Y Celfyddydau ac Iechyd

Mae’r celfyddydau ac iechyd yn cynnwys unrhyw brosiect, ymyrraeth neu gomisiwn celfyddydol â bwriad i wella iechyd a llesiant.

Mae sawl ffordd i ddisgrifio’r maes gwaith hwn (y celfyddydau mewn iechyd, celfyddydau ar gyfer iechyd, celfyddydau ac iechyd, celfyddydau iechyd a llesiant, iechyd creadigol) ond yn y pen draw mae’r cyfan yn ymwneud â’r effaith y gall ymgysylltu gweithredol ei gael ar iechyd a llesiant unigolion a chymunedau. Wrth i waith yn y maes dyfu, felly hefyd mae dealltwriaeth a mesur effaith ac mae corff cynyddol o dystiolaeth  ar gael erbyn hyn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, tyfodd dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r effaith y gall cyfranogi yn y celfyddydau ei gael ar iechyd a llesiant. Drwy ategu meddyginiaeth a gofal, gall y celfyddydau wella iechyd pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl neu iechyd corfforol a gwella eu llesiant.  Gall ymgysylltu â’r celfyddydau fod o gymorth i atal clefydau a hybu llesiant. Gall y celfyddydau wella amgylcheddau gofal iechyd a bod yn fuddiol i gadw staff, ynghyd â chyfoethogi eu hysbryd, eu llesiant a’u datblygiad proffesiynol.

Dechreuodd mudiad y Celfyddydau mewn Iechyd drwy gyflwyno gweithiau celf i ysbytai ond erbyn hyn mae wedi esblygu’n set amrywiol o arferion artistig. Mae llawer o brosiectau bellach yn mabwysiadu dull cymdeithasol gyda’u hymarfer celf, gan weithio mewn lleoliadau cymunedol, a elwir yn aml yn ‘gyfranogol’, tra bo modelau eraill yn integreiddio’n agos â systemau gofal iechyd megis ‘presgripsiynu cymdeithasol’. Mae hyn yn galluogi meddygon teulu i bresgripsiynu gweithgareddau (celfyddydol) er mwyn hyrwyddo llesiant cleifion, yn enwedig y rheini sydd angen dull ‘mwy na dim ond meddyginiaeth’.

Celfyddydau Iechyd a Llesiant yng Nghymru

Fel ffenomen fyd-eang, mae’r Celfyddydau mewn Iechyd wedi cael sbardun ffres yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015). Mae’r ddeddf yn dod â nodau ar gyfer meithrin diwylliant ac iaith Gymraeg lewyrchus ynghyd ochr yn ochr â hybu Cymru fwy iach – y cyfan yn rhan o weledigaeth gyfannol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Caiff cam datblygu newydd a chyffrous ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru ei hwyluso drwy nifer o weithredoedd strategol pwysig ar lefel genedlaethol. Yn 2017, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) Y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru, astudiaeth yn mapio gweithgaredd cyfredol, (2018) a arweiniodd at gyflwyno nifer o argymhellion. Llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yn 2017 rhwng CCC a chonffederasiwn GIG Cymru. Drwy’r Memorandwm hwn y nod yw datblygu meysydd gwaith ar y cyd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’r buddion a all ddeillio o’r celfyddydau i iechyd a llesiant (Conffederasiwn NHS Wales/GIG Cymru). Mae datblygu Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau ac Iechyd yn 2016 wedi arwain at waith i sicrhau dylanwad gwleidyddol ac effeithio ar bolisïau, arfer gorau a chefnogaeth yn y maes gwaith hanfodol hwn.

Credyd Ffilm:

Comisiynwyd gan Dîm Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cynhyrchwyd gan Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru.

Ffilm gan Simon Huntley

Chwilio