Tîm WAHWN

Angela Rogers

Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol angela@wahwn.cymru

Rwy’n angerddol dros greu mannau ar gyfer cysylltu, dysgu a rhannu ac rwy’n falch o rôl WAHWN yn cefnogi ymarferwyr i greu’r cysylltiadau â strategaethau a blaenoriaethau’r darlun mawr, ac eiriol dros eu gwaith.

Tracy Breathnach

Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglen Llawrydd programmes@wahwn.cymru

Rwyf i wedi gweithio fel Rheolwr Rhaglenni WAHWN ers 2019, i ddechrau yn rheoli prosiect Sut Mae’n Mynd a bellach yn gweithio rhan amser yn llawrydd. Rwy’n gwneud hyn ochr yn ochr â gweithio fel ymgynghorydd diwylliant, iechyd a llesiant. Rwy’n gyfarwyddwr Break Free & Thrive – rydym ni’n cynnig coetsio a hyfforddi trawsnewidiol. Mae fy nghefndir yn eithaf amrywiol ar draws sectorau’r celfyddydau, cymuned, llesiant ac addysg a hefyd mae gennyf PhD mewn astudiaethau perfformio.

Becca May Collins

Becca May Collins, Cydlynydd Cymorth Prosiectau Llawrydd coordinator@wahwn.cymru

Mae fy mhrofiad yn Nhrydydd Sector y Celfyddydau a Llesiant, Celfyddydau Gweledol mewn Addysg Uwch ac fel artist fy hun yn dod at ei gilydd yn addas. Rwy’n gwybod bod pawb ar eu hennill drwy greadigrwydd, boed yn fynegiant, myfyrio neu ymdeimlad o fod gyda’n gilydd. Rwyf i wrth fy modd yn dod â fy ngwybodaeth a fy angerdd dros gynwysoldeb i fyd y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru, ac yn edrych ymlaen at ddysgu a rhannu mwy fyth!

Emilie Parry Williams

Emilie Parry Williams, Cymorth Cyfathrebu Digidol Llawrydd digital@wahwn.cymru

Rwyf i’n gantores lawrydd ac yn athrawes canu, yn arbenigo mewn Opera a Theatr Gerddorol, ac ar hyn o bryd yn gweithio i WAHWN fel Swyddog Cyfathrebu Digidol yn gosod y cylchlythyr misol at ei gilydd. Rwyf i wrth fy modd yn gweithio i WAHWN; rwyf i wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd, mae’n greadigol a diddorol iawn, ac mae’r tîm yn wych i weithio gyda nhw.

Chwilio