Training Events

Cyfarfod Rhwydwaith i Ymarferwyr Cymraeg eu Hiaith Mis Hydref

Date:

17-10-2024

Location:

Ar Lein | Online

Cost:

Am Ddim | Free

Summary:

Rydym ni am gynnig man penodol i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith gyfarfod yr hydref.

Tocynnau Yma

Content:

Dydd Iau 17 Hydref

10yb - 11.30yb


Mae WAHWN yn ymrwymo i adolygu ein darpariaeth ac effeithiolrwydd Cymraeg yn barhaus yng nghyd-destun ein cynlluniau a’n polisïau sy’n datblygu.

Rydym ni’n ymwybodol fod y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth i artistiaid ar hyn o bryd yn Saesneg, yn sgil y ffaith fod ein sail o aelodau llawrydd creadigol yn bennaf yn cynrychioli ymarferwyr Saesneg eu hiaith.

Rydym ni am gael gwell cynrychiolaeth i artistiaid Cymraeg yn y cyfarfodydd rhwydwaith a digwyddiadau hyfforddi.

Ar ôl cael nifer o sgyrsiau gydag Einir Siôn, Ysgogwr y Gymraeg gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Nia Wyn Skyrme, Ymarferydd a Chynhyrchydd Celfyddydau ac Iechyd, rydym ni am gynnig man penodol i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant gyfarfod yr hydref hwn i drafod ac ystyried sut y gall WAHWN leihau’r rhwystrau at ymgysylltu a chynyddu ein darpariaeth Gymraeg.

Bydd y Cyfarfod Rhwydwaith yn dilyn y strwythur arferol:

  • Cyflwyniad gan Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglenni, WAHWN
  • Grwpiau Trafod ar gyfer sgwrsio a rhwydweithio
  • Myfyrdod grŵp cyfan

Mae’r Cyfarfodydd Rhwydwaith am ddim i aelodau WAHWN – cofrestrwch yma i ymuno â’r rhwydwaith.

Tocynnau yma

 

-

 

Thursday 17 October

10am - 11.30am


WAHWN is committed to continually reviewing our Welsh language delivery and effectiveness against our developing plans and policies.

We are aware that the majority of our delivery for artists is currently in English, due to the fact that our creative freelance membership base predominantly represents English language practitioners.

We want to have a better representation of Welsh language artists in our network meetings and training events.

After some conversations with Einir Sion, Welsh Language Enabler at Arts Council Wales and Nia Wyn Skyrme, Arts & Health Practitioner and Producer, we want to offer a dedicated space for Welsh language practitioners in Arts, Health & Wellbeing this Autumn to meet, discuss and explore how WAHWN can reduce barriers to engagement and increase our Welsh language delivery.

The Network Meeting will follow our usual structure:

  • Introduction from Tracy Breathnach, Programme Manager, WAHWN
  • Breakout Rooms for conversation and networking
  • Whole group reflection

Our Network Meetings are free for WAHWN members – sign up here to join the network.

Tickets here

Search