Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru wedi’i gynllunio i gysylltu unigolion â chymorth nad yw’n feddygol yn eu cymunedau i wella iechyd a llesiant. Mae’n pwysleisio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn helpu pobl i gyrchu adnoddau lleol fel grwpiau cymunedol, gweithgareddau corfforol a chyfleoedd i wirfoddoli.  Nod y fframwaith yw grymuso unigolion i ddeall eu hanghenion a’u cryfderau eu hunain, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth.

Mae Presgripsiynu Cymdeithasol, a elwir hefyd yn gelfyddydau ar bresgripsiwn, yn is-set o bresgripsiynu cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar integreiddio gweithgareddau celf a diwylliannol mewn gofal iechyd. Gall hyn gynnwys dosbarthiadau celf, therapi cerdd, gweithdai dawns, ac ymweliadau ag amgueddfeydd neu theatrau. Y nod yw manteisio ar fuddion therapiwtig gweithgareddau creadigol i wella iechyd meddwl, lleihau gorbryder ac iselder, a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.

Search