Hyrwyddwyr Cynefin

Yr Athro Isabel Oliver

Yr Athro Isabel Oliver

Yr Athro Isabel Oliver yw Prif Swyddog Meddygol Cymru. Mae hi’n cynnig arweiniad clinigol annibynnol a chyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Fe’i penodwyd yn 2025, ac mae’n gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i wella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau a chryfhau’r GIG.

Hyfforddodd yr Athro Oliver yn wreiddiol mewn meddygaeth ysbyty aciwt yn Lloegr cyn arbenigo ym maes iechyd y cyhoedd. Mae wedi dal nifer o rolau cenedlaethol ar lefel uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwyddoniaeth ac Ymchwil a Phrif Swyddog Gwyddonol yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Yn flaenorol, hi oedd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol gyda Public Health England gan arwain rhaglenni pwysig mewn epidemioleg a diogelu iechyd.

Ochr yn ochr â’i chyfrifoldebau arwain, mae ganddi broffil academaidd cryf, gan wasanaethu fel athro er anrhydedd a chyd-gyfarwyddwr ar uned yn y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar glefydau heintus, atal a gwella canlyniadau iechyd drwy bolisi’n seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio.

Dafydd Rhys

Dafydd Rhys

Prif Weithredwr
Cyngor Celfyddydau Cymru

Cafodd Dafydd yrfa hir yn y diwydiant teledu yn gynhyrchydd cynnwys a Darlledwr. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru cyn symud i’r sector annibynnol. Bu hefyd yn Olygydd Comisiynu gydag S4C ac yna’n Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel tan fis Hydref 2016 cyn derbyn swydd Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chadeirydd AM, ap digidol sector y celfyddydau yng Nghymru yn 2021/22.

Hanan Issa

Hanan Issa

Bardd Cenedlaethol Cymru
Llenyddiaeth Cymru

Awdur, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iraqi yw Hanan. Mae ei gwaith yn rhychwantu disgyblaethau niferus gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau a rhyddiaith, theatr, ffilm ac animeiddio. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth My Body Can House Two Hearts a enillodd gystadleuaeth pamffled Burning Eye Books yn 2019, Welsh Plural: Essays on the Future of Wales (Repeater Books), ei blodeugerdd o farddoniaeth i blant And I Hear Dragons (Firefly Press) a Chronic Women (Gwasg Honno). Yn 2025 dyfarnwyd Doethuriaeth Er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru tan 2027.

Philip Daniels

Philip Daniels

Arweinydd Iechyd y Cyhoedd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Philip Daniels yw Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle mae’n arwain y cyfeiriad strategol ar gyfer gwella a diogelu iechyd y boblogaeth ledled y rhanbarth. Mae ganddo gefndir eang mewn ymarfer iechyd y cyhoedd, yn cwmpasu gwarchod iechyd, gwella iechyd a mynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach.

Cyflawnodd Philip hyfforddiant iechyd cyhoeddus arbenigol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr gan sicrhau profiad helaeth yn rhyngwladol cyn dychwelyd i Gymru ym mis Hydref 2019. Yn ystod pandemig COVID-19, chwaraeodd rôl allweddol fel ymgynghorydd diogelu iechyd, gan gyfrannu at yr ymateb cenedlaethol a rhanbarthol. Yn ddiweddarach ymunodd â thîm iechyd y cyhoedd Cwm Taf Morgannwg lle bu’n arwain rhaglenni’n canolbwyntio ar wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Dr Kathrin Thomas

Dr Kathrin Thomas

Mae Kathrin wedi cyfuno gyrfa fel Meddyg Teulu ac Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus. Mae wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael ag annhegwch iechyd, drwy weithio fel meddyg teulu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn Lerpwl a chymoedd de Cymru, ac mewn amrywiol rolau iechyd cyhoeddus strategol.  Hi yw’r Arweinydd Iechyd Cyhoeddus ar ran Pen Dwfn Cymru, mae’n Uwch Gymrawd Comisiwn Bevan ac yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn Isadran Iechyd y Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o gyfraniad y sector iechyd at fynd i’r afael ag annhegwch iechyd. Mae hi’n aelod o Grŵp Diddordeb Arbennig Cydraddoldeb Iechyd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a than yn ddiweddar roedd yn gyd-Gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn iechyd byd-eang, fel cyn Gadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica.

