Training Events

Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Hydref

Date:

15-09-2026

Location:

Arlein

Cost:

Am ddim

Summary:

Gyda’n gilydd byddwn yn edrych ar rai o’r syniadau a’r agweddau ymarferol yn y cyhoeddiad, gan fynd y tu hwnt i ariannu yn unig i feddwl yn fwy eang am yr adnoddau sy’n galluogi gwaith iechyd creadigol i ffynnu.

Archebwch eich lle yma

Content:

Dydd Iau 15 Hydref

10 – 11.30am

 

Creatively Minded and Resourceful: Sut allwn ni wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym ni eisoes, a datblygu rhai newydd i gynnal a chryfhau ein gwaith?

 

Ar gyfer cyfarfod rhwydwaith mis Hydref byddwn yn croesawu Mark Robinson o Thinking Practice ac awdur adroddiad Sefydliad Baring Creatively Minded and Resourceful, a Ruth Haugen, Rheolwr Effaith ac Arweinydd Côr o Choirs for Good.

Gyda’n gilydd byddwn yn edrych ar rai o’r syniadau a’r agweddau ymarferol yn y cyhoeddiad, gan fynd y tu hwnt i ariannu yn unig i feddwl yn fwy eang am yr adnoddau sy’n galluogi gwaith iechyd creadigol i ffynnu. Pa asedau, perthnasoedd, gwybodaeth, sgiliau a chyfleoedd a allai fod yn ein sefydliadau a’n rhwydweithiau eisoes? A sut allwn ni ddefnyddio’r rhain yn fwy creadigol a chynaliadwy?

 

Archebwch eich lle yma

Search