Sut Mae’n Mynd?

 

Rhaglen llesiant creadigol yw Sut Mae’n Mynd? i artistiaid a sefydliadau celfyddydau sy’n gweithio yn y sector Celfyddydau ac Iechyd.

Cynhaliwyd y prosiect peilot, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn 2021-22 ac roedd wedi’i anelu’n benodol at lesiant artistiaid yn dilyn y pandemig. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma a gwylio ein ffilm Gwerthuso yma.

Lansiwyd yr ail ymgorfforiad ym mis Medi 2023 a bydd yn rhedeg am 2 flynedd gyda chyllid gan Sefydliad Baring. Mae’r prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar artistiaid sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl a gyda grwpiau sy’n fwy agored i ddioddef iechyd meddwl, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o hyfforddiant i sefydliadau celfyddydau ddatblygu eu cynnig llesiant tymor hirach eu hunain i’w staff a’u hartistiaid.

Gweithgareddau

Strategaethau ar gyfer Llesiant gyda Justine Wheatley - Rwnd 2

Mercher 01 Mai a Mercher 8 Mai | 10yb - 1yp | Ar Lein

Tocynnau Yma

 

 

Dyddiadau:

Mercher 01 Mai, 10yb - 1yp

A

Mercher 08 Mai, 10yb - 1yp

 

Cost:

£70 (Sefydliadau cyllid portffolio) / £40 (Sefydliadau cyllid prosiect)

Gallwn gynnig nifer fach o fwrsariaethau AM DDIM. Cysylltwch â ni os hoffech ymgeisio am un o’r rhain.


Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw sefydliad celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid llawrydd a/neu sydd â’u tîm eu hunain ar gyfer cyflwyno prosiectau celf cyfranogol. Yn benodol, anelir yr hyfforddiant at sefydliadau sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd, iechyd meddwl a llesiant. Anelir y cwrs at staff uwch mewn sefydliadau celfyddydol ac ymddiriedolwyr sy’n cefnogi llesiant strategol mewn sefydliad.


Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i wneud y canlynol:

Gwerthuso’r hyn rydych chi’n ei gynnig ar hyn o bryd a gwybod am gymorth llesiant ar gyfer eich timau cyflenwi.
Edrych ar sut mae diwylliant, strwythurau ac ymarfer y sefydliad yn effeithio ar lesiant ymarferwyr.
Dysgu beth yw arfer gorau mewn sefydliadau celfyddydol eraill.
Datblygu cynllun gweithredu i ddechrau eich taith at gyfoethogi eich cynnig cymorth llesiant.
 

Cynhelir yr hyfforddiant dros ddau hanner diwrnod ar Zoom. Mae angen i’r cyfranogwyr fod yn bresennol ar y ddau ddiwrnod.


Bydd gofyn hefyd i chi gwblhau ffurflen wybodaeth pan fyddwch yn cofrestru er mwyn ein helpu i deilwra’r cwrs i chi, yn ogystal â ffurflen werthuso ddilynol er mwyn i ni allu mesur effaith yr hyfforddiant.


Diwrnod 1:

  • Deall eich gwerthoedd sefydliadol a sut mae llesiant a gofal am ymarferwyr yn cyd- fynd a hynny.
  • Gweithredu ymarferol ar gyfer datblygu cynllun cymorth llesiant, gan gynnwys contractio, cyfathrebu, mynediad, cynefino.

Diwrnod 2:

  • Cymorth affeithiol – deall y gwahanol fathau o gymorth y gallech eu cynnig i’ch timau cyflenwi gan gynnwys adnoddau ac offer creadigol syml.
  • Enghreifftiau o arfer gorau i’ch ysbrydoli a’ch arwain.
  • Creu eich Cynllun Gweithredu eich hun ar gyfer y camau nesaf.
     

Mentora:

Gall sefydliadau wneud cais am sesiynau dysgu dilynol gan gymheiriaid gyda Justine ar ôl y cwrs os oes angen amser a chymorth ychwanegol i roi eich syniadau ar waith. Caiff gwybodaeth am hyn ei rhannu ar y cwrs.

 


Hyfforddwr:

Eich hyfforddwr fydd Justine Wheatley.

