Camu i Mewn
Camu i Mewn yw rhaglen flaenllaw WAHWN o hyfforddiant, mentora a dysgu ar sail profiad sy’n cefnogi ymarferwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i ‘gamu i mewn’ i faes y celfyddydau, iechyd a llesiant. Anelir y rhaglen, sydd bellach ar yr ail gam, yn benodol at ymarferwyr â phrofiad byw o iechyd meddwl, ymarferwyr Cymraeg eu hiaith a’r rheini o gefndiroedd mwyafrif byd-eang, LHDTC, B/byddar/anabl mewn ymateb i’r diffyg amrywiaeth yng ngweithlu’r celfyddydau ac iechyd creadigol.
Cynlluniwyd Camu i Mewn mewn ymateb i ddiffyg amrywiaeth yn y gweithlu creadigol ym maes y celfyddydau ac iechyd. Y nod yw meithrin carfan o ymarferwyr i gyflwyno prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd sy’n rhannu profiad byw pobl o gymunedau lleiafrifedig. Anogir ymarferwyr mentai â phrofiad byw o iechyd meddwl, cefndiroedd mwyafrif byd-eang, eithrio cymdeithasol neu gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel i ymgeisio i’r rhaglen a chânt eu cefnogi i gymryd rhan mewn wythnos lawn o hyfforddiant preswyl dwys, cysgodi artist profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am hyd at 10 diwrnod (gyda chymorth partneriaid y prosiect), derbyn sesiynau mentora, bwrsariaeth a chymorth cyfannol gan gynnwys goruchwyliaeth a chymorth cymheiriaid.
