Cynefin 1 - Sut all y celfyddydau gyfrannu at y dechrau gorau mewn bywyd?
Ar 24 Mehefin, ar-lein, fe wnaethon ni gasglu panel o arweinwyr ac ymarferwyr hyrwyddwyr ar draws iechyd, polisi, y blynyddoedd cynnar a'r celfyddydau ynghyd i ddadansoddi sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd feithrin cysylltiad, hyder a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar - gan helpu i atal anghydraddoldeb yn y dyfodol a gwella canlyniadau iechyd gydol oes. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o bedair trafodaeth yn archwilio sut y gallai ymgorffori celfyddydau a diwylliant fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen fod yn newid sylweddol i iechyd y boblogaeth yng Nghymru.
Os gwnaethoch chi ei golli, gallwch wylio'r sesiwn gyfan yn ôl yn y fideo uchod.
Bywgraffiadau cyfranwyr
Emily van de Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Emily van de Venter yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac yn Gyfarwyddwr Interim Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae wedi gweithio ym maes Iechyd Cyhoeddus ers dros 15 mlynedd ac er bod ei phrofiad yn eang, mae’n arbenigo mewn dulliau poblogaeth ar gyfer hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a lleihau anghydraddoldebau, gan adeiladu ar yr arbenigedd a sicrhaodd gyda BSc mewn Niwrowyddoniaeth ac MSc mewn Iechyd Cyhoeddus. Mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid y tu hwnt i’r maes iechyd i gefnogi gweithredu’r Strategaeth Iechyd Meddal a Llesiant i Gymru, 2025-35.
Emily yw arweinydd rhaglen Hapus sydd â’r nod o ysbrydoli a galluogi pobl i weithredu i wella llesiant meddwl, gan fabwysiadu agwedd gadarnhaol yn seiliedig ar seicoleg i gymell gweithredu gan unigolion a chymunedau i ddiogelu a gwella llesiant meddwl.
Yn ystod pandemig COVID-19 bu Emily’n arwain ar atal a rheoli achosion mewn gweithleoedd mewn ardal Awdurdod Lleol yn Lloegr. Yn y rôl hon cafodd gipolwg ar sawl ffordd o weithio mewn amrywiol fusnesau a gwelodd ymroddiad busnesau i ddiogelu iechyd a llesiant eu gweithwyr.
Dr Liz Gregory, Arweinydd Datblygu Cymru
Mae Dr Liz Gregory yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y GIG. Roedd yn gyd-Bennaeth Seicoleg Plant a Theulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan lle bu’n arwain ar ddatblygu nifer o arloesiadau gwasanaeth a thrawsnewid strategol. Hi oedd yr Arweinydd Clinigol ar gyfer datblygu offeryn cynllunio Fframwaith NYTH/NEST a gynhyrchwyd ar y cyd ac a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc ar draws Cymru. Dros y tair blynedd ddiwethaf mae wedi gweithio fel Arweinydd Datblygu Cymru i’r Parent Infant Foundation sy’n sefydliad ledled y DU yn canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau Perthynas Rhiant-Baban arbenigol yng Nghymru.
Yvonne Farquharson, Rheolwr Gyfarwyddwr, Breathe Health Arts Research
Entrepreneur cymdeithasol profiadol sydd wedi ennill sawl gwobr yw Yvonne Farquharson, sy’n arbenigo mewn datblygu rhaglenni creadigol dan arweiniad ymchwil i wella systemau gofal iechyd a thrawsnewid bywydau.
Mae Yvonne yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol ac yn gyn-enillydd y Wobr Menywod mewn Mentrau Cymdeithasol. Mae hefyd wedi’i chydnabod ar restr WISE100 o’r 100 fenyw fwyaf ysbrydoledig a dylanwadol mewn mentrau cymdeithasol yn y DU a hefyd restr NatWest o’r 7 arweinydd busnes benywaidd gorau mewn mentrau cymdeithasol.
Mae Yvonne wedi gweithio yn sector y celfyddydau ac iechyd ers dros ddeunaw mlynedd ac wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei gwaith yn y sector, gan gyfrannu’n aml mewn cynadleddau a digwyddiadau iechyd, diwylliannol a mentrau cymdeithasol yn fyd-eang. Mae hi wedi cyd-awduro papurau ymchwil a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion meddygol wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac wedi cyflwyno nifer o sgyrsiau TEDx.
