Dechreuwch: Gweithiwr Gofal Iechyd, Sefydliadau a Chomisiynwyr

Anelir y categori hwn at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylcheddau’n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, ysbytai, meddygfeydd teulu a lleoliadau gofal sylfaenol eraill. Mae gan bob un o fyrddau iechyd Cymru o leiaf un gweithiwr proffesiynol sy’n gyfrifol am gomisiynu, rhaglennu neu gyflwyno ymyriadau celfyddydol â’r nod o wella iechyd a llesiant.

Mae’r canlynol ymhlith yr adrannau ar y wefan a allai fod o ddiddordeb penodol i chi:

  • Cyfleoedd – yma gallwch bostio cyfleoedd gan gynnwys tendrau a galwadau
  • Adran Aelodau – yma fe welwch amrywiaeth eang o ymarferwyr creadigol sy’n cyflwyno prosiectau celfyddydol â’r nod o wella iechyd a llesiant
  • Y Banc Gwybodaeth – dyma’r adran lle cewch chi amrywiaeth eang o adnoddau, gan gynnwys adroddiadau prosiect, ymchwil, gwerthuso ac astudiaethau achos yn amlygu ymarfer gorau yn y maes hwn. Os oes gennych chi adnodd i’w rannu gallwch ei uwchlwytho yma.
Chwilio