Rhaglen Weave | Gwehyddu Cynhadledd Celfyddydau ac Iechyd

 

Tocynnau yma

 

Cliciwch ar y symbol + i weld y testun ym mhob blwch.

Day 1: Dydd Llun 09 Mis Medi

11.15yb - 12.15yp | Porffor COFRESTRU
12.15yp - 12.30yp | Pinc AGORIAD CERDDOROL: CHOIRS FOR GOOD

gyda: 

  • Choirs for Good
12.30yp - 1.00yp | Pinc CROESO

gyda

1.00yp - 1.30yp | Pinc PRIF ARAITH: SARAH MURPHY, AS, Y GWEINIDOG IECHYD MEDDWL A LLESIANT

gyda:

1.30yp - 2.15yp | Gwyrdd CINIO
2.15yp - 3.45yp | Melyn SESIYNAU TRAFOD #1
2.15yp - 3.45yp | Melyn 01 - SYNWYRIWM

Gweithdy celf weledol ymarferol gyda rhai o’r artistiaid yw hwn sy’n cynnig profiad ymarferol o’r prosesau a ddefnyddiwyd.

Prosiect Celf ac Iechyd yw Synwyriwm a grëwyd gan Amser i Siarad (AiS) a Galeri Caernarfon mewn cydweithrediad â Phlas Newydd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ei nod oedd mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig drwy sesiynau creadigol sy’n meithrin hunanfynegiant a sgyrsiau, ac yn hybu gwydnwch a llesiant.

Comisiynwyd pum artist dwyieithog i gynhyrchu amrywiaeth o weithiau celf synhwyraidd a ysbrydolwyd gan dreftadaeth Plas Newydd. Defnyddiwyd y darnau fel ffocws yn y gweithdai i rymuso ac annog unigolion i greu eu darnau celf eu hunain gyda beth bynnag oedd yn eu hysbrydoli yn nhiroedd a thŷ Plas Newydd. Penllanw’r prosiect oedd arddangosfa deithiol yn Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, yn arddangos y gweithiau comisiwn a’r gwaith celf a grëwyd yn ystod y gweithdai. Nod yr arddangosfa oedd lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl, hybu ymwybyddiaeth a dathlu croestoriad celf ac iechyd.

with:

Amser i Siarad (AiS)

Elusen iechyd meddwl llawr gwlad sy’n cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc Ynys Môn a Gwynedd yw AiS. Mae wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, ac mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyfarfodydd un i un, grwpiau therapiwtig a hyfforddiant ar draws y ddwy sir.

2.15yp - 3.45yp | Melyn 02 - YMCHWIL CELFYDDYDAU, IECHYD A LLESIANT YNG NGHYMRU

Bydd y drafodaeth banel hon yn arddangos y ffyrdd y mae prifysgolion Cymru wedi gweithio gydag ymarferwyr celfyddydol ar brosiectau iechyd a llesiant. Bydd yn cynnwys tri chyflwyniad byr ar brosiectau cyfredol ynghyd â sgwrs agored ar gyfeiriadau a blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer ymchwil i’r celfyddydau a llesiant.

Daw CCDC â’r naw prifysgol yng Nghymru at ei gilydd gan feithrin partneriaethau rhwng ymarfer, ymchwil a chymdeithas.

with: 

2.15y - 3.45pm | Melyn 03 TU CHWITH ALLAN: BLE RYDYN NI'N PROFI NATUR?

Rydyn ni’n gwybod bod byd natur yn cael effaith ryfeddol ar ein llesiant, ac mae'r cyfuniad o gelfyddydau a natur yn agor posibiliadau newydd i ymarferwyr iechyd. Ymunwch â'r drafodaeth banel hon i archwilio tri safbwynt gwahanol ar y celfyddydau a natur o fewn, o amgylch a thu hwnt i'n lleoliadau gofal iechyd.

1: Mynd â phobl i fyd natur am weithdy

2: Dod â byd natur yn agos at y ddarpariaeth gofal iechyd

3: Dod â byd natur i'r ddarpariaeth gofal iechyd gyda thechnoleg

Cadeirydd y sesiwn Joseph Conran, artist llawrydd, sydd hefyd yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru ac a fu’n rhan fawr o’r gwaith yn sefydlu’r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

2.15yp - 3.45yp | Melyn 04 - PRESGRIPSIYNU CREADIGOL: YR HERIAU

Beth yw heriau presgripsiynu creadigol o safbwynt gofal iechyd?

