Training Events

December Network Meeting | Cyfarfod Rhwydwaith mis Rhagfyr

Date:

14-12-2023

Location:

Online via Zoom

Summary:

Join us for a creative, hands-on celebratory network meeting to connect and reflect on the year that's gone by.

-

Ymunwch â ni mewn cyfarfod rhwydwaith ymarferol dathliadol i gysylltu a myfyrio ar y flwyddyn a fu.

Content:

Join us for a creative, hands-on celebratory network meeting to connect and reflect on the year that's gone by.

Our guest artists will be the successful Wales Creativity Champions on 64 Million Artists' project - The January Challenge. You can take part in 2 x 25 minute workshops, which you will choose when you arrive. Please have basic materials to hand - pen, pencil, paper.

 


Ffion Pritchard is a multidisciplinary artist with a wide range of experience within the art, design, entertainment and media sector. Ffion is interested in how art can benefit society, be it through community-engaged art, art in healthcare or through the cathartic power of storytelling, humour and entertainment.

Sian is a Wellbeing Officer at Golygfa Gwydyr, Llanrwst, Conwy Valley. Golygfa Gwydyr have a site in the Gwydir Forest where we hold wellbeing sessions from foraging, basket weaving to bio blitz. They have recently started art sessions and are keen to develop the creative arts in their work, knowing the wellbeing benefits. They are currently working with veterans, Cartrefi Conwy and the local community.

Claire and Sally run Create Caerphilly Skills and Wellbeing CIC. They facilitate arts and crafts classes for all ages and use a wide range of mediums within these classes. Working predominately in Caerphilly and the surrounding areas, with community groups, charities and support organizations, Claire and Sally promote wellbeing through being creative. Our website is www.createcaerphilly.co.uk and you can find us on facebook and instagram.

 

Tickets here


-

 


Ymunwch â ni mewn cyfarfod rhwydwaith ymarferol dathliadol i gysylltu a myfyrio ar y flwyddyn a fu.

Yr artistiaid gwadd fydd Hyrwyddwyr Creadigrwydd llwyddiannus Cymru ar brosiect 64 Miliwn o Artistiaid – Her Mis Ionawr. Gallwch gymryd rhan mewn dau weithdy 25 munud, y byddwch chi’n eu dewis wrth gyrraedd. Dewch ag offer sylfaenol gyda chi – pin, pensil, papur.

 


Mae Ffion Pritchard yn unigolyn creadigol gydag ystod eang o brofiad yn y sector celf, dylunio, adloniant a’r cyfryngau. Mae gan Ffion ddiddordeb yn y ffordd y gall celf fod o fudd i gymdeithas, boed hynny trwy gelf gymunedol, celf mewn gofal iechyd neu trwy bŵer cathartig adrodd straeon, hiwmor ac adloniant.

Swyddog Llesiant yn Golygfa Gwydyr, Llanrwst, Dyffryn Conwy yw Sian. Mae gan Golygfa Gwydyr safle yng Nghoedwig Gwydir lle’r ydyn ni’n cynnal sesiynau llesiant, o fforio a gwehyddu basgedi i ‘bio blitz’. Yn ddiweddar maen nhw wedi dechrau sesiynau celf ac yn awyddus i ddatblygu’r celfyddydau creadigol yn eu gwaith, gan wybod am y buddiannau o ran llesiant. Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio gyda chyn-filwyr, Cartrefi Conwy a’r gymuned leol.

Mae Claire a Sally yn rhedeg Create Caerphilly Skills and Wellbeing CIC. Maen nhw’n hwyluso dosbarthiadau celf a chrefft i bob oed ac yn defnyddio cyfryngau amrywiol o fewn y dosbarthiadau hyn. Gan weithio’n bennaf yng Nghaerffili a’r cyffiniau, gyda grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau cymorth, mae Clair a Sally’n hyrwyddo llesiant drwy fod yn greadigol. Eu gwefan yw www.createcaerphilly.co.uk ac maen nhw ar facebook ac instagram. 

 

Tocynnau Yma

 

Search