Mae Justine yn ymgynghorydd a hyfforddwr llawrydd. Mae’n weithiwr proffesiynol yn y celfyddydau ers dros 20 mlynedd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol y sefydliad celfyddydol gwledig Peak Cymru tan 2023 ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ymarferol yn cefnogi timau cyflwyno’n greadigol mewn cyd-destunau celfyddydau ac iechyd.

 


Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o raglen Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Sefydliad Baring, sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol artistiaid llawrydd. Mae WAHWN wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus yng Nghymru gan flaenoriaethu llesiant ein gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n cyflawni’r gwaith rhagorol a wneir ledled y wlad.

Darllenwch am brosiect peilot Sut Mae’n Mynd?:

Adroddiad gwerthuso gan Jane Willis

Ffilm gwerthuso

Artistiad: Hyfforddiant Deuddydd i Hwyluswyr Ymarfer Myfyriol gydag Alison O’Connor

Mawrth 23 Ebrill a Mawrth 24 Ebrill | 9yb - 5yp | Ar Lein

Tocynnau Yma

 

 

Dyddiadau:

23 a 24 Ebrill 2024, 9.30am-5pm [zoom]

Sesiynau Dilynol: 22 Mai 9.30-11am a 17 Gorffennaf 9.30-11.30am


Cost:

£180 / £140 Consesiynau (mae sefydliadau bach nad ydynt yn derbyn cyllid craidd yn gymwys i dderbyn y gyfradd gonsesiwn)


Yr Hyfforddiant:

Anelir y cwrs hyfforddi at hwyluswyr profiadol sy’n rhan o sefydliadau celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid i gyflenwi prosiectau creadigol neu sy’n gweithio gyda nhw.

Bydd y cwrs hyfforddi deuddydd yn rhoi sgiliau i chi allu cynnal grŵp Ymarfer Myfyriol yn eich sefydliad a bod â’r gallu i’w gyflenwi i sefydliadau eraill.

Diwrnod 1:

Profi sesiwn Ymarfer Myfyriol fel cyfranogwr: myfyrio a dysgu o hyn.
Cyflwyniad i Ymarfer Myfyriol a Dynameg Grŵp,
Y dulliau a’r sgiliau hwyluso sydd eu hangen.
Fframio sesiwn Ymarfer Myfyriol: amser, amcanion, cytundeb y grŵp.
Diwrnod 2:

Ymarfer mewn grwpiau bach ac adborth.
Ystyriaethau allweddol: goruchwylio a hunanofal; diogelu, rolau a chyfrifoldebau, heriau cyffredin.
Cynllunio eich rhaglen gyntaf.

Mae wedi’i brofi bod Ymarfer Myfyriol yn lleihau lludded yn y gweithle ac yn cynyddu gwydnwch (Naismith, N. (2019), Skovholt, T.M. a Trotter-Mathison, M. (2016). Caiff ei ddosbarthu’n fath o Gymorth Affeithiol, ac mae sefydliadau’n ei gynnig yn gynyddol i gefnogi eu staff.

Yn dilyn prosiect peilot yn 2021/22 fe wyddom fod galw cynyddol am Ymarfer Myfyriol ledled y sector celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Cafwyd cydnabyddiaeth gan Gyngor y Celfyddydau drwy gynnwys cyllideb ar gyfer llesiant artistiaid mewn ceisiadau cyllido a disgwyliad cynyddol ledled y dirwedd comisiynu celfyddydau ac iechyd ar draws y DU bod llesiant artistiaid yn cael ei gynnwys ym mhob prosiect.


Mae WAHWN wedi canfod bod buddion Ymarfer Myfyriol i artistiaid llawrydd yn sylweddol, ac rydym nawr am gefnogi sefydliadau i ganfod ffyrdd i wreiddio’r ymarfer yn eu sefydliadau er budd llesiant eu timau cyflwyno. Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau Baring Foundation.

Beth fyddwch chi’n ei gael:

  • Sgiliau newydd i hwyluso grŵp Ymarfer Myfyriol.
  • Adborth ar eich sgiliau hwyluso gan arweinydd y cwrs.
  • Gwell gallu i fyfyrio, y gellir ei gymhwyso i’ch llesiant personol a phroffesiynol eich hun.
  • Ymdeimlad cryfach o wydnwch personol a phroffesiynol.
  • Hyder i fynegi buddion Ymarfer Myfyriol i uwch reolwyr ac ymddiriedolwyr.
  • Bod yn rhan o rwydwaith gynyddol o hwyluswyr Ymarfer Myfyriol yng Nghymru.