Mae sefydliadau celfyddydol ac artistiaid yn awyddus i gydweithio. Mae gwasanaethau gofal iechyd wedi’u llethu. Hyd yn oed os gall gweithwyr iechyd proffesiynol nodi’r angen am bresgripsiynu creadigol mae’n anodd rhoi prosiectau ar waith. Rydyn ni’n awyddus i gael sgwrs am y gwir heriau a’r rhwystrau a wynebir wrth feithrin perthnasoedd cryf gydag iechyd a gwreiddio presgripsiynu creadigol ym mhrif ffrwd ymarfer gofal iechyd.

gysa:

3.45yp - 4.00yp | Gwyrdd EGWYL
4.00yp - 4.45yp | Pinc PANEL: ARLOESI YN Y CELFYDDYDAU, IECHYD A LLESIANT YNG NGOGLEDD CYMRU CEDEIRYDD

gyda: 

4.45yp - 5.30yp | Pinc MONOLOGAYE GIG / NHS

Prosiect creadigol pwerus yw MononogAYE GIG dan arweiniad BLAS Pontio, sy’n cynnig cyfle i staff y GIG rannu eu profiadau personol drwy gyfrwng monolog a pherfformiad.

Datblygwyd y prosiect mewn cydweithrediad ag awduron proffesiynol, a gwahoddwyd gweithwyr gofal iechyd i ysgrifennu a pherfformio monologau’n seiliedig ar eu straeon bywyd go iawn wrth weithio yn y GIG. Cafwyd cyfanswm o 6 monolog, pob un yn emosiynol, gonest a hynod dreiddgar. O eiliadau o frwydro a gwydnwch i hiwmor a gobaith, roedd y perfformiadau’n cynnig cipolwg prin ar y bobl y tu ôl i’r iwnifform.

Drwy ddod â’r lleisiau hyn i’r llwyfan, roedd MononogAYE GIG yn dathlu cryfder ac ymroddiad staff y GIG gan ddefnyddio’r celfyddydau fel ffordd i gysylltu pobl, tanio sgwrs ac ysbrydoli empathi.

Cyflwynydd: Mared Huws

Perfformwyr: Siwan Mathias, Briall Gwilym

Day 2: Dydd Mawrth 09 Mis Medi

9.00yb - 10.00yb | Porffor COFRESTRU
10.00yb - 10.15yb | Pinc SGWRS: HELEDD FYCHAN, AS, CADEIRYDD GRŴP TRAWSBLEIDIOL Y CELFYDDYDAU AC IECHYD A ANGELA ROGERS
10.15yb - 10.30yb | Pinc CYFLWYNIAD FIDEO: SYR MICHAEL MARMOT
10.30yb - 11.15yb | Pinc PRIF ARAITH: BEATRICE GBEVEGNON-ROPER A WILL ROPER

Ymateb cerddorol yw Cocoon i heriau a llawenydd profiadau’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig (NICU), gan  Beatrice Gbevegnon-Roper a Will Roper. Fel cwpwl priod a rhieni sydd wedi profi genedigaeth gynnar eu merch (26 wythnos), mae Cocoon yn adrodd stori dimensiynau emosiynol a synhwyraidd y daith hon o safbwynt mam o liw a thad. 

Mae'r prosiect ymchwil a datblygu hwn, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn asio’r llais, offerynnau, samplau, a recordiadau maes, gan gofnodi cymhlethdodau eu profiad. Mae cyfraniadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr uned newydd-enedig yn Abertawe wedi cyfoethogi ymchwil y prosiect, a fyddai’n canu cloch gyda rhieni a staff, gan wneud “Cocoon” yn gyswllt ystyrlon o fewn y celfyddydau ac iechyd.

