Cynefin 2 - Sut gall y celfyddydau gyfrannu at gymunedau a lleoedd iachus a chynaliadwy?
Bywgraffiadau cyfranwyr
Sandy Clubb, Ymgynghorydd Polisi: Cynnwys, Cydweithredu a Diwylliant, Swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Sandy yn gweithio gyda’r tîm cyfan i sicrhau bod ein gwaith wedi ei drwytho gan sgyrsiau ystyrlon a’n bod yn ymgysylltu â phobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ar draws Cymru. Tu allan i’w gwaith mae Sandy’n weithgar gyda nifer o grwpiau cymunedol ac amgylcheddol, ac yn gwirfoddoli fel cyfaill. Mae Sandy wrth ei bodd yn yr awyr agored ac yn agos at natur, beicio, rhedeg neu gerdded gyda ffrindiau a theulu ac mae’n ysgogwraig gyfresol clybiau llyfrau.
Karen Mak, Uwch Gymrawd Ymchwil Epidemioleg ac Ystadegau, Coleg Prifysgol Llundain
Mae Dr Karen (Hei Wan) Mak yn Uwch Gymrawd Ymchwil Epidemioleg ac Ystadegau yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn Gymrawd Iechyd Poblogaeth Fyd-eang gyda Labordy Celfyddydau ac Iechyd WHO-Jameel. Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae ymgysylltiad celfyddydol a diwylliannol yn siapio iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau ar draws poblogaethau, drwy ddefnyddio data rhyngwladol ar raddfa fawr i lywio polisi iechyd cyhoeddus a diwylliannol. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Cymrawd Polisi gydag Adran y DU dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a chafodd ei henwi’n Ysgogydd Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd.
Adrian Williams, Rheolwr Celfyddydau a Diwylliant Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae gan Adrian brofiad sylweddol wrth ddatblygu rhaglenni diwylliannol, partneriaethau, a mentrau sy'n seiliedig ar leoedd sy'n cryfhau cymunedau ac yn cefnogi twf economaidd. Mae'n arwain datblygiad strategol y gwasanaeth celfyddydol, gan gydweithio ag artistiaid, sefydliadau diwylliannol, partneriaid yn y sector cyhoeddus, a rhanddeiliaid i gynyddu cyfranogiad, gwella cyfleoedd diwylliannol, a chynyddu effaith buddsoddiadau i'r eithaf. Mae Adrian yn angerddol am rôl diwylliant wrth siapio lleoedd bywiog a chynhwysol ac ysgogi canlyniadau cymdeithasol positif. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gynllunio hirdymor, eiriolaeth ac arloesedd, gan sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn parhau i fod wrth wraidd y broses o ddatblygu ac adfywio cymunedau.
Gemma Dobbs, Swyddog Celfyddydau ac Ymgysylltu â'r Gymuned, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Gemma sy’n arwain y gwaith datblygu ac ymgysylltu gyda Cwlwm Celf – rhwydwaith o artistiaid RCT, sydd wedi denu dros 211 o artistiaid o fewn y ddau fis cyntaf. O ddydd i ddydd, hi sy’n arwain y gwaith o weithio gydag artistiaid drwy raglen Artist mewn Gwasanaeth RCT, y cyntaf o'i fath i gael ei redeg gan gyngor yn y DU. Ar hyn o bryd, mae Gemma wrthi’n cefnogi’r gwaith ymgysylltu cymunedol ar gyfer cais Pontypridd i ddod yn Dref Diwylliant, ac arferai weithio ar brosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cerddoriaeth ac Eiddilwch, a gyflwynwyd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd i artistiaid, cryfhau rhwydweithiau creadigol a chysylltu cymunedau drwy ddiwylliant.
Mared Elliw Huws, Cydlynydd Datblygu’r Celfyddydau, Pontio, Prifysgol Bangor
Mae Mared wedi bod yn arwain rhaglen BLAS ers ei sefydlu yn 2013. Cyn ymuno â Pontio, bu’n gweithio’n llawrydd fel ymarferydd drama a cherddoriaeth am dros 10 mlynedd. Mae Mared yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli ystod eang o brosiectau celfyddydol sy’n cysylltu’r celfyddydau â chymunedau, iechyd a lles, addysg a datblygu talent newydd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd i bobl sydd efallai nad ydynt fel arfer yn cael mynediad at y celfyddydau, gan ddatblygu prosiectau mewn partneriaeth ag unigolion, cymunedau a sefydliadau lleol. Enillodd Sion Telor, ei chi cysur, sy’n gweithio i BLAS, Wobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC yn 2025 am ei waith gyda BLAS.