Yr Athro Diane Crone

Yr Athro Diane Crone

/

Kathryn Lambert

Kathryn Lambert

Pennaeth y Celfyddydau ac Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Kathryn yw arweinydd y Celfyddydau ac Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn sector y celfyddydau ac yn agos i bum mlynedd mewn gofal iechyd. Arweiniodd Kathryn ar gyd-greu a chyhoeddi Siarter Celfyddydau ac Iechyd arloesol Hywel Dda; adduned gyhoeddus i integreiddio’r celfyddydau yng ngwaith y Bwrdd Iechyd i wella iechyd a llesiant a hyrwyddo iachau ac ymadfer, y gyntaf yng Nghymru.

Mae Kathryn yn rhan o dîm cenedlaethol o arweinwyr Celfyddydau ac Iechyd, un ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru ac ymrwymiad i osod y celfyddydau wrth galon trawsnewid y gwasanaeth.

Celfyddydau ac Iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dr Britt Hallingberg

Dr Britt Hallingberg

Mae Dr Britt Hallingberg yn Ddarllenydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Arweinydd Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Iechyd Cyhoeddus a Llesiant o fewn y Ganolfan Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant (CAWR). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar wella iechyd a llesiant ar draws cwrs bywyd, gydag arbenigedd penodol mewn iechyd pobl ifanc.

Mae ymchwil Britt yn archwilio sut mae cyd-destunau bob dydd - fel gweithgareddau hamdden, amgylcheddau cymunedol, a pherthnasoedd cymdeithasol - yn llunio ymddygiadau a chanlyniadau iechyd pobl ifanc. Mae hi hefyd yn arbenigo mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth, gan gynnwys addasu rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwahanol leoliadau. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid ar draws ymchwil, polisi ac ymarfer, mae gan Britt ddiddordeb arbennig mewn cynhyrchu mewnwelediadau ymarferol, byd go iawn sy'n cefnogi cymunedau iachach a mwy cyfartal.

Cathy Weatherup

Cathy Weatherup

Prif Ysgrifennydd Preifat/Cynghorydd Polisi Iechyd y Cyhoedd
Swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol

Cathy yw’r Prif Ysgrifennydd Preifat a Chynghorydd Polisi Iechyd y Cyhoedd yn nhîm Swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol yn Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, bu’n Bennaeth yr Uned Iechyd a Chynaladwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle bu’n helpu i godi proffil buddion y celfyddydau i iechyd drwy weithio gyda Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a chyhoeddi yn rhifyn arbennig Panorama UE yr WHO ar y Celfyddydau ac Iechyd (Mawrth 2020).  Cafodd ei hysbrydoli a’i chymell i ymgymryd â gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd ar ôl gweithio mewn datblygu cymunedol gan gynnwys helpu i gychwyn a chefnogi prosiectau celfyddydol rhyngddiwylliannol yng Nghaerdydd a chymoedd de Cymru.

Dr Durre Shahwar

Dr Durre Shahwar

Mae Dr Durre Shahwar yn awdur rhyngddisgyblaethol, ymchwilydd ac artist. Hi yw cyd-olygydd Gathering: Women of Colour on Nature (404 INK, 2024) a Just So You Know (Parthian Books, 2020). Mae gan Durre PhD mewn ffuglen hunangofiannol a hunaniaeth Pacistani-Cymreig o Brifysgol Caerdydd a bu’n ddeiliad Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol. Cafodd ei harddangosfa unigol o ffotograffau ynghyd â phamffled ar archifau, ceisio lloches a dogfennau, One of the Good Ones, eu harddangos yn Ffotogallery, Caerdydd, 2026.


Mae ei gwaith yn dadadeiladu fframweithiau sefydledig i gyflwyno gwrth-naratifau sy’n cofnodi cymhlethdodau profiadau bywyd mewn tirweddau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a daearyddol. Mae Durre yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a de Llundain ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei chyfrol anffuglennol gyntaf, Words I Was Taught, a gafodd Ganmoliaeth Uchel yng Ngwobr Lenyddol Morley yn 2022. hi/nhw.

Chwilio