 

Dilyniant:

Rydym ni am sicrhau eich bod yn cael digon o gefnogaeth ddilynol i gynnal eich rhaglen gyntaf, felly byddwn yn cynnig dwy sesiwn ar-lein AM DDIM un mis a thri mis ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol. Gobeithio y bydd gennych ymarfer i’w rannu erbyn yr ail sesiwn ddilynol.

Nodwch y dyddiadau yn eich dyddiadur wrth i chi archebu:

22 Mai 9.30-11am a 17 Gorffennaf 9.30-11.30am


Ar gyfer pwy mae hwn?

Anelir y cwrs at hwyluswyr celfyddydau profiadol sy’n gyflogedig (llawrydd neu staff) gan sefydliad celfyddydol yng Nghymru.

Bydd gofyn i’r hyfforddeion gynnal cwrs Ymarfer Myfyriol byr ar ôl yr hyfforddiant yn eu sefydliadau er mwyn i ni gael mesur yr effaith fel rhan o’r prosiect peilot hwn.

Mae gweithwyr llawrydd annibynnol sy’n dymuno manteisio ar yr hyfforddiant yn gymwys i ymgeisio, ond dim ond mewn partneriaeth gyda sefydliad sy’n fodlon cynnal treial byr (3 sesiwn o leiaf).

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am hyn.


Yr Hyfforddwr:

Alison O’Connor

Goruchwyliwr ymgynghorol yw Alison gyda 25 mlynedd o brofiad o waith grŵp, therapi a theatr gymwysedig. Mae wedi cael y fraint o weithio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys carchardai, cartrefi plant amddifad yn Romania, mewn camddefnyddio sylweddau, gydag oedolion hŷn, cyn-filwyr a goroeswyr trawma cymhleth. Bu’n gweithio am sawl blwyddyn fel Darlithydd ac Uwch-ddarlithydd Cwnsela a Seicotherapi ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae’n gyd-sylfaenydd Re-Live, elusen Celfyddydau ac Iechyd, gan gyd-greu Life Story Theatre gydag oedolion hŷn a phobl yr effeithiwyd arnynt gan drawma ac adfyd. Derbyniodd Alison a Chyd-sylfaenydd Re-Live, Karin Diamond, Wobr Ymarfer Celfyddydau ac Iechyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Iechyd Cyhoeddus am waith creadigol gyda theuluoedd milwrol. Hefyd derbyniodd y ddwy wobr am Arweinyddiaeth Ryngwladol yn y Celfyddydau ac Iechyd gan Arts and Health Australia. Mae Karin ac Alison wrthi’n ysgrifennu llyfr gyda’u ffrind a’u cydweithiwr Clark Baim, Creating Life Story Theatre: A Guide for Applied Theatre Practitioners, a gyhoeddir gan Methuen yn 2024.

Yn ddiweddar cynhaliodd Alison astudiaeth ymchwil fer ar safbwyntiau ymarferwyr ar effaith emosiynol gweithio yn y celfyddydau ac iechyd, ac effeithiau lliniarol goruchwylio ac ymarfer myfyriol. Cyhoeddwyd y canfyddiadau, The Work Hurts (2022), yn y Journal of Applied Arts and Health. Mae Alison wedi ymrwymo i gyfoethogi llesiant ymarferwyr drwy gyd-greu profiadau adferol, myfyriol sy’n caniatáu i bobl yn y proffesiynau cymorth fod yn iach yn y gwaith a wnânt.


Sut Mae’n Mynd?

Mae’r hyfforddiant yn rhan o raglen Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Sefydliad Baring. Ei nod yw cefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol artistiaid llawrydd. Mae WAHWN yn ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus yng Nghymru lle’r ydym yn blaenoriaethu llesiant ein gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n cynnal y gwaith rhagorol a wneir ar draws y wlad.

