Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru
WAHWN (Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru), a sefydlwyd yn 2013, yw’r corff cymorth sector cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae ein gwaith yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac ysgogwyr allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae ein haelodaeth ar gynnydd ac yn cynnwys dros 700 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd, gan gynrychioli sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch a gweithio ar draws yr ystod lawn o ymarfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, celfyddydau a chymunedol. Mae WAHWN yn falch o’i rôl ganolog mewn nifer o fentrau partneriaeth allweddol ac o’n safle yn cynnig llais cenedlaethol i’r sector ar lefel strategol, gan ddangos arfer gorau wrth roi polisïau sy’n bodoli ar waith a dylanwadu ar bolisïau newydd.
Gweledigaeth
Galluogi’r celfyddydau a chreadigrwydd i drawsnewid iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion, cymunedau a gofal iechyd yng Nghymru.
Cenhadaeth
- Cefnogi, datblygu ac ymchwilio i ymarfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn adeiladu ar ein rhwydweithiau sefydledig, sy’n estyn y tu hwnt i’n haelodau, ac yn cyrraedd arweinwyr y gwasanaeth iechyd a fforymau cynllunio allweddol megis Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau ac Iechyd. Drwy’r genhadaeth hon rydym ni’n ceisio:
- Cysylltu a grymuso gwneuthurwyr newid ar draws ecoleg celfyddydau ac iechyd Cymru.
- Ennill ein plwyf yn wleidyddol er mwyn cefnogi grym trawsnewidiol y celfyddydau a chreadigrwydd ar gyfer iechyd a llesiant.
- Hyrwyddo a chefnogi arloesi creadigol er mwyn trawsnewid systemau gofal iechyd yng Nghymru.
- Cynyddu gwydnwch ac effaith sefydliadau celfyddydol ac artistiaid ar gyfer cyflwyno gwaith artistig sy’n cyd-fynd â chanlyniadau iechyd a llesiant.
Ein Diben
Ysgogi datblygu cynaliadwy a thwf sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus, cynrychioliadol a chynhwysol yng Nghymru sy’n cysylltu ac yn cefnogi gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd, ac yn hyrwyddo cyfranogiad creadigol. Gweithredu fel archbwer i ddatgloi twf, llewyrch, iechyd, llesiant a gwydnwch.
Y gwerthoedd sy’n ein hysgogi:
- Arloesol
- Cynhwysol
- Cydweithredol
- Ymrwymo i newid cymdeithasol cadarnhaol
- Amdanom Ni
- Ein Hamcanion
- Tîm WAHWN
- Cyfarwyddwyr WAHWN
- Ein Cefnogwyr
- Digwyddiadau Hyfforddi
- Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd: Rhestr Gyswllt
- Astudiaeth Mapio Cyngor Celfyddydau Cymru
- Conffederasiwn GIG Cymru
- Grŵp Trawsbleidiol Celfyddydau ac Iechyd
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC)
- HARP (Health Arts Research People)
- Copy of HARP (Health Arts Research People)