Gwehyddu: Cynhadledd Celfyddydau ac Iechyd Meddwl

Yr hydref hwn lansiodd Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru gynhadledd celfyddydau ac iechyd meddwl gyntaf y genedl.

Digwyddodd Gwehyddu ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd. Roedd yn canolbwyntio ar effaith gadarnhaol y celfyddydau a chreadigrwydd ar iechyd meddwl a llesiant Cymru.

Cynlluniwyd y digwyddiad rhad ac am ddim i gynllunio i adeiladu ar bartneriaethau, cynnydd a llwyddiannau arloesol y genedl yn y celfyddydau ac iechyd dros y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth dros chwe blynedd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.

Datgelu’r manylion:

Roedd y canlynol ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau:

·       Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant

·       Derek Walker, Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

·       Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr;

·       Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Roedd y cyfres o sesiynau trafod yn tynnu sylw at amrywiol brosiectau iechyd creadigol ledled Cymru, fel y rhai sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n profi anhwylder straen wedi trawma a gweithdai creadigol Cymraeg i bobl y mae’r aflwydd hwn yn effeithio arnynt. 

Hefyd roedd man rhwydweithio i gyfarfod a chysylltu â chydweithwyr o bob rhan o Gymru, yn ogystal â gweithgareddau creadigol dan do ac awyr agored i gefnogi lles y cynrychiolwyr ar y diwrnod.

Roedd y gynhadledd Gwehyddu’n garreg filltir newydd yn yr ymdrechion i wreiddio’r celfyddydau a chreadigrwydd yn nulliau iechyd a gofal Cymru. 

Gan ei fod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, roedd y tocynnau Gwehyddu’n gyfyngedig. Ond gallwch wylio'r holl drafodaethau panel prif ystafell yma.

Mae’r amserlen lawn i’w gweld yma yn faun.

Chwilio