Digwyddiadau Hyfforddi

Ymhlith y digwyddiadau hyfforddi a’r adnoddau a sefydlwyd gan WAHWN mae:-

Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Chwefror 2026

Date: 19/02/2026 | Location: Ar Lein | Cost: Am Ddim

Summary:

Ymunwch â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Chwefror i glywed mwy am y ffordd y mae’r celfyddydau’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r potensial i ddatblygu datrysiadau’n canolbwyntio ar y celfyddydau ac iechyd. Archebwch eich lle yma.

Read More

Deall a mesur lles meddyliol - WCVA

Date: 10/02/2026 | Location: Arlein | Cost:

Summary:

​Ymunwch â Phrosiect Iechyd a Gofal Iechyd Cyhoeddus Cymru ac CGGC ar 10 Chwefror 2026, 2pm-3.30pm ar gyfer sesiwn Zoom ar deall a mesur lles meddyliol. 

Mwy o wybodaeth yma

Read More

Creative Ageing Network Meeting | Cyfarfod Rhwydwaith Heneiddio Creadigol

Date: 05/02/2026 | Location: Online | Ar Lein | Cost: Free | Am Ddim

Summary:

Join us to connect with creative ageing practitioners from across Wales at February's Creative Ageing Network Meeting. Book your place here | Ymunwch â ni i gysylltu ag ymarferwyr heneiddio creadigol o bob cwr o Gymru yng Nghyfarfod Rhwydwaith Heneiddio Creadigol mis Chwefror. Archebwch eich lle yma

Read More

  • Celfyddyd Iechyd yng Nghymru’ Arddangosiad a Symposiwm – digwyddiad hyfforddi a rhwydweithio strategol a ddaeth â thros 40 o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr ym meysydd iechyd a’r celfyddydau at ei gilydd o Gymru a’r DU, â’r nod o gryfhau’r sector yng Nghymru a thrafod gweithredoedd strategol fel eiriol am gynrychiolaeth gan Lywodraeth Cymru yn y sector yn ogystal â chysylltu â’r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd y cyfranwyr yn cynnwys Cynnal Cymru/Sustain Wales; Sally Lewis, CCC; Tim Joss, Aesop a Dr John Wyn Owen. I weld adroddiad cryno a fideo o’r digwyddiad ewch i: engage.org/engcymru16AH
  • Gwerthuso Celfyddydau ac Iechyd Creative & Credible – hyfforddiant dan arweiniad Jane Willis o Willis Newson oedd yn edrych ar egwyddorion allweddol a methodolegau ar gyfer gwerthuso rhaglenni celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant. Gan edrych ar gyfnodau gwahanol cylch gwerthuso Creative and Credible, nod yr hyfforddiant oedd helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddatblygu fframwaith gwerthuso cadarn a chredadwy yn briodol i nodau ac adnoddau eu prosiect; a helpu i adeiladu sail gadarn o dystiolaeth yng Nghymru. Gallwch weld ein banc Gwybodaeth yma.

Chwilio