Training Events

Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Chwefror 2026

Date:

19-02-2026

Location:

Ar Lein

Cost:

Am Ddim

Summary:

Ymunwch â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Chwefror i glywed mwy am y ffordd y mae’r celfyddydau’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r potensial i ddatblygu datrysiadau’n canolbwyntio ar y celfyddydau ac iechyd. Archebwch eich lle yma.

Content:

Dydd Iau 19 Chwefror

10 – 11.30am

 

Dulliau Partneriaeth ar gyfer Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd

Ymunwch â ni yng nghyfarfod rhwydwaith mis Chwefror i glywed mwy am y ffordd y mae’r celfyddydau’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r potensial i ddatblygu datrysiadau’n canolbwyntio ar y celfyddydau ac iechyd. Ochr yn ochr â rhannu ymyriadau celfyddydol, bydd Dr Kathrin Thomas yn ymuno â ni. Mae hi’n aelod o DEEP END CYMRU – rhwydwaith Cymru gyfan o feddygfeydd a meddygon teulu sy’n gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ac sy’n ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

 

Am y siaradwr

Dr Daisy Fancourt

Dr Daisy Fancourt, ymchwilydd ac athro Seicobioleg ac Epidemioleg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (UCL), a gydnabyddir yn eang fel arbenigydd rhyngwladol blaenllaw ar y cysylltiadau rhwng ffactorau cymdeithasol, y celfyddydau a diwylliant, ac iechyd, presgripsiynu cymdeithasol, unigedd, ynysu cymdeithasol ac ymgysylltu cymunedol. Yn ogystal â Chyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol ar y Celfyddydau ac Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), ac ymgynghorydd i nifer o bwyllgorau’r WHO a chyff llywodraethol yn y DU.

Dr Kathrin Thomas, DEEP END Cymru

Mae Dr Kathrin Thomas wedi ymddeol fel meddyg teulu ac Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus. Mae Kathrin wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd, drwy weithio fel meddyg teulu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Lerpwl a chymoedd de Cymru, ac mewn amrywiol rolau strategol ym maes iechyd cyhoeddus. Mae hi’n Uwch Gymrawd gyda Chomisiwn Bevan yn canolbwyntio ar gynyddu cyfraniad y sector iechyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’n cyd-Gadeirio Grŵp Diddordeb Arbennig Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU ar Ofal Sylfaenol ac Iechyd Cyhoeddus ac yn aelod o Grŵp Diddordeb Arbennig Coleg y Meddygon Teulu ar Gydraddoldeb Iechyd

Sarah Milligan, Gwella

Artist Ymarferydd Creadigol yw Sarah Milligan ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Gwella, sefydliad Celfyddydau mewn Iechyd a Dyniaethau Meddygol yn ne Cymru. Ers sefydlu Gwella, mae Sarah wedi cyflwyno prosiectau ar draws rhanbarth Bae Abertawe sy’n cefnogi gwell llesiant a chanlyniadau cymdeithasol i gymunedau o Ben-y-bont i’r Mwmbwls, gyda ffocws strategol ar Gastell Nedd Port Talbot yn dilyn cau TATA Steel. Mae gan Sarah radd Meistr mewn Drama a chyn hyn bu’n gwirfoddoli fel gwrandäwr gyda’r Samariaid, profiad a’i harweiniodd at faes y Celfyddydau mewn Iechyd. Yn fwyaf diweddar, cwblhaodd Heads Up, menter dros ddeg wythnos a gyllidwyd gan Gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi cyfranogwyr i gyflawni dilyniant cadarnhaol, gyda dau unigolyn yn symud ymlaen i’r coleg. 

Das Clarks

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro a G4S wedi cefnogi Das Clarks i gyflawni eu prosiect, Gwreiddiau Creadigol. Mae’r cyfranogwyr yn cynnwys preswylwyr a staff carchar y Parc a defnyddwyr gwasanaeth, ffrindiau ac aelodau teulu, staff a gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â gwasanaethau adfer cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Nod Gwreiddiau Creadigol yw meithrin a gwella llesiant meddwl y rhai sy’n cymryd rhan drwy ymwneud â gweithgareddau creadigol, meddylgar a difyr yng nghwmni cefnogol pobl eraill. Mae’r prosiect yn byw yn y berthynas rhwng pobl, dwylo, deunyddiau, dychymyg a’r amrywiol lefydd rydyn ni’n eu galw’n ‘stiwdio’ am hyd y sesiwn. Mae arddangosfeydd yn rhan bwysig o’r prosiect gan eu bod yn dyrchafu, dathlu a rhannu gwaith celf y cyfranogwyr a’n gwaith ni. Bydd yr arddangosfa fawr nesaf yn lansio yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Sul 22 Chwefror. Tîm Gwreiddiau Creadigol Das Clarks, cydweithfa o artistiaid llawrydd yng Nghasnewydd sy’n cynnwys Gareth Clark, DAR Rogers, Marion Cheung, Bill Chambers, Jo Haycock a Marega Palser.

 

Archebwch eich lle yma

Search