Ein Cefnogwyr

Cyllidir WAHWN gan:

Gyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yw’r corff sy’n cyllido a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n elusen annibynnol a sefydlwyd drwy Siarter Brenhinol yn 1994 a phenodir ei haelodau gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn dosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol ac yn codi arian ychwanegol o ffynonellau sector preifat a chyhoeddus.

Ym mis Medi 2017 cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ei Gynllun Corfforaethol 5 mlynedd gan osod dwy brif flaenoriaeth:-

  1. Hyrwyddo Cydraddoldeb fel sail ar gyfer ymrwymiad clir i gyrraedd holl gymunedau Cymru’n ehangach ac yn ddyfnach
  2. Cryfhau Gallu a Gwytnwch y sector, gan alluogi talent greadigol i ffynnu

Cynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru 2018-2023 

Yn 2024 daeth WAHWN yn Sefydliad sy’n derbyn Cyllid Aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Chwilio