Gallwch ddarllen am brosiect peilot Sut Mae’n Mynd?:

Adroddiad gwerthuso gan Jane Willis

Ffilm gwerthuso

Cefnogaeth Ymarfer Creadigol gyda Alison O'Connor and Jain Boon

gan ddechrau ar Llun 19 Chwerfor | 6.30pm - 8pm | Ar Lein

Tocynnau Yma

 

 

Mae bod yn ymarferydd celfyddydau llawrydd yn gallu bod yn unig. Mae Ymarfer Myfyriol Creadigol Sut Mae’n Mynd? yn lle i gysylltu ag ymarferwyr creadigol eraill.

Bydd Jain yn cynnig set o ymarferion somatig i leddfu a chefnogi eich system nerfol a dod â chi i fan o ddifyrrwch er mwyn i chi osgoi cael eich llethu. Bydd Alison yn rhannu cyfres o ymarferion, gan eich gwahodd i fyfyrio ar eich gwaith a’ch llesiant drwy lens drugarog.

Ein bwriad yw creu man lle gallwn gefnogi ein gilydd a gyda hyn yn ein meddwl rydym ni’n gofyn i’r cyfranogwyr ymrwymo i’r cyfnod llawn o 6 wythnos.

Anelir y rhaglen at ymarferwyr creadigol sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl neu yn cefnogi cyfranogwyr sy’n fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, goroeswyr trais domestig a rhywiol a phobl sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf, cysylltwch â Rheolwr y

Rhaglen Tracy Breathnach am sgwrs programmes@wahwn.cymru.

 

Jain Boon - Mae Jain yn wneuthurwr theatr ac yn Ymarferydd Profi Somatig dan hyfforddiant (Cyfranogwr Lefel Canolraddol). Mae wrthi’n sefydlu thisPLACE, cwmni theatr dawns ar sail trawma gyda’r artist dawns/Seicotherapydd Symud Matilda Tonkin Wells. Mae Jain yn gweithio gyda Theatr Re-Live, Plant y Cymoedd Sparc a Music Theatre Wales ymhlith eraill. Mae’n angerddol dros y syniad fod ‘pobl yn gwella pobl’. @la_boon

Alison O’Connor - Mae gan Alison 25 mlynedd o brofiad mewn waith grŵp, therapi a theatr mewn carchardai, lleoliadau iechyd meddwl diogel, cartrefi plant amddifad yn Romania a gyda chyn-filwyr. Mae’n Gyd-Sylfaenydd Re-Live, elusen Celfyddydau ac Iechyd arobryn, sy’n creu gwaith stori bywyd therapiwtig gydag oedolion hŷn a phobl y mae trawma ac adfyd wedi effeithio arnynt. Mae’n therapydd integreiddiol ac yn oruchwyliwr clinigol, gyda diddordeb arbennig mewn dulliau’n seiliedig ar dosturi. Mae’n gweithio gyda hiwmor a mwynder, gan annog therapyddion i ofalu amdanynt eu hunain a’u meithrin eu hunain o fewn y gwaith a wnânt.



Cefnogaeth Ymarfer Creadigol gyda Cai Tomos

gan ddechrau ar Mawrth 06 Chwefror | 9am - 10am | Ar Lein

Tocynnau Yma

 

 

Diben y sesiynau hyn yw helpu pobl sydd angen rhagor o genfogaeth wrth fyfyrio ar eu gwaith eu hunain, ac effaith eu grŵp o gleientiaid a’r cyd-destun neu’r sefydliad y maen nhw’n gweithio o’i fewn ar yr hyn y maen nhw ei wneud, a sut.

Fframwaith o gymorth therapiwtic a dealltwriaeth o drawma yw sesiwn cefnogaeth gwaith creadigol. Mae’n gyfle i edrych ar y modd y mae gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn cael eu darparu. Mae’n gyfle hefyd i ystyried sut i ofalu amdanoch chi’ch hun o fewn gofynion y gwaith. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal drwy Zoom.

