Cynefin 4 - Sut gall y celfyddydau helpu i ehangu mynediad at fuddion y cysylltiad â natur?
Ym mis Hydref 2026, cynhaliwyd ein digwyddiad Cynefin olaf – Cynefin 4. Gallwch wylio’r recordiad isod.
Roedd y digwyddiad, Sut gall y celfyddydau helpu i ehangu manteision natur i iechyd?, yn edrych ar y modd y gall y celfyddydau a natur gyfrannu at iechyd a llesiant.
Yn eu prif anerchiadau, bu’r Athro David Sheffield a Megan Cumming o Brifysgol Abertawe yn trafod manteision cysylltu â natur i’n hiechyd, a sut y gall ymgolli’n llwyr mewn gweithgaredd sy’n ein hamsugno (flow) fod yn ffordd gynaliadwy o hybu llesiant.
Clywsom hefyd am brosiectau ysbrydoledig sy’n rhoi’r syniadau hyn ar waith, gan gynnwys Clwb Crefft, Teithiau Cerdded Canu One World Choir, Synwyriwm, Space to Grow and Create gyda’r artist Ami Marsden, a Creative Grow Well. Mae’r mentrau hyn yn dangos sut y gall gweithgareddau creadigol sy’n ein cysylltu â natur helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu cymunedau cryfach ac iachach.
Tynnodd y digwyddiad sylw hefyd at yr angen i roi mwy o sylw i’r cysylltiadau rhwng iechyd, y celfyddydau, yr hinsawdd a natur mewn trafodaethau cyhoeddus ac wrth lunio polisïau. Mae’n bwysig cydnabod y gall cael mynediad at natur a threulio amser yn gysylltiedig â’r byd naturiol chwarae rhan allweddol yn ein llesiant a’n gallu i ymdopi â heriau bywyd, yn ogystal â helpu i sicrhau gwell iechyd a mwy o gydraddoldeb i bawb.
Mae rhagor o wybodaeth am Cynefin sy'n weddill ar gael yma.
- Rhaglenni
- Sut Mae’n Mynd?
- Marchnadoedd Iechyd Creadigol
- Camu-i-Mewn
- Cynefin
- Hyrwyddwyr Cynefin
- Cynefin 1 - Sut all y celfyddydau gyfrannu at y dechrau gorau mewn bywyd?
- Cynefin 2 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu at gymunedau a lleoedd iachus a chynaliadwy?
- Cynefin 3 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu a Atal Afiechyd?
- Cynefin 4 - Sut gall y celfyddydau helpu i ehangu mynediad at fuddion y cysylltiad â natur?
