Isod mae ein cyfranogwyr Stepping In 2026. Cliciwch ar y botwm "Darllen Mwy" i gael gwybod mwy
Arawn Bryn
Artist gweledol aml gyfrwng
Rwyf yn artist gweledol aml gyfrwng gydag arbenigedd mewn animeiddiad rotosgop a diddordeb mawr mewn defnyddio celf a chreadigrwydd er mwyn archwilio teimladau. Dwi'n gyffrous iawn i gael cymryd rhan yn y prosiect yma a dwi'n gobeithio cael gwneud cysylltiadau yn y diwydiant ac adeiladu fy sgiliau.
Catrin Cheung
Sgwennu yn greadigol
Rydw i’n sgwennu yn greadigol - yn bennaf barddoniaeth - ac yn aml yn trafod themâu o iechyd meddwl, hunaniaeth, profiadau hil-gymysg, natur a bywyd ysbrydol. Yn ogystal, rwyf yn athrawes ioga ac yn credu yn gryf bod cysylltu gyda'r corff yn llesol iawn ar gyfer ein hiechyd meddwl. Trwy'r rhaglen yma, dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau ymgysylltu mewn cyd-destun iechyd/lles ac i ddysgu oddi wrth y mentoriaid a mentoreion eraill - gan obeithio i greu cymuned greadigol gefnogol o'm cwmpas.
Catrin Wilson
Artist dawns llawrydd
Haia, Catrin ydw i, ac rwy'n artist dawns llawrydd, o gefndir dawns gymunedol a phrofiad o weithio mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, addysg a gofal iechyd. Rwy'n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth a datblygu fy sgiliau ym mhob agwedd ar iechyd a lles y celfyddydau ac alla i ddim aros i ddechrau.
Ceris Dyfi Jones
Artist tecstilau
Fy enw i yw Ceris Dyfi Jones ac rwyf yn artist tecstilau o Ddolgellau, Gogledd Cymru, sy’n defnyddio cerflunwaith meddal i archwilio emosiynau dynol a’m profiadau fy hun fel menyw niwroamrywiol. Trwy’r prosiect hwn, rwyf yn gobeithio datblygu fy hyder a’m dealltwriaeth o’r sector celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, fel y gallaf innau hefyd helpu eraill i wella eu lles drwy gelf.
Francesca Simmons
Artist sain amlddisgyblaethol
Rwy'n artist sain amlddisgyblaethol ac mae fy ymarfer yn archwilio ecoleg diwylliant a thraddodiadau, wedi'u lleoli o fewn ein tirwedd a'n hamgylchedd, gan olrhain elfennau o lên gwerin. Rwy'n edrych ymlaen at gysylltu ag artistiaid ac ymarferwyr eraill o Ogledd Cymru, a chymryd camau tuag at ddysgu newydd o amgylch y Celfyddydau ac iechyd.
Joe Pelé Boyd
Athro cerddoriaeth llawrydd
Rwy’n athro cerddoriaeth llawrydd sy’n gwirfoddoli gydag amryw o elusennau cerddoriaeth o gwmpas Gogledd Cymru. Rwy’n gobeithio defnyddio fy amser yn Camu i Mewn i ddatblygu fy ngwybodaeth am y maes iechyd er mwyn i mi allu deall yn well sut y gellir defnyddio cerddoriaeth i drin cyflyrau meddygol ac ar gyfer adsefydlu.
Lowri Hedd Vaughan
Ymarferydd adfywiol, gweithiwr cymunedol a chreadigolyn llenyddol
Helo dwi Lowri ac yn ymarferydd adfywiol, gweithiwr cymunedol a chreadigolyn llenyddol o Ogledd Orllewin Cymru. Dwi’n creu gofodau sy'n galluogi cysylltiad pobl gyda nhw eu hunain, ei gilydd, eu cynefin a gofal am y dyfodol. Trwy raglen Camu i Mewn, fy obaith yw dyfnhau fy dealltwriaeth o rôl y celfyddydau mewn iechyd a llesiant a datblygu sgiliau a thechnegau hwyluso newydd. Mae gennai ddiddordeb arbennig mewn ysgrifennu natur a phrofiad personol o iselder ôl-eni, niwroamrywiaeth a gor-bryder
Mariel H Griffiths
Diwtor dan Hyfforddiant i BLAS Pontio
Mariel ydw i, rydw i yn Diwtor dan Hyfforddiant i BLAS Pontio, ac wedi cael profiadau yn gweithio mewn nifer o brosiectau celfyddydau, iechyd a lles. Rydw i yn gerddor ac yn ddawnswraig ac yn edrych ymlaen i ddysgu gan arbenigwyr ar brosietau gwahanol
Maysie Bye
Therapydd Galwedigaethol
Rwy'n mwynhau creu celf sy'n seiliedig ar natur, darlunio, ysgrifennu creadigol a gwneud cerddoriaeth. Rwy'n Therapydd Galwedigaethol ac yn gobeithio y bydd y fentora yn rhoi sgiliau i mi ddatblygu fy ymarfer Celfyddydau mewn Iechyd fy hun. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn ymchwilio i sut y gall ymgysylltu â'r Celfyddydau ac Iechyd yn gwella lles
Nia Haf
Swyddog prosiectau iaith a theatr
Haia, Nia dw i. Dwi'n swyddog prosiectau iaith a theatr, ac yn caru coginio, gêms, a lliwia. Dwi'n edrych ymlaen i ddysgu mwy am sut fedrwn ni wneud profiadau iechyd a lles o fewn y celfyddydau yn fwy hygyrch, a chefnogi mwy o bobl ifanc i brofi bob dim sy'n wych am y celfyddydau.
Peri Haf Smith
Arlunydd ac murlynydd
Haia fy enw i ydi Peri, rwyf yn arlunydd ac murlynydd sy'n peintio tirweddau a golygfeydd môr yn bennaf, gyda ffocws ar natur a'c harddwch Parc Genedlaethol Eryri.
Rydw i'n gobeithio fydd yr rhaglen yma yn rhoi cyfle i mi adeiladu fy hyder a sgiliau fel ymarferwr creadigol ac yn cryfhau fy nealltwriaeth am y sector iechyd a lles a 'r gwaith cefndirol a’r prosesau cynllunio, i mi arwain fy mhydrojectau cymunedol fy hun yn y dyfodol
Tilly Butters
Darlunydd ac artist murluniau
Tilly ydw i, darlunydd ac artist murluniau o Ogledd Cymru, gyda chefndir mewn addysg gelfyddydau ac ymgysylltu cymunedol. Drwy Camu i Mewn, rwy'n gobeithio cysylltu ag ymarferwyr a sefydliadau, ac ennill y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio creadigrwydd i gefnogi iechyd a lles pobl.
