Opportunities & Events

Rheolwr Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd Rhan-amser (Band 6) - BIP Bae Abertawe

Location: Abertawe

Summary:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn chwilio am Reolwr Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd profiadol a brwdfrydig.

Content:

Ydych chi’n angerddol am Gelfyddydau mewn Iechyd? Ydych chi eisiau defnyddio’ch profiad i ysgogi newid ystyrlon a pharhaol yn y ffordd rydyn ni’n gweithio er mwyn cael poblogaeth hapusach ac iachach?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn chwilio am Reolwr Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd profiadol a brwdfrydig.

Mae hon yn gyfle cyffrous a heriol o fewn Tîm Celfyddydau ac Etifeddiaeth deinamig BIPBA, a wnaed yn bosibl gyda chyllid Adeiladu Capasiti Strategol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau a phrofiad drwy gymryd rhan mewn prosiectau Celfyddydol arloesol ac uchelgeisiol yn y GIG, gan weithio gyda’n cleifion, staff, cymunedau a phartneriaid allanol.

Bydd y rheolwr prosiect hefyd yn cefnogi datblygiad Strategaeth Celfyddydau newydd ac uchelgeisiol.

Mae’r ymgeisydd delfrydol yn frwdfrydig, yn drefnus ac â phrofiad dangosol mewn cyflwyno prosiectau o safon uchel yn sectorau’r Celfyddydau ac Iechyd. Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog yn hanfodol ar gyfer meithrin partneriaethau presennol a newydd gyda chymdeithasau elusennol allanol, grwpiau cymunedol, sefydliadau, cwmnïau ac artistiaid/hwyluswyr.

Mae profiad o fframweithiau gwerthuso, ASI (SROI) a gweithio gyda grwpiau ymylol yn ddymunol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a manylion cais yma.

Search