Cyfarwyddwyr WAHWN

Angela Rogers

Angela Rogers

Cyfarwyddwr Gweithredol, yn arwain ar bartneriaethau strategol, cyfleoedd eiriolaeth, codi arian a chyfleoedd i rwydweithio mewn partneriaeth gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol. Dros 30 mlynedd o brofiad rheoli prosiectau yn y sector diwylliant yng Nghymru, gan gynnwys Engage Cymru, Chapter, Canolfan Celfyddydau Sain Dunwyd a’r Ganolfan Celfyddydau Gweledol.

Justine Wheatley

Justine Wheatley

Mae Justine yn Ymgynghorydd Llawrydd yn sector y celfyddydau, diwylliant a’r amgylchedd ac mae ganddi brofiad o gynllunio strategol, codi arian, gwerthuso, hyfforddi, rheolaeth ariannol a chynllunio rhaglenni ar gyfer ymyraethau iechyd/natur. Hi oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Peak Cymru tan 2023, yn gweithio dros ac ar gyfer pobl ac artistiaid ifanc gydag ymarfer â chyswllt cymdeithasol. Mae hi’n hanesydd, yn gyn Gyfrifydd Siartredig ac mae’n dysgu Cymraeg.

Sarah Goodey

Sarah Goodey

Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, GARTH (Gwent Arts in Health) – dros 30 mlynedd o brofiad datblygu a rheoli prosiectau celfyddydau ac iechyd gyda phrofiad o lunio cynigion, codi arian, datblygu prosiectau. Artist preswyl ar nifer fawr o raglenni sy’n canolbwyntio ar iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Jain Boon

Jain Boon

35 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr theatr a gaiff ei llywio gan drawma, ymarferydd creadigol a Chyd-Gyfarwyddwr Artistig CIC ThisPlace, gyda Matilda Tonkin. 

Gwenno Jones

Gwenno Jones

Cyd-Gadeirydd RCCA (Rhwydwaith Cenedlaethol Celfyddydau ac Addysg); ymgynghorydd llawrydd i Do-Well (UK) Ltd – ymarfer arweinyddiaeth sy’n ymroi i lwyddiant pobl eraill, a thros 30 mlynedd o brofiad mewn rolau rheoli datblygu celfyddydau gan gynnwys awdurdodau lleol Sir y Fflint a Chonwy.

Joseph Conran

Joseph Conran

Mae Joseph Conran yn artist a strategydd yn sector yr amgylchedd. Mae ei ymarfer i’w ganfod yn y bwlch rhwng pobl a natur, ac yn cyfeirio’n aml at brosesau naturiol fel lens y gellir ymholi’r ddynoliaeth drwyddo. Yn ei arferion artistig a strategol, mae’n awyddus i greu mannau lle gall creadigrwydd ysbrydoli pobl i feddwl mwy am eu cysylltiad â natur, y manteision a geir yn ei sgil i’w llesiant, a’r rôl y mae’n ei chwarae i ddiogelu ein dyfodol.

Mae Joe wedi treulio 25 mlynedd yn gweithio yn sector yr amgylchedd. Yn gyntaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn fwy diweddar i Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hefyd yn Gymrawd Clore ac yn gadeirydd rhwydwaith artistiaid CARN. Drwy ei waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Joe wedi bod yn gweithio i greu cysylltiadau agosach rhwng sectorau’r celfyddydau a’r amgylchedd yng Nghymru, gan gynnwys y bartneriaeth ddiweddar gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a arweiniodd at edefyn newydd Natur yn y Gronfa Celfyddydau ac Iechyd.

Dr Cath Jenkins

Dr Cath Jenkins

Ers 15 mlynedd, mae Dr Cath Jenkins yn ymarfer fel meddyg teulu’r GIG yng ngorllewin Cymru. Mae hi’n gymrawd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, yn aelod o Grŵp Diddordeb Arbennig y RCGP dros iechyd creadigol. Ar ôl gweithio’n flaenorol yn rhan o Dîm Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bu’n ymwneud â chyd-greu Siarter Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda, adduned gyhoeddus i ymwreiddio’r celfyddydau yng ngwaith y bwrdd iechyd. Datblygodd brosiect peilot ‘dawnsio ar bresgripsiwn’ yn y clwstwr 2T a enillodd wobr gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am arloesi ac mae’n parhau i ymwneud â Gweithgor Presgripsiynu Creadigol Hywel Dda.

Becky Harford

Becky Harford

Arweinydd cymunedol, cyfarwyddwr, artist ac eiriolwr dros degwch, cynaladwyedd ac arweinyddiaeth greadigol yw Becky Harford. Cydsefydlodd Benthyg Cymru, rhwydwaith Llyfrgell Pethau cyntaf Cymru, gan ei ehangu ledled y wlad. Mae wedi gweithio’n helaeth i herio ac ailffurfio’r ffordd y mae cymunedau’n ymgysylltu ag adnoddau ac arweinyddiaeth, gan helpu sefydliadau i lunio modelau mwy hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy.

A hithau’n Wneuthurwr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Becky yn ymrwymo i greu datrysiadau sy’n cefnogi llesiant, cynaladwyedd amgylcheddol a gwydnwch cymunedol hirdymor.

Mae ei gwaith yn rhychwantu actifiaeth, llywodraethu, a’r celfyddydau, ac yn sicrhau bod dulliau creadigol yn cael eu gwreiddio mewn arweinyddiaeth a newid systemig. Mae ei hagwedd at ddatblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau, yn canolbwyntio ar feithrin gallu, mwyhau cryfderau sy’n bodoli a chefnogi sefydliadau ac unigolion i greu newid sy’n para.

Fel artist a bardd, mae Becky’n ystyried themâu gwrthsafiad, hunaniaeth a chysylltiad drwy ei hunan creadigol arall, Becky Cee. Mae ei gwaith wedi’i arddangos mewn arddangosfeydd fel The Radical Joy of Unmasking. Mae’n credu bod creadigrwydd yn arf ar gyfer newid cymdeithasol, grymuso a llesiant, ac mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng arweinyddiaeth, actifiaeth a’r celfyddydau.

Yn ei phrosiect diweddaraf, Leadership and..., mae Becky yn edrych ar sut beth yw arweinyddiaeth y tu hwnt i ystafell y bwrdd, gan godi lleisiau o gefndiroedd amrywiol a hyrwyddo modelau arwain cynhwysol, creadigol.

A hithau bellach yn ymddiriedolwr WAHWN, mae’n awyddus i gefnogi cam nesaf y rhwydwaith, ac eiriol dros ymagweddau’n seiliedig ar y celfyddydau at iechyd a llesiant sy’n creu effaith hirdymor.

Chwilio