Training Events

Arddangos ffilm Symud Hunan-Drugareddog The Body Hotel

Date:

21-02-2024

Location:

Caerdydd

Summary:

Arddangos ffilm Symud Hunan-Drugareddog The Body Hotel & Digwyddiad Penllanw y prosiect MOVING SELF-COMPASSION | The Body Hotel

Content:

Dr Thania Acarón yn eich gwahodd chi iddathliad arbennig o iechyd a lles a’r celfyddydau er mwyn rhannu’r rhai o'r canfyddiadau a chasgliadau o'n prosiect diwethaf, Symud Hunan-Drugareddog; DyddMercher 21 Chwefror 6:30pm (agenda isod). Byddwn yn cyflwyno rhywfaint o'n gwaith ac yn dangos ein ffilm fer newydd am y tro cyntaf!

Yn ystod Ebrill-Hydref 2023, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), cynhaliwyd rhaglen lawn o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar les staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled Cymru. Defnyddiodd y sesiynau strategaethau symud a oedd yn seiliedig ar atal gorlwytho yn y gwaith a meithrin mannau cefnogol ar gyfer timau staff. Cafodd Symud Hunan-Drugareddog ei werthuso gan RCSI, coleg brenhinol i lawfeddygon yn Iwerddon a Phrifysgol De Cymru fel rhan o werthusiad Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi [sef SROI], sy'n mesur canlyniadau lles meddyliol a hunan-effeithiolrwydd. Os gwelwch yn dda gwahoddwch unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a lles. 

Dewch i weld beth rydyn ni wedi bod yn gwneud!

Fformat Hybrid: wyneb-yn-wyneb neu ar-lein - archebwch drwy: https://www.thebodyhotel.com/selfcompassion 

Agenda 6:30-7:30pm

·  Croeso

· Cyflwyniad am Symud Hunan-Drugareddog

·  Cyflwyno Poster y Prosiect

·  Canfyddiadau a Dysgiadau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi gan Dr Teresa Filipponi, Prifysgol De Cymru

·  Premiere y ffilm: Symud Hunan-Drugareddog

·  Cwestiwn ac Ateb

 

7:30-8:30pm

·  Sgwrs a symud o gwmpas (yn y digwyddiad wyneb-yn-wyneb)

 

 

Pan fyddwch yn cyrraedd

CAB403 Yr Ystafell Zen | Pedwerydd Llawr | Adeilad Atriwm | Campws Caerdydd :: Chwiliwch am ystafelloedd Prifysgol De Cymru yma:

findaroom.southwales.ac.uk/cy

 

 

Search