Training Events
Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Mehefin 2026
Date:
25-06-2026
Location:
Ar Lein
Cost:
Am Ddim
Summary:
Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfarfod rhwydwaith WAHWN ym mis Mehefin pan fyddwn yn arddangos amrywiaeth o ymyriadau sy'n cynrychioli celfyddydau ar draws oes.

Content:
Dydd Iau 25 Mis Mehefin
10yb - 11.30yb
Ymunwch â ni yng nghyfarfod rhwydwaith WAHWN mis Mehefin pan fyddwn ni’n arddangos amrywiol ymyriadau sy’n cynrychioli’r celfyddydau gydol oes. Bydd y cyfranwyr yn cynnwys Prosiect Lullaby Cerddoriaeth Fyw Nawr, sy’n dangos sut mae creu cerddoriaeth fyw ymatebol yn cefnogi ymlyniad cynnar, rheoleiddio emosiynol a llesiant i fabanod a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae’r ffocws hwn yn cyd-fynd yn gryf ag Egwyddor Marmot sef rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn, sy’n tanlinellu sut mae amgylcheddau creadigol, anogol yn y blynyddoedd cyntaf yn gallu lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo iechyd gydol oes
Rhagor o gyfranwyr i’w cadarnhau.
