Gwehyddu 2025

Mae digwyddiadau prif banel Gwehyddu ar gael i’w gwylio’n ôl ar sianel YouTube WAHWN yma.

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer cynhadledd deuddydd Gwehyddu 2025 mewn partneriaeth gyda BIPBC a Phrifysgol Wrecsam, a daeth dros 300 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, polisi a chyllid i Brifysgol Wrecsam ar 8 a 9 Medi 2025 i ddathlu’r sector a mynd i’r afael â heriau gwreiddio’r celfyddydau mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y rhaglen yn cynnwys Mr Phormula, artist preswyl byw; araith bwerus gan yr artist gair llafar Duke-Al, trafodaethau panel strategol gyda Cyngor Celfyddydau Cymru, ymarferwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; perfformiadau teimladwy ac ysbrydoledig gan artistiaid a 12 o sesiynau trafod amrywiol yn cwmpasu natur greadigol, llesiant ymarferwyr, heriau iechyd, polisi celfyddydau, ymchwil ac iechyd meddwl pobl ifanc.

Roedd y canlynol ymhlith y siaradwyr nodedig:

  • Emily van de Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Heledd Fychan, AS
  • Sandy Clubb, Arweinydd Polisi: Cynnwys, Cydweithredu a Diwylliant, Swyddfa Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Dyfed Edwards, Cadeirydd, BIP Betsi Cadwaladr
  • Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam

"Roedd cynhadledd Gwehyddu eleni’n gampwaith o raglennu a threfnu - diolch cymaint am yr egni, y weledigaeth a’r arloesi a gafwyd dros y deuddydd diwethaf. Cyflawnwyd y cyfan mewn awyrgylch o heddwch a charedigrwydd. Roedd llawenydd a gobaith yn amlwg yno, ond dwi’n meddwl ein bod ni i gyd wedi gadael yn deall os ydyn ni am gyflawni potensial y sector, y bydd angen mwy o eiriol a chydweithio, yn enwedig yng ngoleuni etholiadau’r Senedd yn 2026" (cynrychiolydd)

Trefnir Weave gan Rwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Wrecsam, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chelfyddydau & Busnes Cymru.

Search