Training Events
Cyfarfod Rhwydwaith Heneiddio Creadigol, Mis Tachwedd 2026
Date:
19-11-2026
Location:
Arlein
Cost:
Am ddim
Summary:
Ymunwch â'r rhwydwaith i drafod gwaith iechyd creadigol rhyng-genhedlaethol llwyddiannus ledled Cymru.

Content:
Dydd Iau 19 Tachwedd
10yb – 11.30yb
Ymunwch â digwyddiad ein Rhwydwaith Heneiddio Creadigol i glywed gan dri phrosiect creadigol o bob rhan o Gymru sy’n archwilio cysylltiadau rhwng cenedlaethau ac yn cefnogi llesiant. Bydd tri chyflwyniad astudiaeth achos byr, ac yna sesiwn holi ac ateb ac amser i rwydweithio, cyfnewid syniadau a chysylltu ag eraill.
Byddwch yn clywed gan:
Tanio Cymru, Family Forest Arts
Mae ein sesiynau Family Forest Arts yn dod â phlant, rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr ynghyd i dreulio amser yn yr awyr agored, gan fod yn greadigol gyda’i gilydd. Drwy weithgareddau celf sy’n seiliedig ar natur, gall teuluoedd gysylltu ar draws cenedlaethau, rhannu profiadau a meithrin perthnasoedd cryfach mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar. Mae’r sesiynau hyn yn dathlu gwerth cyfraniad pob cenhedlaeth ac yn creu cyfleoedd i ddysgu, cefnogi llesiant a chysylltu mewn ffordd ystyrlon.
Mae UCAN Thrive yn brosiect creadigol sy’n pontio’r cenedlaethau, gan ddod â phobl ifanc ddall ac â golwg rhannol ynghyd ag oedolion hŷn 60 oed a throsodd. Drwy weithdai hygyrch mewn drama, symud, cerddoriaeth a sgwrsio, nod y prosiect yw mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, meithrin hyder a gwella llesiant, gan greu cyfleoedd i bobl sydd wedi colli eu golwg gysylltu, rhannu profiadau a chael hwyl.
Mae Côr Dynion Hoyw De Cymru yn cefnogi pobl hŷn LHDTC+ drwy greu gofod cymdeithasol croesawgar a chynhwysol lle gall pobl feithrin cyfeillgarwch, teimlo ymdeimlad o berthyn a chysylltu drwy gariad a rennir at gerddoriaeth. Drwy ymarferion, perfformiadau a theithiau, mae gan aelodau gyfleoedd i roi cynnig ar brofiadau newydd, meithrin hyder ac aros yn gymdeithasol weithgar. Mae'r côr hefyd yn dod â phobl ynghyd ar draws cenedlaethau a chymunedau, gan greu cyfleoedd i rannu profiadau byw, herio stereoteipiau a chryfhau dealltwriaeth. I bobl hŷn LHDTC+, a allai fod wedi profi unigedd neu allgáu, gall bod yn rhan o grŵp lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu deall a'u derbyn fod yn arbennig o werthfawr. Mae ymchwil i ganu grŵp yn tynnu sylw at ei fanteision posibl ar gyfer lles meddyliol, cysylltiad cymdeithasol a pherthyn, yn enwedig pan fydd pobl yn dod ynghyd ag eraill sy'n rhannu agweddau ar eu hunaniaeth a'u profiad.
Dan gadeiryddiaeth David Chamberlain, Datblygu’r Celfyddydau Caerffili. Wedi’i gynnal gan WAHWN ac Age Cymru.