Mae Cai Tomos yn artist dawns a Seicotherapydd Celfyddydau annibynnol, ac yn Ymarferydd profi Somatig. Mae wedi gweithio fel perfformiwr a gwneuthurwr yn y DU ac yn Ewrop, a thros y 15 mlynedd ddiwethaf mae ei waith wedi canolbwyntio ar iechyd a rôl dawns, symud a’r celfyddydau gweledol yn y maes. www.caitomos.com www.sensingself.org

Strategaethau ar gyfer Llesiant gyda Justine Wheatley - Rwnd 1

Mawrth 30 Ionawr a Mawrth 6 Chwefror | 10yb - 1yp | Ar Lein

Tocynnau Yma

 

 

Dyddiadau:

Mawrth 30 Ionawr, 10yb - 1yp

A

Mawrth 6 Chwefror 2024. 10yb - 1yp

 

Cost:

£70 (Sefydliadau cyllid portffolio) / £40 (Sefydliadau cyllid prosiect)

Gallwn gynnig nifer fach o fwrsariaethau AM DDIM. Cysylltwch â ni os hoffech ymgeisio am un o’r rhain.


Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw sefydliad celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid llawrydd a/neu sydd â’u tîm eu hunain ar gyfer cyflwyno prosiectau celf cyfranogol. Yn benodol, anelir yr hyfforddiant at sefydliadau sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd, iechyd meddwl a llesiant. Anelir y cwrs at staff uwch mewn sefydliadau celfyddydol ac ymddiriedolwyr sy’n cefnogi llesiant strategol mewn sefydliad.


Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Gwerthuso’r hyn rydych chi’n ei gynnig ar hyn o bryd a gwybod am gymorth llesiant ar gyfer eich timau cyflenwi.
  • Edrych ar sut mae diwylliant, strwythurau ac ymarfer y sefydliad yn effeithio ar lesiant ymarferwyr.
  • Dysgu beth yw arfer gorau mewn sefydliadau celfyddydol eraill.
  • Datblygu cynllun gweithredu i ddechrau eich taith at gyfoethogi eich cynnig cymorth llesiant.

 

Cynhelir yr hyfforddiant dros ddau hanner diwrnod ar Zoom. Mae angen i’r cyfranogwyr fod yn bresennol ar y ddau ddiwrnod.


Bydd gofyn hefyd i chi gwblhau ffurflen wybodaeth pan fyddwch yn cofrestru er mwyn ein helpu i deilwra’r cwrs i chi, yn ogystal â ffurflen werthuso ddilynol er mwyn i ni allu mesur effaith yr hyfforddiant.


Diwrnod 1:

  • Deall eich gwerthoedd sefydliadol a sut mae llesiant a gofal am ymarferwyr yn cyd- fynd a hynny.
  • Gweithredu ymarferol ar gyfer datblygu cynllun cymorth llesiant, gan gynnwys contractio, cyfathrebu, mynediad, cynefino.

Diwrnod 2:

  • Cymorth affeithiol – deall y gwahanol fathau o gymorth y gallech eu cynnig i’ch timau cyflenwi gan gynnwys adnoddau ac offer creadigol syml.
  • Enghreifftiau o arfer gorau i’ch ysbrydoli a’ch arwain.
  • Creu eich Cynllun Gweithredu eich hun ar gyfer y camau nesaf.

 

Mentora:

Gall sefydliadau wneud cais am sesiynau dysgu dilynol gan gymheiriaid gyda Justine ar ôl y cwrs os oes angen amser a chymorth ychwanegol i roi eich syniadau ar waith. Caiff gwybodaeth am hyn ei rhannu ar y cwrs.

 


Hyfforddwr:

Eich hyfforddwr fydd Justine Wheatley.

Mae Justine yn ymgynghorydd a hyfforddwr llawrydd. Mae’n weithiwr proffesiynol yn y celfyddydau ers dros 20 mlynedd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol y sefydliad celfyddydol gwledig Peak Cymru tan 2023 ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ymarferol yn cefnogi timau cyflwyno’n greadigol mewn cyd-destunau celfyddydau ac iechyd.

 


Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o raglen Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Sefydliad Baring, sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac emosiynol artistiaid llawrydd. Mae WAHWN wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau ac iechyd llewyrchus yng Nghymru gan flaenoriaethu llesiant ein gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n cyflawni’r gwaith rhagorol a wneir ledled y wlad.

Darllenwch am brosiect peilot Sut Mae’n Mynd?:

Adroddiad gwerthuso gan Jane Willis

Ffilm gwerthuso

Chwilio