Digwyddiadau Hyfforddi

Ymhlith y digwyddiadau hyfforddi a’r adnoddau a sefydlwyd gan WAHWN mae:-

  • Celfyddyd Iechyd yng Nghymru’ Arddangosiad a Symposiwm – digwyddiad hyfforddi a rhwydweithio strategol a ddaeth â thros 40 o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr ym meysydd iechyd a’r celfyddydau at ei gilydd o Gymru a’r DU, â’r nod o gryfhau’r sector yng Nghymru a thrafod gweithredoedd strategol fel eiriol am gynrychiolaeth gan Lywodraeth Cymru yn y sector yn ogystal â chysylltu â’r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd y cyfranwyr yn cynnwys Cynnal Cymru/Sustain Wales; Sally Lewis, CCC; Tim Joss, Aesop a Dr John Wyn Owen. I weld adroddiad cryno a fideo o’r digwyddiad ewch i: engage.org/engcymru16AH
  • Gwerthuso Celfyddydau ac Iechyd Creative & Credible – hyfforddiant dan arweiniad Jane Willis o Willis Newson oedd yn edrych ar egwyddorion allweddol a methodolegau ar gyfer gwerthuso rhaglenni celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant. Gan edrych ar gyfnodau gwahanol cylch gwerthuso Creative and Credible, nod yr hyfforddiant oedd helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddatblygu fframwaith gwerthuso cadarn a chredadwy yn briodol i nodau ac adnoddau eu prosiect; a helpu i adeiladu sail gadarn o dystiolaeth yng Nghymru. Gallwch weld ein banc Gwybodaeth yma.

Chwilio