Drwy eu cefndiroedd artistig a therapiwtig, mae Beatrice a Will yn angerddol am ddefnyddio’r celfyddydau fel offeryn ar gyfer effaith gymdeithasol. Mae Beatrice, cantores brofiadol, chwaraewraig offerynnau taro, dawnswraig a sylfaenydd Wellness & Voice wedi cysylltu’n ddwfn â’i threftadaeth yng Ngorllewin Affrica, ac fel Osteopath arbenigol, daw â dealltwriaeth ddofn o'r cysylltiad rhwng y corff a'r meddwl drwy ei gwaith. Bwriad Will, perfformiwr, cynhyrchydd, offerynnwr ac Ymarferydd Creadigol sy'n hyfforddi ar hyn o bryd fel Therapydd Cerdd, yw cefnogi eraill i ddatblygu eu lleisiau creadigol, gan ddyfnhau ei ddealltwriaeth o bŵer cerddoriaeth ar gyfer twf personol a chymunedol. Gyda'i gilydd, maen nhw’n cysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol drwy gerddoriaeth, gan feithrin newid cymdeithasol a dealltwriaeth ddiwylliannol.

11.15yb - 11.30yb | Gwyrdd EGWYL
11.30yb - 1.00yp | Melyn SESIYNAU TRAFOD #2
11.30yb - 1.00yp | Melyn 01 - DIWYLLIANT MEWN GOFAL

Ymunwch ag artistiaid o brosiect Diwylliant mewn Gofal mewn sesiwn ymarferol anffurfiol yn edrych ar agweddau creadigol at lesiant i’r rheini sy’n gweithio ac yn byw mewn lleoliadau gofal. Mae hwn yn weithdy chwareus sydd wedi’i wreiddio mewn profiadau real gyda chydlynwyr gweithgarwch a chyfnodau preswyl artistiaid, ac mae’n cynnig offer ymarferol, sgwrsio gonest a ffyrdd llawen o ddod â diwylliant i mewn i ofal.

gyda:

11.30yb - 1.00yp | Melyn 02 - HIL AC AMRYWIAETH

Bydd tîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru mewn partneriaeth â Chydlynydd yr Hwb Amlddiwylliannol Iolanda Banu Viegas a’r artist Krishnapriya Ramamoorthy a Jean Samuel Mfikela yn arwain trafodaeth ar werth cymdeithasol defnyddio’r celfyddydau fel adnodd i greu cydlyniant cymunedol a gwella iechyd a lles. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys eu prosiect adsefydlu diweddar gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Sir Ddinbych.

gyda:

11.30yb - 1.00yp | Melyn 03 - POBL IFANC A GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL

Bydd Hywel Dda yn rhannu canfyddiadau a myfyrdodau yn dilyn pedair blynedd o gydweithio rhwng Timau SCAMHS a’r Celfyddydau ac Iechyd i gyflenwi Hwb Celfyddydol – prosiect  a gynlluniwyd i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc sy’n hysbys i SCAMHS Hywel Dda ag anghenion iechyd meddwl ysgafn i ganolig ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. 

gyda:

11.30yb - 1.00yp | Melyn 04 - HAPUS

Gofod sydd wedi’i neilltuo i lesiant meddyliol yw Hapus. Lle mae syniadau ac adnoddau'n cael eu rhannu i helpu i ysbrydoli pob un ohonom i gymryd camau i warchod a gwella ein llesiant meddyliol a llesiant meddyliol pobl eraill. Bwriad Hapus yw sbarduno sgwrs genedlaethol ar lesiant meddyliol, ac mae’n cael ei gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol a chefnogwyr.  Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae Hapus yn cynyddu ymgysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd ac yn dod â phobl at ei gilydd dros achos cyffredin, er mwyn gwella llesiant meddyliol pobl Cymru.

gyda:

  • Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru
1.00yp - 1.45yp | Gwyrdd CINIO
1.45yp - 3.15yp | Melyn SESIYNAU TRAFOD #3
1.45yp - 3.15yp | Melyn 01 - BEATRICE GBEVEGNON-ROPER & WILL ROPER, A MR PHORMULA

Bydd Bea ac Will yn cynnig gweithdy lleisiol byr o’r enw ‘Gwreiddio drwy Waith Lleisiol Byrfyfyr’ a fydd yn rhannu rhai o’r technegau y maen nhw wedi’u datblygu fel rhai o’u prosiect Cocoon, gan weithio gyda NICU ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Yna bydd Mr Phormula yn cynnig gweithdy hwyliog, deinamig i greu eich bîts a’ch geiriau eich hun. Neu dewch draw i wylio'r broses yn digwydd. Mae Ed yn gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau cymdeithasol o ysgolion i gartrefi gofal.

