Dechreuwch: Cyllid a Chymorth

Mae’r categori hwn i gyllidwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a llunwyr polisi, yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.

Yr adrannau ar y wefan a allai fod o ddiddordeb penodol i chi yw:-

  • Y Banc Gwybodaeth - dyma’r adran lle cewch chi amrywiaeth eang o adnoddau, gan gynnwys adroddiadau prosiect, ymchwil, gwerthuso ac astudiaethau achos yn amlygu ymarfer gorau yn y maes hwn. Mae’r adran ar astudiaethau achos yn cynnwys astudiaethau achos cryf sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, ac a allai fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i ‘gyflwyno’r achos’ dros ymyriadau celfyddydol i wella iechyd a llesiant.
Chwilio