Evaluation and Handbook
Writing Tree Evaluation and Handbook
Author: GWYN LEWIS & DR SARAH DOUGLASS
MMI is a collaborative arts and health project that aims to create a playful, adaptable, wearable technology for encouraging people in residential homes to experience the joy of moving together.
Author: Wendy Keay-Bright, Professor of Technology and Inclusion, Cardiff Metropolitan U
Arts, mental health and refugees
New report from the Baring Foundation - Creatively Minded and Refugees, showcasing organisations who offer creative opportunities to refugees and people seeking asylum.
Author: Counterpoint Arts
Corff aelodaeth sy’n ehangu’n gyflym yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae’n rhwydwaith agored am ddim i unrhyw un sy’n gweithio yn y celfyddydau, iechyd a llesiant, neu sydd â diddordeb yn y maes. Ymhlith yr aelodau ceir artistiaid, cyrff celfyddydol, gweithwyr iechyd proffesiynol, academyddion, cyrff gwirfoddol, cyllidwyr, cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol gan gynrychioli’r ystod lawn o ffurfiau ac ymarfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, celfyddydau a chymunedol.
Rydym ni wedi crynhoi rhai adnoddau penodol i bob un o’n mathau o ddefnyddiwr. Cliciwch y botymau isod i weld yr adnoddau fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gweithio, comisiynu neu gefnogi’r celfyddydau mewn iechyd:
Ydych chi’n ymroddedig i gydweithio i gryfhau ac eiriol ar ran y celfyddydau fel rhan o lesiant ac iechyd? Yna mae WAHWN yn addas i chi.
Rhwydwaith strategol i’r celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru yw WAHWN – man cyfarfod cyffredin ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chyd-hyrwyddo gweithgareddau. Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn cynnwys datblygu hyfforddiant a darpariaeth datblygu, datblygu adnoddau, ymchwil, digwyddiadau ac eiriolaeth.
Bydd aelodau o WAHWN yn gallu:
Rhannu eu gwybodaeth gydag eraill yn y Rhwydwaith
Postio cyfleoedd, digwyddiadau, newyddion a blogiau
Cysylltu â’i gilydd i rannu gwybodaeth a datblygu gwaith ar y cyd
Cyflwyno astudiaethau achos, ymchwil, papurau, adroddiadau gwerthuso a phrosiect
"Mae’r Rhwydwaith yn ein helpu ni i wybod pa weithgaredd sydd ar waith ar draws Cymru, rhannu gyda chydweithwyr a datblygu partneriaethau newydd sy’n hanfodol yn yr oes sydd ohoni. Mae symudiad cynyddol cyffrous yn y celfyddydau ac iechyd yn y DU ac yn enwedig yng Nghymru, ac rwy’n credu bod y rhwydwaith hwn yn hanfodol ar gyfer cadw hynny i fynd a pharhau i ehangu ein cyrhaeddiad a’n darpariaeth er budd cynifer o gymunedau ar draws ein gwlad "
Claire Cressey, Cyfarwyddwr, Live Music Now Cymru
“Mae’r rhwydwaith wedi bod yn rhagorol ar gyfer cyfarfod â phobl eraill sy’n gweithio yn y celfyddydau ac iechyd. O ganlyniad i’r rhwydwaith rwyf i wedi sicrhau cysylltiadau cydweithio newydd ar gyfer rhannu hyfforddiant ar sail ymchwil. Rwy’n rhagweld cydweithio pellach o ran datblygu a gwerthuso ymchwil”
Dr Gill Windle, Uwch Ymchwilydd, Adran Ymchwil Gwasanaethau Dementia Prifysgol Bangor
"Llongyfarchiadau enfawr ar lwyddo i gynnal diwrnod mor fywiog a threfnus (Symposiwm ac Arddangosfa Celf Iechyd yng Nghymru WAHWN). Nifer dda yn bresennol ac ymdeimlad gwych o undod a chydlyniad yn yr ystafell. Da iawn!"
Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru
“As soon as I joined, the Network gave me a point of connection with other people like me, I can’t tell you how valuable that is. It’s common to be the only one of your kind in a healthcare institution, it can be very isolating. In WAHWN, not only do I have a solid group of colleagues that I can share ideas with and ask advice from, I also find myself doing exciting new work with other members as we discover shared needs and interests within the field of Arts And Health.”
Heather Parnell, Bwrdd Iechyd Cwm Taf
"Mae’r cyfarfodydd rhwydwaith yn ffordd hynod werthfawr i ymarferwyr fel fi glywed y diweddaraf am DPP yn y celfyddydau ac iechyd a chadw cysylltiad ag aelodau a’u gwaith yn enwedig gan ein bod yn byw mewn ardal gymharol anghysbell. Mae’n caniatáu i i ni hyrwyddo’r celfyddydau mewn iechyd yn yr ardaloedd hyn sydd angen cymorth"
Tanya Dower, Live Music Now Cymru