Gwehyddu | Weave Cynhadledd Celfyddydau Ac Iechyd Meddwl Amserlen

10.30am - 10.35am | Pinc CROESO GAN TRACY BREATHNACH, WAHWN
10.35am - 10.55am | Pinc Y CELFYDDYDAU AC IECHYD MEDDWL YNG NGHYMRU A’R DU

Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant

Gwleidydd Llafur a Chydweithredol yw Lynne Neagle ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru. Mae gan Lynne angerdd dros atal hunanladdiad ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd De Cymru. Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, bu Lynne mewn sawl swydd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a CAB.

 

Sally Lewis, Rheolwr Rhaglenni, Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Sally wedi gweithio ar draws y celfyddydau, mewn addysg ac ar berthynas y DU â Japan ers 40 mlynedd mewn amrywiol swyddi gan gynnwys i wyliau, Theatr Sadler’s Wells, Sefydliad Japan a londondance.com. Ers chwe blynedd mae gwaith Sally yng Nghyngor y Celfyddydau wedi canolbwyntio ar feithrin partneriaethau strategol i eiriol dros fuddion iechyd a llesiant cyfranogi yn y celfyddydau; cefnogi swyddi creadigol yn y GIG; datblygu’r Cwtsh Creadigol (adnodd llesiant creadigol i’r gweithlu gofal iechyd) a buddsoddi yn Celfyddyd a Chrebwyll sef rhaglen i gefnogi gwell iechyd meddwl drwy’r celfyddydau mewn partneriaeth gyda Sefydliad Baring a’r holl Fyrddau Iechyd ledled Cymru.

 

David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad Baring 

Cyn ymuno â Sefydliad Baring, bu David yn arwain menter Ymddiriedolaeth Carnegie y DU ar bobl ifanc a gwneud penderfyniadau ac Ymddiriedolaeth DIVERT, yr elusen genedlaethol ar gyfer atal troseddu ieuenctid, oedd yn arbenigo mewn rhaglenni mentora i bobl ifanc risg uchel. Hefyd bu’n rhedeg Uned Diogelwch Cymunedol ar gyfer Bwrdeistref yn Llundain, oedd yn gwneud gwaith arloesol ar droseddau casineb a thrais domestig a dechreuodd ei yrfa’n gweithio ar gydraddoldeb hiliol. Ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr Peace Direct ac yn ymddiriedolwr Settle Stories. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol sylfaen i’r Comisiwn ar gyfer y Compact oedd yn goruchwylio cysylltiadau’r Llywodraeth/Sector Gwirfoddol.

 

Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn BIPAB

Peter yw Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers mis Rhagfyr 2017. Mae’n ystyried bod ei rôl yn gyfle breintiedig i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’w holl gydweithwyr, partneriaid a phobl sy’n byw yn ein cymuned, fel bod y gofal y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ei ddarparu iddynt yn caniatáu iddynt ffynnu, byw a gweithio mewn ffordd sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ef a’r bwrdd iechyd yn ymrwymo i gefnogi defnyddio’r celfyddydau er iechyd a llesiant, er budd ein cleifion, staff a’r gymuned ehangach, fel yr eglurir yn ei strategaeth celfyddydau ac iechyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

10.55am - 11.00am | Pinc DAWNSIO’N DDA - CYFWELIAD GYDAG AMY DOWDEN

Y ddawnswraig broffesiynol a seren Strictly Come Dancing Amy Dowden sy’n rhannu ei phrofiad personol o fanteision y celfyddydau i’w hiechyd corfforol a meddyliol a’i lles mewn cyfweliad arbennig a recordiwyd ar gyfer Gwehyddu.

11.00am - 11.40am | Porffor DECHRAU’N DDA – IECHYD MEDDWL AMENEDIGOL

Cadeirydd 

Martha Sercombe, Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru

Panelwyr

The Lullaby Project: Jay Mendivil and Bethan Semmens, Live Music Now
 
Rhaglen iechyd greadigol yw Prosiect Lullaby Live Music Now sy’n paru mamau a theuluoedd newydd gyda cherddorion proffesiynol i ysgrifennu, canu, recordio a pherfformio cân bersonol i’w plentyn drwy archwilio eu hemosiynau, meddylfryd a gobeithion at y dyfodol. Mae tystiolaeth yn dangos bod Prosiectau Lullaby a gyflwynir mewn partneriaeth gyda byrddau iechyd a darparwyr gwasanaeth iechyd yn gallu bod yn drawsnewidiol i deuluoedd mewn amgylchiadau heriol a gwella iechyd meddwl amenedigol. Datblygwyd model Prosiect Lullaby gan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd ac yn ystod yr 11 mlynedd ddiwethaf mae wedi cael ei ddefnyddio’n rhyngwladol gan sefydliadau mewn partneriaeth gyda darparwyr gwasanaeth iechyd. 