Riddhi Laijawala, Labordy Seiciatreg Straen ac Imiwnoleg yng Ngholeg King’s yn Llundain
Mae Riddhi Laijawala yn Rheolwr Treialon yn y Labordy Seiciatreg Straen ac Imiwnoleg yng Ngholeg King’s yn Llundain, yn arbenigo mewn ymchwil seiciatrig amenedigol. Mae wedi cyfrannu at raglen SHAPER Melodies for Mums — menter celfyddydau mewn iechyd sy’n archwilio sut y gall canu ac ymyraethau cerddorol gynorthwyo iechyd meddwl mamau a’r berthynas rhwng mamau a’u babanod yn ystod y cyfnod amenedigol.
Mae ei hymchwil yn seiliedig ar ddiddordeb byw mewn iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol a’r effaith parhaol ar ddatblygiad plant. Gyda hyfforddiant mewn mesurau’n ymwneud ag arsylwi, daw â thrylwyredd methodolegol a sensitifrwydd clinigol i’r gwaith o asesu rhyngweithio rhwng mamau a babanod.
Mae hefyd yn gwasanaethu fel Golygydd Rheoli (Cyfryngau Cymdeithasol) ar gyfer Inspire the Mind, gan drosi gwyddoniaeth gymhleth yn ddirnadaeth hygyrch i gynulleidfaoedd ehangach ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Becca May Collins, ‘Nurturing Dads’ Rheolwr Prosiectau Celfyddydau ac Iechyd
Mae Becca yn Rheolwr Prosiectau Celfyddydau ac Iechyd, ac yn arwain y prosiect Meithrin Tadau a gyllidir gan Sefydliad Baring. Dros y tair blynedd diwethaf mae hi wedi rheoli amrywiol fentrau celfyddydau ac iechyd cymunedol a gyd-gynhyrchwyd ar draws Gwent, gan gynnwys Creu Hyrwyddwyr Cymunedol, ac Estyn Allan: Celf ar gyfer Dementia. Mae Becca hefyd ar hyn o bryd yn rheoli Prosiect Atgyfeirio’r Celfyddydau Casnewydd a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n angerddol dros ddeall anghenion y gymuned a mynd i’r afael â heriau iechyd a llesiant drwy gydweithio. Bydd Becca’n rhannu cipolwg ar Meithrin Tadau drwy gyfweliadau wedi’u recordio gyda thadau sy’n cymryd rhan.
Ticky Lowe, Making Sense CIO
Artist, hwylusydd creadigol ac arweinydd elusennol yng ngogledd Cymru yw Ticky Lowe a’i harbenigedd yw gwneud y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn hygyrch drwy brofiadau amlsynhwyraidd. Sefydlodd y CIO Making Sense, elusen dan arweiniad artistiaid sy’n gweithio gydag orielau, amgueddfeydd, cartrefi gofal, ysgolion a grwpiau cymunedol i greu profiadau diwylliannol cynhwysol i bobl o bob oed a gallu.
Cyn sefydlu Making Sense, roedd Lowe yn gweithio ym maes addysg ddiwylliannol, gan gynnwys rolau yn y Pafiliwn Brenhinol yn Brighton a’r Ganolfan Blodau Gwyllt Genedlaethol yn Lerpwl. Dylanwad allweddol ar ei gyrfa oedd rheoli prosiect “Access to Heritage” i Mencap Lerpwl, lle helpodd i ddatblygu dulliau synhwyraidd a rhyngweithiol i wneud amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau dysgu.
Mae ei hymarfer artistig yn canolbwyntio ar gyffwrdd, rhyngweithio, cof ac ymgysylltu synhwyraidd. Drwy Making Sense, mae hi wedi arwain prosiectau i gefnogi teuluoedd â phlant ifanc, pobl â dementia, ac unigolion ag anableddau dysgu, gan eu helpu i gysylltu â chreadigrwydd, diwylliant a’u cymunedau mewn ffyrdd ystyrlon.
