Training Events

November Network Meeting | Cyfarfod Rhwydwaith mis Tachwedd

Date:

14-11-2023

Location:

Online

Cost:

£0.00

Summary:

The need for creative approach to tackle health inequalities.

-

Yr angen am ymagwedd greadigol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Content:

Following on from our Weave/Gwehyddu conference, this is a conversation between Emily van de Venter and Lexi Ireland on inequalities in mental health and wellbeing and considers how the creative sector can contribute to improving equity in mental health and wellbeing, and broader health outcomes for people experiencing mental health difficulties.

 

Emily van de Venter, Lead Consultant for Mental Health, Public Health Wales

Emily van de Venter is a consultant at Public Health Wales with lead responsibility for protecting and promoting mental wellbeing. She has worked in UK public health for 15 years and has a long-standing interest in mental health and wellbeing, which began with an undergraduate degree in neuroscience. Emily has published papers on arts and health approaches, as well as the impact of the COVID-19 pandemic on wellbeing.

Lexi Ireland, Strategic Lead for Health Inequalities, Coventry and Warwickshire Partnership Trust

Lexi Ireland is passionate about transforming mental health services in innovative, 'outside-the-box' ways to deliver the best healthcare for service users, family and carers. She has a particular interest in tackling health inequalities and is experienced in creating co-produced pathways, with a focus on QI approaches. Lexi will share her work on severe mental illness and health inequalities, the need for innovative partnership approaches, and arts and ethnicity, including promotion of the work carried out by the Cultural Inclusion Network.

 

-

 

Yn dilyn cynhadledd Gwehyddu, dyma sgwrs rhwng Emily van de Venter a Lexi Ireland ar anghydraddoldebau mewn iechyd meddwl a llesiant sy’n ystyried sut gall y sector creadigol gyfrannu at wella cydraddoldeb mewn iechyd meddwl a llesiant, a chanlyniadau iechyd ehangach i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

 

Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Emily van de Venter yn ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chyfrifoldeb arweiniol am warchod a hyrwyddo llesiant meddwl. Mae wedi gweithio ym maes iechyd cyhoeddus y DU ers 15 mlynedd ac mae ganddi ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a llesiant, a sbardunwyd gan radd israddedig mewn niwrowyddoniaeth. Mae Emily wedi cyhoeddi papurau ar ddulliau gweithio yn y celfyddydau ac iechyd, yn ogystal ag effaith pandemig COVID-19 ar lesiant.

Lexi Ireland, Arweinydd Strategol Anghydraddoldebau Iechyd, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Coventry a Warwickshire

Mae Lexi Ireland yn angerddol o blaid trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl mewn ffyrdd arloesol a blaengar i gyflawni’r gofal iechyd gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae ganddi brofiad o greu llwybrau a gyd-gynhyrchir, gyda ffocws ar ddulliau gwella ansawdd. Bydd Lexi’n rhannu ei gwaith ar salwch meddwl difrifol ac anghydraddoldebau iechyd, yr angen am ddulliau partneriaeth arloesol, a’r celfyddydau ac ethnigrwydd, gan gynnwys hyrwyddo gwaith a gyflawnir gan y Rhwydwaith Cynhwysiant Diwylliannol.

 

Search