Emma M Price, Cyd-Gyfarwyddwr, Studio Response
Mae gan Emma M Price dros 25 mlynedd o brofiad o guradu a chynhyrchu celf ar dir cyhoeddus gydag artistiaid, penseiri, dylunwyr a gwneuthurwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hi'n frwd dros weithio gyda chymunedau drwy brosiectau blaengar, dychmygus a chynaliadwy sy'n cofleidio ysbryd celf, pobl a lle.
Jo Breckon, Cyd-Gyfarwyddwr, Studio Response
Mae gan Jo Breckon dros bum mlynedd ar hugain o brofiad ym maes datblygu strategol a chyflwyno rhaglenni celfyddydol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n angerddol am rôl y celfyddydau wrth gefnogi llesiant ac mae'n eiriolwr cryf dros bŵer trawsnewidiol celf gyhoeddus. Mae ganddi arbenigedd penodol o ran y broses o gomisiynu gwaith celf dros dro, gwaith celf drwy brofiad a gwaith celf parhaol o fewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gan Jo ddiddordeb arbennig mewn cydweithio ag awduron ac integreiddio’r gair ysgrifenedig i gomisiynau celf gyhoeddus.
Alison Moore, Cydlynydd De Cymru, Tîm Llesiant Coedwigaeth Gymdeithasol, Coed Lleol
Mae Alison yn codi proffil Coed Lleol, gan symud y cyfeiriad strategol yn ei flaen, wrth ddatblygu syniadau ariannu i adeiladu cwmpas ac ehangder ein rhaglenni coedwigaeth gymdeithasol. Mae Alison yn gweithio gyda’r timau cydlynu a chyflenwi a phartneriaid i helpu i siapio a llywio’r gweithgareddau Coedwigaeth Gymdeithasol. Mae Alison yn angerddol am fyd natur a chael eraill i weld pa mor bwysig yw natur i'n llesiant. Mae wrth ei bodd yn rhedeg a seiclo, mynd allan i’r awyr agored, beth bynnag fo'r tywydd, yn ogystal â bod yn gantores/gyfansoddwraig caneuon.
Heledd Fychan, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Fel Aelod o’r Senedd, mae Fychan wedi ymgyrchu ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mwy o weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chymorth i gymunedau sy'n wynebu risg barhaus o lifogydd; cau chwarel Craig yr Hesg; rôl fwy canolog i ddiwylliant, hanes, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon o fewn rhaglenni’r llywodraeth; dyfodol yr iaith Gymraeg; mynd i'r afael â thlodi; gwell cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chludiant ysgol
Sandy Clubb, Swyddog Polisi a Gweithredu, Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Dr Karen Mak, Uwch Gymrawd Ymchwil Epidemioleg ac Ystadegau, Coleg Prifysgol Llundain; Cymrawd Iechyd Poblogaeth Fyd-eang, Labordy Celfyddydau ac Iechyd Jameel; Cymrawd Polisi, Uned Gyflenwi Ysgrifennydd Gwladol y DCMS
Pobl ifanc o raglen Sparc Valleys Kids gyda Miranda Ballin, Cyfarwyddwr Celfyddydau
Adrian Williams, Rheolwr Celfyddydau a Diwylliant Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Gemma Dodds, Cynorthwyydd Celfyddydau ac Ymgysylltu â'r Gymuned, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mared Huws, Cydlynydd Datblygu’r Celfyddydau a Rheolwr rhaglen BLAS, Pontio
Emma Price a Jo Breckon, Cyd-Gyfarwyddwyr, Studio Response
Alison Moore, Rheolwr Coedwigaeth Gymdeithasol a Llesiant, Coed Lleol
Heledd Fychan, Y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Pobl Ifanc Sparc (cefnogwyd gan Miranda Ballin), Valleys Kids
Mared Huws, Pontio
Emma Price a Jo Breckon, Studio Response
Alison Moore, Coed Lleol
Sandy Clubb, Swyddog Polisi a Gweithredu, Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
