Cam Dau Camu i Mewn: 2026

Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru’n falch i gyhoeddi enwau’r 12 cyfranogwr a ddewiswyd ar gyfer cam dau rhaglen ‘Camu i Mewn’.

Dechreuodd y rhaglen gyda pheilot yn 2024, ac mae’n cefnogi ymarferwyr creadigol sy’n wynebu rhwystrau wrth ymuno â’r sector celfyddydau ac iechyd, yn enwedig y rheini sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl a’r rheini o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae carfan 2026 yn cynnwys Arawn Bryn (darlunio, animeiddio); Catrin Cheung (barddoniaeth, ysgrifennu creadigol); Catrin Wilson (dawns); Ceris Dyfi Jones (celf weledol, tecstilau); Francesca Simmons (artist sain, cerddor); Joe Pelé Boyd (cerddor, drymiau); Lowri Hedd Vaughan (barddoniaeth, ysgrifennu creadigol); Mariel H Griffiths (cerddoriaeth, dawns); Maysie Bye (therapi galwedigaethol, natur, celf weledol); Nia Haf (theatr); Peri Haf Smith (celf weledol); Tilly Butters (darlunio).

Dywedodd Rebecca Hardy-Griffith, Rheolwr Prosiect Camu i Mewn: “Ar ôl ymateb mor gryf i’r alwad am fentoreion yng ngham dau, rydyn ni wrth ein bodd i gael carfan mor gryf ar y prosiect, yn adlewyrchu amrywiaeth o arferion creadigol a phrofiad byw. Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant strwythuredig, mentora a lleoliadau gwaith i gefnogi dilyniant i mewn i leoliadau celfyddydau ac iechyd. Allwn ni ddim aros i ddechrau.”

Camu i Mewn

Datblygwyd Camu i Mewn mewn ymateb i ymgynghoriadau dan arweiniad WAHWN a nododd rwystrau systemig i ymuno â’r gweithlu iechyd creadigol. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg llwybrau mynediad â thâl, darpariaeth gyfyngedig yn y Gymraeg, bylchau mewn goruchwylio a mentora, a diffyg cynrychiolaeth i ymarferwyr mwyafrif byd-eang, B/byddar ac anabl, a’r rheini â phrofiad byw.

Yn 2024 cefnogodd y rhaglen beilot bedwar ymarferydd drwy hyfforddiant, lleoliadau gwaith, mentora a chymorth llesiant. Canfu gwerthusiad diweddarach o’i effaith fod hyder yr holl gyfranogwyr wedi cynyddu a’u bod i gyd wedi sicrhau gwaith â thâl mewn iechyd creadigol o fewn chwe mis.

Y rhaglen yn 2026

Yn 2026, mae’r rhaglen wedi treblu yn ei maint i 12 o fentoreion, gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

Yn y cylch hwn, mae’r ffocws ar ogledd Cymru, lle byddwn ni’n creu partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Hamdden Sir Ddinbych, Pontio (Prifysgol Bangor), Fran Wen, Theatr Cymru, Theatr Clwyd, a Chanolfan Gerdd William Mathias i gau bylchau o ran mynediad at gyfleoedd iechyd creadigol, gan gynnwys darpariaeth yn y Gymraeg.

Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi wythnos o hyd yn cwmpasu ymwybyddiaeth iechyd meddwl, ymarfer seiliedig ar drawma, diogelu a hwyluso. Yn dilyn hyn cynhelir lleoliadau gwaith mewn lleoliadau cymunedol a chlinigol, gyda chyfleoedd i gysgodi a chyd-hwyluso.

Bydd pob mentorai hefyd yn derbyn mentora un i un, bwrsariaeth o £1,000 a mynediad at gymorth llesiant a goruchwylio, gan gynnwys rhwydweithiau cymheiriaid.

Mae WAHWN yn rhwydwaith cenedlaethol sy’n cefnogi iechyd creadigol a llesiant ledled Cymru. Mae Camu i Mewn yn rhan o waith ehangach y sefydliad i ddatblygu gweithlu mwy cynrychioliadol a hygyrch ym maes y celfyddydau ac iechyd.

 

Search