Gwybodaeth Hygyrchedd - Weave | Gwehyddu Arts & Mental Health Conference

Green and Pink Weave | Gwehyddu Conference Logo

Parcio

Parcio Anabl – ceir 4 lle parcio anabl yn Sefydliad Lysaght.

 

Mynediad Gwastad

Ceir mynediad heb stepiau o’r maes parcio i bob rhan o’r lleoliad.

Mae lifft ar gael.

Mae’r drysau a’r coridorau’n ddigon llydan ar gyfer cadair olwyn.

Bydd lle i eistedd ym mhob ystafell.

 

Toiledau

Ceir toiledau niferus ar bob llawr.

Ceir toiledau anabl ar y llawr daear.

 

Capsiynau / STTR

Caiff sgyrsiau a chyflwyniadau yn yr Ystafell Binc eu capsiynu gan yr arbenigwr trosi iaith lafar yn destun Sheryll.

 

Dolenni Sain

Mae gan Sefydliad Lysaght system ddolen sain weithredol. Cysylltwch â Becca i gael rhagor o wybodaeth: coordinator@wahwn.cymru

 

Man Tawel

Ceir man tawel sydd ar agor drwy gydol y dydd.

Mae ar y llawr daear, tua chefn ochr dde’r adeilad.

Bydd arwyddion glas yn dangos y ffordd.

 

Cymorth

Bydd Tîm WAHWN ar gael yn ystod y dydd i’ch helpu. Byddant yn gwisgo crysau-t gwyn gyda logo gwyrdd a phinc Weave | Gwehyddu.

Bydd staff Sefydliad Lysaght hefyd ar gael i’ch helpu.

Search