Gwehyddu 2023

Cynhelir ‘Gwehyddu’ ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd. Bydd yn canolbwyntio ar effaith gadarnhaol y celfyddydau a chreadigrwydd ar iechyd meddwl a llesiant Cymru.

 

Mae’r digwyddiad am ddim wedi’i gynllunio i adeiladu ar bartneriaethau, cynnydd a llwyddiannau arloesol y genedl yn y celfyddydau ac iechyd dros y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth dros chwe blynedd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.

 

Datgelu’r manylion

Mae’r canlynol ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau:

  • Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Derek Walker, Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
  • Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr;
  • Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

 

Bydd cyfres o sesiynau trafod yn tynnu sylw at amrywiol brosiectau iechyd creadigol ledled Cymru, fel y rhai sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n profi anhwylder straen wedi trawma a gweithdai creadigol Cymraeg i bobl y mae’r aflwydd hwn yn effeithio arnynt.

 

Hefyd bydd man rhwydweithio i gyfarfod a chysylltu â chydweithwyr o bob rhan o Gymru, yn ogystal â gweithgareddau creadigol dan do ac awyr agored i gefnogi eich llesiant chi ar y dydd.

 

Mae cynhadledd Gwehyddu’n garreg filltir newydd yn yr ymdrechion i wreiddio’r celfyddydau a chreadigrwydd yn nulliau iechyd a gofal Cymru. Byddwch yn rhan o’r drafodaeth.

Search