydd â symptomau diffyg anadl, pryder a blinder. Mae’r cwrs yn para chwe wythnos trwy Zoom, ac mae grwpiau'n cael eu cynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ar ôl y chwe wythnos, rhoddir adnoddau i'r rhai sydd wedi cymryd rhan er mwyn iddynt ddal ati â'u hymarfer yn annibynnol a chynigir cyfle hefyd i ymuno â sesiynau galw heibio yn y tymor hir. Hyd yn hyn, rydym wedi casglu data sylweddol gan amrywiaeth o randdeiliaid trwy werthuso meintiol ac ansoddol dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner ers cyflwyno'r rhaglen. Roedd y rhain yn mesur canlyniadau ac yn cofnodi astudiaethau achos mewn perthynas â rheoli anadl, cysylltiad ac unigedd, pryder, hyder, a dysgu am iechyd anadlol a bod yn ymwybodol ohono, ymhlith eraill, mewn cydweithrediad â gwerthuswr annibynnol. Diben y Briff: Gan fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd dros y tair blynedd diwethaf, mae WNO bellach yn cychwyn ar gam nesaf y rhaglen, gyda’r nod o gyrraedd mwy o bobl, wrth ddyfnhau ein perthynas bresennol â’r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwahodd cynigion gan sefydliadau neu unigolion sydd â chymwysterau addas i gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ar gyfer ein rhaglen Lles gyda WNO. Cwmpas: Bydd y sefydliad neu'r unigolyn a ddewisir yn gyfrifol am: 1. Fapio’r canlyniadau (cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd) yn deillio o’r prosiect, gan ddefnyddio data gwerthuso a thystiolaeth sy'n bodoli eisoes ochr yn ochr â rhywfaint o ddata sy'n dod i'r amlwg lle bo'n berthnasol, o'r rhaglen barhaus. 2. Cynnwys damcaniaeth newid i ddangos llwybr cleifion o wasanaethau'r GIG i hunanreolaeth gyda chymorth, i hunanreolaeth. 3. Meintioli a gwerthuso'r canlyniadau a nodwyd, gan ddangos lefel y gwerth i gyfranogwyr y rhaglen a gwasanaethau'r GIG sy'n eu cyfeirio. 4. Cyfrifo'r gymhareb Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI). 5. Darparu argymhellion ar gyfer gwneud y mwyaf o werth cymdeithasol a gwella cost-effeithiolrwydd. 6. Llunio adroddiad SROI cynhwysfawr sy'n cofnodi'r fethodoleg, y canfyddiadau a'r argymhellion. Bydd canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid a chyllidwyr i helpu i lywio datblygiad a buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd hefyd yn helpu i gyfrannu at gynllunio, prosesau a rhaglennu’r elfen Lles gyda WNO yn y dyfodol. Rydym hefyd eisiau deall effaith y rhaglen ar WNO fel sefydliad, gan gynnwys dysgu sefydliadol a sut y gallwn wneud ein gwasanaethau’n fwy perthnasol ar draws meysydd eraill o'r GIG yn y dyfodol. Cwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol: Tua Rhagfyr 2024 (union ddyddiad i'w gytuno). Er mwyn i WNO roi’r dysgu ar waith drwy gydol y broses, bydd gofyn i ni werthuso'r cerrig milltir y cytunwyd arnynt drwy gydol y dadansoddiad. Gofynion y Cynnig: Gofynnir i bartïon â diddordeb gyflwyno cynigion sy'n cynnwys y canlynol: 1. Amlinelliad manwl yn nodi eich methodoleg arfaethedig ar gyfer dadansoddiad SROI (hyd at dair tudalen, neu recordiad sain / fideo 5 munud). 2. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y sefydliad neu'r unigolyn(ion), gan gynnwys profiad blaenorol o gynnal dadansoddiadau SROI neu asesiadau effaith gymdeithasol tebyg. Yn ddelfrydol, bydd yr enghreifftiau hyn yn cynnwys tystiolaeth o sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector celfyddydau; tystiolaeth o weithio gydag ystod eang o gyfranogwyr; tystiolaeth neu ddulliau o weithio gyda chyfranogwyr y mae'r Saesneg yn ail iaith iddynt; a dealltwriaeth o fethodoleg cyd-gynhyrchu. 3. Amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau'r dadansoddiad SROI, gan gynnwys cerrig milltir allweddol a’r hyn a gyflawnir. 4. Dadansoddiad cyllidebol, gan gynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig â chynnal y dadansoddiad. Canllawiau Cyflwyno: Dylid cyflwyno cynigion yn electronig i April Heade (Cynhyrchydd) ar april.heade@wno.org.uk dim hwyrach na 12pm, Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024. Ni chaiff cyflwyniadau hwyr eu hystyried. Efallai y gwahoddir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer am gyfweliad. Ffi: Rydym yn eich gwahodd i ddarparu dyfynbris fel rhan o'ch cyflwyniad. Dylech ddarparu dadansoddiad o’r gyllideb. Gwybodaeth Gyswllt: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag April Heade (Cynhyrchydd) ar april.heade@wno.org.uk / 02920 635049. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cynigion. Yn gywir, Opera Cenedlaethol Cymru