Cynefin 3 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu a Atal Afiechyd?

Ym mis Medi 2026, yn The New Plaza YMCA Port Talbot, Cynefin 3 ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol ynghyd o feysydd iechyd, gofal, polisi a’r celfyddydau, a gyfrannodd yn llawn drwy gydol y dydd i glywed y dystiolaeth, trafod yr heriau a helpu i lunio argymhellion blaenoriaethau polisi.

Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys prif araith ar y ‘chwyldro atal’ gan Nerys Evans, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, oedd yn pwysleisio os ydym ni o ddifrif am atal afiechyd, y bydd yn rhaid i ni ddechrau’n gynharach; Cyflwyno Iechyd-Da-wns! Y Rheolwr Clinigol Arweiniol, Eleri D’Arcy yn ein hatgoffa bod atal yn golygu mwy nag atal pethau drwg rhag digwydd, mae hefyd yn galluogi pethau da i ddigwydd a Hamaad Kahn, NASP yn rhannu pwysigrwydd “gwrando i iachau” – gwir sylfaen presgripsiynu cymdeithasol.

Cafodd rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod eu recordio ar ffilm.


Prif Anerchias - Nerys Evans, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

 

Trafodaeth Banal - Atal yn Ymarferol 

 

Astudiaethau Achos - Rhaglen Atgyfeirio'r Celfyddydau Hywel Dda

 

 

Astudiaethau Achos - Ffilm Iechyd Da-wns!


 

Astudiaethau Achos - Ffynny | Thrive - Arts and Minds, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe



Astudiaethau Achos - People Speak Up's Gwasanaeth Dosbarthu Cartref Creadigol


 

Mae rhagor o wybodaeth am yr un sesiwn Cynefin sy'n weddill ar gael yma.

Adborth gan y cynrychiolwyr

"Roeddwn i’n arbennig o falch i weld fy nghydweithwyr clinigol yn cael y fath ysbrydoliaeth ac ymdeimlad o gyffro i gefnogi ein gwaith wrth symud ymlaen" -- Johan Skre, Rheolwr Gwasanaeth y Celfyddydau a Threftadaeth BIP Bae Abertawe

"Gwelsom ni gynifer o enghreifftiau o’r hyn y gall y celfyddydau ei wneud wrth atal a hefyd wrth drin pobl. Nawr mae angen i hyn fod yn gryf a galluogi cyllid craidd er mwyn i ni allu creu iechyd yn hytrach na’i niweidio" -- Marie Brousseau Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

"Diwrnod gwych! Cymaint o feddyliau craff mewn un ystafell, oll yn ymgysylltu ac yn creu cysylltiadau dros dir cyffredin" -- Johan Skre., BIPBA

"Wir yn edrych ymlaen at weld yr allbynnau ac i ble fydd y gwaith hwn yn mynd nesaf" -- Nerys Edmonds, BIP Bae Abertawe

"Roedd yn bleser cael bod yn eich plith chi i gyd a chlywed am eich gwaith a’ch cynlluniau at y dyfodol i ehangu cyrhaeddiad mentrau’r celfyddydau mewn iechyd. Cofiwch ddibynnu arnom ni i gefnogi digwyddiadau’r dyfodol… ac i ychwanegu’r safbwynt iechyd clinigol yna i drafodaethau’r dyfodol" -- Sarah Griffith, CAHMS, BIP Bae Abertawe

 

Search