Cynhelir digwyddiadau marchnad iechyd creadigol WAHWN mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru, gan gynnig cyfle i gydweithwyr o’r sectorau iechyd, celfyddydau a’r trydydd sector yng Nghymru gysylltu a rhwydweithio’n lleol.  

Fe’u cyllidir gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru, ac fe’u cynhelir bob dau fis yn ystod 2024 â’r nod o wella atgyfeiriadau, rhagnodi creadigol a chydweithio ar draws y celfyddydau ac iechyd yn rhanbarthau Cymru.

"Mae’r marchnadoedd yn ddigwyddiadau ‘sgwrs gyflym’ sy’n meithrin perthnasoedd cryf. Maen nhw’n cysylltu’r dotiau, yn gwella atgyfeiriadau, yn galluogi rhagnodi creadigol a chydweithio, yn cefnogi cyswllt cymdeithasol" - Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol, WAWHN 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau iechyd creadigol sydd ar y gwell ac archebu lle ar ein tudalen Eventbrite

Gweithgareddau

Casnewydd - Marchnadoedd

Mercher 17 Ebrill, 1.30yp - 3yp | Y Lle, Casnewydd

Tocynnau Yma

 

Dydd Mercher 17 Mis Ebrill 2024

1.30yp - 3yp

Y Lle, Casnewydd


Mae ein Marchnadoedd Celfyddydau ac Iechyd yn ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol i gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector sy’n dymuno gwella cysylltiadau a llwybrau atgyfeirio i mewn i brosiectau creadigol.

Dewch i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r wlad sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Byddwn yn cael rhai cyflwyniadau byr gan gydweithwyr cyn rhannu’n grwpiau bach ar gyfer rhwydweithio.

Sir Caerfyrddin - Marchnadoedd

Mawrth 18 Mawrth, 12yp – 2yp | Canolfan Magu, Caerfyrddin

Tocynnau Yma

 

Dydd Mawrth 18 Mis Mawrth 2024

12yp – 2yp

Canolfan Magu, Caerfyrddin


Mae ein Marchnadoedd Celfyddydau ac Iechyd yn ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol i gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector sy’n dymuno gwella cysylltiadau a llwybrau atgyfeirio i mewn i brosiectau creadigol.

Dewch i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r wlad sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Byddwn yn cael cyflwyniad byr gan y Ganolfan Magu ac Arts Care Gofal Celf cyn rhannu’n grwpiau bach ar gyfer rhwydweithio.

Pen-y-Bon - Marchnadoedd

Dydd Iau 29 Chwefror, 10yb - 11.30yb | Tŷ Carnegie, Pen-y-bont

Tocynnau Yma

 

Iau 29 Chwefror 2024

10am – 11.30am

Tŷ Carnegie, Pen-y-bont


Mae ein Marchnadoedd Celfyddydau ac Iechyd yn ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol i gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector sy’n dymuno gwella cysylltiadau a llwybrau atgyfeirio i mewn i brosiectau creadigol.

Cewch gyfarfod â chydweithwyr o bob rhan o’r sir sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Bydd gennym gyflwyniad byr gan y tîm Iechyd a’r Celfyddydau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sydd wedi bod yn gweithio gyda BAVOAwen a Tanio i greu model ar gyfer Rhagnodi Creadigol yn y sir.

Chwilio