Diane Lewis, Therapydd Galwedigaethol Amenedigol Arbenigol
Therapydd Galwedigaethol Amenedigol Arbenigol yw Diane Lewis yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rôl y mae wedi bod yn ei chyflawni ers 2023. Daw Diane yn wreiddiol o orllewin Cymru, a graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 2006 gyda BSc (Anrh) mewn Therapi Galwedigaethol. Roedd ei gyrfa gynnar yn cynnwys swyddi cylchol yn gweithio ar draws iechyd corfforol a meddyliol, gan ddatblygu profiad eang mewn adferiad galwedigaethol, orthopaedeg, strôc, pediatreg, gofal cymdeithasol a thai.
Mae gan Diane arbenigedd cryf mewn iechyd meddwl, pediatreg a gofal amenedigol. Sefydlodd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant yng Ngheredigion ac yn ddiweddarach bu’n gweithio’n helaeth gyda phlant ag anghenion cymhleth yn sir Benfro. Yn 2017, daeth yn Arweinydd Clinigol Therapi Galwedigaethol mewn Gofal Amenedigol, yn helpu i wreiddio Gofal Integredig i’r Teulu a chyfrannu at wasanaeth arobryn a gydnabuwyd gan Bliss. Erbyn hyn mae Diane yn arbenigo mewn cefnogi iechyd meddwl rhieni, cydbwysedd galwedigaethol, ac addasu i fod yn rhiant, gyda diddordeb penodol mewn niwroamrywiaeth a pherthnasoedd cynnar.
Katie Iceton, Arweinydd Blynyddoedd Cynnar Cyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd
Mae Katie yn Arweinydd Blynyddoedd Cynnar o fewn y Gyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus, yn gweithio i wella canlyniadau i fabanod, plant ifanc, a theuluoedd ar draws y 1,000 diwrnod cyntaf a thu hwnt. Mae ei rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo bwydo babanod, cefnogi maeth da a phwysau iach, a mynd i'r afael â gordewdra plentyndod trwy raglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth a phartneriaethau cryf. Mae hi'n arwain mentrau i wella parodrwydd ar gyfer yr ysgol a lleihau anghydraddoldebau iechyd, gan helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Datblygodd Katie y prosiect iechyd meddwl a chelfyddydau creadigol amenedigol StARTing Well, gan gydweithio â gwasanaethau iechyd, artistiaid cymunedol, a phartneriaid yn y trydydd sector. Mae ei gwaith wedi'i wreiddio mewn atal, ymyrraeth gynnar, a dulliau sy'n canolbwyntio ar y person, gyda phwyslais cryf ar gefnogi lles teuluoedd a gwella canlyniadau iechyd cyhoeddus hirdymor ar gyfer cymunedau.
Tania Hayward, Arweinydd Tîm Dechrau'n Deg Dechrau'n Deg, Blaenau Gwent
Tania Hayward yw Arweinydd Tîm Dechrau'n Deg sy'n gyfrifol am weithwyr cynenedigol, iechyd a chymorth i dadau, gan gynnwys rheoli gweithwyr cymorth i deuluoedd. Gyda chefndir mewn gwasanaethau mamolaeth, Cychwyn Cadarn a Theuluoedd yn Gyntaf, mae gan Tania ddealltwriaeth gref o ymyrraeth gynnar, lles teuluoedd a gweithio mewn partneriaeth. Mae hi'n angerddol am arwain a datblygu gwasanaethau sy'n sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn eiriolwr cryf dros dadau, mae Tania wedi ymrwymo i gefnogi tadau a hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder i deuluoedd ledled Blaenau Gwent.
Emily van de Venter, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Llesiant Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Liz Gregory, Arweinydd Datblygu Cymru, Parent-Infant Foundation
Cyflwynir gan Yvonne Farquharson, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd, Ymchwil Iechyd Celfyddydau Breathe
Yvonne Farquharson, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Ymchwil Iechyd Celfyddydau Breathe
Riddhi Laijawala, Cynorthwyydd Ymchwil, astudiaeth ymchwil SHAPER Melodies for Mums
Ffilm fer am dadau - Ash a Matt – yn sgwrsio gyda Alex Lupo, Cerddor, Ymchwilydd a Therapydd Celf.
Cyflwynir gan Becca May Collins, Rheolwr Prosiect, Tu Mewn Allan Cymru
Ticky Lowe, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd CIO
Katie Iceton, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus a Diane Lewis, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol, Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod
Hwylusir gan Emily van de Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Liz Gregory
Tania Hayward, Arweinydd Tim Dechrau’n Deg Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent
Katie Iceton
Ticky Lowe
Hwylusir gan Emily van de Venter
