Astudiaeth Mapio Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyhoeddodd CCC ‘Y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru - Astudiaeth mapio’r gweithgarwch presennol’ yn 2018. Mewn ymateb i ganfyddiadau’r mapio, mae CCC wedi ymrwymo i adeiladu ar ymarfer llwyddiannus yn y celfyddydau ac iechyd, datblygu capasiti a sgiliau yn sector y celfyddydau, a gweithio i gryfhau’r sail tystiolaeth ar gyfer y gwaith hwn. Mae’r argymhellion yn cynnwys y dylai CCC gefnogi WAHWN i’w alluogi i ddatblygu ei wasanaethau a’i adnoddau i gynnig gwell cymorth a sylfaen i weithgareddau ei aelodau, yn ogystal â chanolbwyntio ar y canlynol:-
- Llesiant ac adferiad mewn perthynas ag iechyd meddwl a phlant a phobl ifanc
- Dementia
- Cryfhau’r sail tystiolaeth
- Ymchwilio i fodelau ymarfer ariannol cynaliadwy
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn yma:- www.arts.wales/arts-in-wales/arts-and-health
Celfyddydau, Iechyd a Lles Rhaglen y Loteri
Nod y rhaglen yw cefnogi partneriaethau o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gynnal prosiectau creadigol o safon sy'n rhoi manteision iechyd a lles i bobl Cymru.
Rhaglen Ariannu’r Celfyddydau gydag arian y Loteri Genedlaethol. https://arts.wales/cy/ariannu/sefydliadau/celfyddydau-iechyd-lles
- Amdanom Ni
- Ein Hamcanion
- Tîm WAHWN
- Cyfarwyddwyr WAHWN
- Grŵp Llywio
- Digwyddiadau Hyfforddi
- Astudiaeth Mapio Cyngor Celfyddydau Cymru
- Conffederasiwn GIG Cymru
- Ein Cefnogwyr
- Grŵp Trawsbleidiol Celfyddydau ac Iechyd
- Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd: Rhestr Gyswllt
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC)
- HARP (Health Arts Research People)