1.45yp - 3.15yp | Melyn 02 - LLESIANT YMARFERWYR

Ers y pandemig cafwyd pwyslais cynyddol ar sicrhau bod llesiant ymarferwyr ac artistiaid llawrydd yn cael ei ystyried mewn prosiectau. Mae WAHWN newydd gwblhau rhaglen genedlaethol arobryn dros dair blynedd, Sut Mae’n Mynd? oedd yn fodd i ddatblygu gwahanol ddulliau i gefnogi llesiant artistiaid o lefel yr unigolyn i sefydliadau. Bydd Rheolwr y Rhaglen Tracy Breathnach yn cyflwyno’r canfyddiadau.

Bydd ail gyflwyniad yn cael ei rannu gan BECTU sy'n canolbwyntio ar eu rhaglen llesiant yn y sector celfyddydau, o'r enw Cult Cymru, sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant y gweithlu o fewn y sector creadigol. Byddwn yn clywed am eu rhaglen i Hwyluswyr Hyfforddiant a Llesiant Iechyd Meddwl wrth iddyn nhw weithio gyda phartneriaid i greu diwydiant creadigol tecach a mwy cynhwysol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.

Bydd ail hanner y sesiwn yn weithdy ymarferol dan arweiniad yr artist Cai Tomos, a fydd yn cynnig ysgogiadau creadigol ysgafn i bobl allu ymlacio, cysylltu a myfyrio ar eu gwaith a’u harferion eu hunain.

gyda:

  • Tracy Breathnach
  • Sian Gale
  • Cai Tomos
1.45yp - 3.15yp | Melyn 03 NEWID MWYAF ARWYDDOCAOL

Yn y gweithdy cyflwyniadol hwn bydd Nick yn eich arwain drwy fethodoleg sylfaenol y broses ac yn cynnig ambell enghraifft lle mae’n gweithio’n dda.

Mae gwerthuso sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau wedi bod yn cael ei hyrwyddo ers tro  - yn enwedig mewn gwasanaethau a rhaglenni sy’n canolbwyntio ar newid a gwella. Mae casglu tystiolaeth am ganlyniadau pobl bellach yn ofyniad cyffredin. Fodd bynnag, mae mesur a chasglu canlyniadau newid mewn ffyrdd ystyrlon yn gallu bod yn heriol. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol fod straeon pobl yn gallu bod yn fwy pwerus mewn gwerthusiad sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae Newid Mwyaf Arwyddocaol yn ddull sy’n defnyddio straeon ar gyfer casglu ac archwilio canlyniadau newid a ddatblygwyd yng nghyd-destun iechyd cyhoeddus a datblygu cymunedol (Davies and Dart 2005). Fe’i defnyddiwyd yn llwyddiannus mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gydag unigolion a chymunedau i ganfod effaith newid yn eu bywydau - o’u safbwynt nhw ac mewn ffordd sy’n galluogi i’w barn gael ei chlywed a’i thrafod ymhellach mewn dialog gyda rhanddeiliaid perthnasol.

gyda:

1.45yp - 3.15yp | Melyn 04 - CELFYDDYDAU, IECHYD A PHOLISI

Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd gwleidyddol parhaus, mae angen i ni sicrhau bod ein neges i’r rhai sy’n llunio polisïau’n glir. Yn y gweithdy hwn byddwn yn edrych ar sut y gallai llywodraeth leol a chenedlaethol gefnogi ein sector yn well ac yn llunio rhai ceisiadau polisi penodol i’n helpu i oroesi a ffynnu.

gyda:

3.15yp - 3.30yp | Gwyrdd EGWYL
3.30yp - 4.15yp | Pinc PANEL: Y CAMAU NESAF I’R SECTOR

Cadeirydd: : TBC

gyda: 

4.15yp - 4.30yp | Pinc DIWEDDGLO CERDDOROL

gyda: 

Search