Cynefin
Mae hyrwyddwyr a phartneriaid Cynefin yn cwrdd gyda'i gilydd am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Gelli i lansio'r rhaglen.
Rhaglen ymchwil aml-bartner yw Cynefin sy’n archwilio sut y gallai gwneud y celfyddydau a diwylliant yn wasanaeth cyhoeddus rheng flaen arwain at newid sylweddol yn iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Dros naw mis, bydd cyfres o weminarau a thrafodaethau’n dod ag arweinwyr ynghyd o’r celfyddydau ac iechyd i glywed y dystiolaeth, rhannu dysgu a gwrando ar brofiadau byw. Ceir dolenni at y gweminarau arfaethedig isod.
Gan greu lle ar gyfer meddwl ffres a chyfnewid syniadau ar y celfyddydau ac iechyd, bydd Cynefin yn llunio argymhellion polisi ymarferol ar gyfer gwella iechyd a llesiant drwy’r celfyddydau.
Cyflwynir Cynefin ar y cyd gan WAHWN, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chaiff ei gyllido drwy Ddyfarniad Rhwydwaith Co-Lab Cymunedau Creadigol AHRC.
Mae Dyfarniadau Rhwydwaith Co-Lab Cymunedau Creadigol AHRC yn rhwydweithiau polisi diwylliannol traws-sector newydd yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU. Maen nhw’n creu gallu newydd ar gyfer cyfnewid cydweithredol ar draws sectorau o ran syniadau polisi’n ymwneud â diwylliant a datganoli (rhanbarthol a chenedlaethol) yng nghyd-destun Cenadaethau Llywodraeth y DU.
Digwyddiadau Cynefin ar y Gweill
Cynefin 1: Sut all y celfyddydau gyfrannu at y dechrau gorau mewn bywyd?
Dydd Mercher 24 Mehefin, 10–11.45yb | Gweminar Ar-lein
Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn golygu mynd i’r afael â phenderfyddion cymdeithasol iechyd yn gynnar.
Ar 24 Mehefin, bydd panel o hyrwyddwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ar draws iechyd, polisi a’r celfyddydau’n dod ynghyd i drafod sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd feithrin cysylltiad, hyder a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar, gan helpu i osgoi anghydraddoldeb yn y dyfodol a gwella canlyniadau iechyd gydol oes.
Ymunwch â’r sgwrs. Cofrestrwch am ddim yma i ymuno â’r weminar arfaethedig sy’n edrych ar sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd gefnogi Egwyddor Marmot bod ‘Pob Plentyn yn Haeddu’r Dechrau Gorau mewn Bywyd’.
Cynefin 2 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu at gymunedau a lleoedd iachus a chynaliadwy?
Dydd Mercher 09 Medi, 10-11.45yb | Gweminar Ar-lein
Ymunwch â ni yn yr ail ddigwyddiad yng nghyfres Cynefin wrth i ni drafod sut y gall y celfyddydau helpu i greu cymunedau a lleoedd mwy iachus a mwy cynaliadwy ledled Cymru.
Daw rhaglen Cynefin ag arweinwyr traws-sector ynghyd i glywed y dystiolaeth, rhannu gwersi a gwrando ar brofiad byw. Yn y digwyddiad hwn byddwn yn edrych ar rôl creadigrwydd wrth gryfhau llesiant cymunedol, cysylltedd, gwydnwch a dulliau’n seiliedig ar leoedd ym maes iechyd.
Ymhlith y cyfranwyr mae Heledd Fychan, y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.
Cynefin 3 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu a Atal Afiechyd?
Dydd Iau 24 Medi, 10yb - 3yp | Digwyddiad Wyneb yn Wyneb, YMCA New Plaza Port Talbot
Bydd y digwyddiad Cynefin wyneb yn wyneb hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad y celfyddydau a chreadigrwydd i atal afiechyd. Gan ddod ag ymarferwyr, llunwyr polisi a sefydliadau cymunedol ynghyd, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth, arferion a chyfleoedd ar gyfer gwreiddio dulliau celfyddydol mewn agendâu atal ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cyhoeddir y rhaglen lawn yn fuan.
