Cynefin 1 - Sut all y celfyddydau gyfrannu at y dechrau gorau mewn bywyd?

Ar 24 Mehefin, ar-lein, fe wnaethon ni gasglu panel o arweinwyr ac ymarferwyr hyrwyddwyr ar draws iechyd, polisi, y blynyddoedd cynnar a'r celfyddydau ynghyd i ddadansoddi sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd feithrin cysylltiad, hyder a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar - gan helpu i atal anghydraddoldeb yn y dyfodol a gwella canlyniadau iechyd gydol oes. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o bedair trafodaeth yn archwilio sut y gallai ymgorffori celfyddydau a diwylliant fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen fod yn newid sylweddol i iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Os gwnaethoch chi ei golli, gallwch wylio'r sesiwn gyfan yn ôl yn y fideo a ddarllen crynodeb isod.



Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn: crynodeb o weminar gyntaf Cynefin

Sut gall y celfyddydau a diwylliant helpu i wella iechyd a llesiant o’r cychwyn cyntaf?

Dyna’r cwestiwn oedd wrth graidd gweminar gyntaf Cynefin, a ddaeth ag arweinwyr o feysydd iechyd, y celfyddydau, ymchwil a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i drafod sut y gall creadigrwydd helpu babanod, plant ifanc a’u teuluoedd i ffynnu.

Dyma’r sesiwn gyntaf mewn cyfres o bedair trafodaeth yn edrych ar sut y gallai gosod y celfyddydau a diwylliant yn wasanaeth cyhoeddus rheng flaen arwain at newid pwysig mewn iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Yn y sesiwn gyntaf hon, bu cyfranwyr yn rhannu tystiolaeth, enghreifftiau sy’n ysbrydoli a phrofiad byw oedd yn dangos sut mae dulliau creadigol eisoes yn cryfhau’r berthynas rhwng rhieni a’u plant, gan wella iechyd meddwl, lleihau ynysu a helpu i roi’r dechrau gorau bosibl i blant mewn bywyd.

Ymhlith y cyfranwyr hynny roedd Dr Liz Gregory, Arweinydd Datblygu Cymru y Parent Infant Foundation, a eglurodd bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf mewn bywyd a rôl rhythm, adrodd straeon, cerddoriaeth a chwarae yn natblygiad cynnar yr ymennydd. Hefyd ymunodd Yvonne Farquharson, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Ymchwil Iechyd Celfyddydau Breathe, a Riddhi Laijawala, Cynorthwyydd Ymchwil, astudiaeth ymchwil SHAPER Melodies for Mums, i gyflwyno’r dystiolaeth a fu’n sail i raglen arobryn Melodies for Mums, gan ddangos sut y gall canu mewn grŵp leihau symptomau iselder ôl-enedigol a chryfhau’r cysylltiad rhwng rhieni a’u babanod.

Cafwyd enghreifftiau o Gymru i ysbrydoli, gan gynnwys rhaglen Tu Mewn Allan Cymru, Nurturing Dads, sy’n defnyddio cerddoriaeth a chreadigrwydd i gefnogi llesiant tadau a ffurfio cysylltiadau teuluol cryfach; prosiect Dwylo Bach Making Sense, sy’n creu profiadau chwarae synhwyraidd dan arweiniad plant a ysbrydolwyd gan artistiaid ac orielau ledled gogledd Cymru, a chydweithrediad Starting Well Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn dangos sut y gellir cynnwys y celfyddydau’n greiddiol mewn cymorth iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned.

Yn ystod y drafodaeth, bu’r siaradwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn atal yn ystod blynyddoedd cynharaf bywyd, a chydnabod y celfyddydau a chreadigrwydd fel elfennau hanfodol ar gyfer datblygu iachus, yn hytrach na rhywbeth braf i’w gael. Clywodd y cynrychiolwyr hefyd sut mae rhaglenni creadigol yn creu mannau diogel a chroesawgar yng Nghymru lle mae teuluoedd yn cysylltu, yn eu mynegi eu hunain ac yn meithrin eu hyder. Clywyd hefyd am y dystiolaeth gynyddol fod y dulliau hyn yn effeithiol, yn gyllidebol effeithlon ac yn gallu dod yn rhan o wasanaethau iechyd a gofal prif ffrwd.

Daeth y weminar i ben gyda myfyrdodau gan hyrwyddwyr Cynefin, a fu’n trafod y cyfleoedd a’r heriau ynghlwm â gwreiddio dulliau iechyd creadigol yn ehangach ledled Cymru. Trafodwyd yr angen i symud y tu hwnt i brosiectau ar raddfa fach at ddulliau creadigol y gellir eu gwreiddio’n systematig mewn lleoliadau iechyd, addysg a chymunedol, a hefyd y cwestiynau pwysig ynghylch sut i sicrhau bod rhaglenni’n cyrraedd cymunedau ymyledig ac yn osgoi atgyfnerthu’r anghydraddoldeb mynediad sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Os na fu’n bosibl i chi ymuno â ni’n fyw, gallwch wylio’r recordiad llawn [LINK] i glywed y dystiolaeth, straeon a sgyrsiau sy’n ffurfio dyfodol dulliau creadigol o weithredu ym maes iechyd yng Nghymru.

Caiff rhagor o wybodaeth am y tair sesiwn Cynefin sydd ar ôl ei rhannu’n fuan. Cadwch olwg ar sianeli WAHWN.

Cyflwynir Cynefin ar y cyd gan WAHWN, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chaiff ei gyllido drwy Ddyfarniad Rhwydwaith Co-Lab Cymunedau Creadigol AHRC.

Search