1,000 Diwrnod: Deborah Aguirre a Laura Bolton, BIP Aneurin Bevan  
 
Rhaglen o ymyriadau creadigol yw 1,000 diwrnod i rieni sy’n profi heriau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol neu sydd angen cymorth yn eu perthynas rhiant-babi, ochr yn ochr â’u babanod, yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Cânt eu cyfeirio gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol a Rhiant Baban Gwent BIP Aneurin Bevan. Mae’r Artist Arweiniol Deborah Aguirre Jones a’r Seicolegydd Cynorthwyol Laura Bolton yn rhannu effaith gadarnhaol artistiaid a chlinigwyr yn cydweithio drwy gelf, cerddoriaeth a symud i gefnogi adfer iechyd meddwl a lles mewn rhieni. Fel rhan o raglen Celfyddyd a Chrebwyll, mae hwn yn brosiect cydweithredol a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Birth Café: Dr Tracy Breathnach gyda People Speak Up 
 
Roedd Birth Café yn bartneriaeth rhwng Dr Tracy Breathnach a People Speak Up a ddechreuwyd yn 2018 i gefnogi menywod i fynegi a rhannu eu straeon am enedigaeth yn defnyddio dull somatig neu ymgorfforedig. Helpodd y prosiect i rymuso menywod, er mwyn iddynt allu profi mwy o rym a hunanbenderfyniad, gan arwain at well llesiant a chysylltiadau cymdeithasol drwy gymuned ofalgar a chefnogol o gymheiriaid. Roedd y prosiect ar agor i bawb, nid mamau newydd yn unig, ac roedd yn cynnwys cyfranogwyr o’u 20au i’w 80au. Bydd un cyfranogwr yn rhannu ei stori yn y cyflwyniad a bydd Tracy’n egluro sut mae’r gwaith wedi datblygu ers hynny. 

11.00am - 11.40am | Gwyrdd DIBYNIAETH / CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU (GYDA CHYFIEITHIAD SAESNEG)

Ar y Dibyn: Nia Skyrme a Iola Ynyr, Theatr Genedlaethol Cymru 
 
Mae Ar y Dibyn yn brosiect creadigol i unigolion sy’n byw gyda dibyniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cynnig gwasanaeth cyfieithwyr i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar egwyddor creu amgylchedd diogel lle ceir cyd-ddealltwriaeth o heriau dibyniaeth. Arweinir prosiect Ar y Dibyn gan Theatr Genedlaethol Cymru a’r artist arweiniol Iola Ynyr, mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru. Ar hyn o bryd caiff ei gyllido a’i gefnogi gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau a Menter Iaith Môn.

11.00am - 11.40am | Melyn CAFFI DATA (GYDA CHYFIEITHIAD CYMRAEG)

Crynodeb 
 
Ymunwch â’r ymgynghorydd Celfyddydau ac Iechyd Rosie Dow mewn sgwrs am sut rydym ni’n cyrchu, cynhyrchu a rhannu tystiolaeth am effaith y celfyddydau mewn iechyd. Gan dynnu ar ei phrofiad o weithio gydag ymchwilwyr a gwerthuso prosiectau, bydd Rosie’n rhannu rhai o’r adnoddau gorau a mwyaf diweddar y gallwch dynnu arnynt yn eich gwaith chi gobeithio, yn ogystal â hwyluso sgwrs agored am y cyfeiriad rydym ni am weld y sail tystiolaeth yn datblygu.  

Rosie Dow

Mae Rosie yn ymgynghorydd llawrydd sy’n helpu pobl a sefydliadau i feddwl sut maen nhw’n datblygu, cefnogi a chynnal gwaith creadigol mewn lleoliadau iechyd. Mae ei phortffolio o waith yn cwmpasu mentora a hyfforddi, strategaeth, cynhyrchu incwm a phrosiectau data/gwerthuso. Mae Rosie wedi’i hyfforddi’n gerddor a sefydlodd ac arweiniodd 18 côr ‘Sing with Us‘ Gofal Canser Tenovus cyn arwain corau’r Gwragedd MilwrolYmchwil Iechyd Breathe Arts a rhaglen ‘HARP‘ i Nesta/Cyngor Celfyddydau Cymru. Arweiniodd hefyd ar ymgysylltu a pholisi ar ran Grwp Ymchwil Dr Daisy Fancourt ac mae’n Gyfarwyddwr Bwrdd y Cynghrair Diwylliant, Iechyd a Llesiant a theatr Dirty Protest.

11.40am - 12.10pm | Pinc YR ANGEN AM YMAGWEDD GREADIGOL I FYND I’R AFAEL AG ANGHYDRADDOLDEBAU IECHYD MEDDWL

Crynodeb  

Mae’r drafodaeth banel hon ar anghydraddoldebau mewn iechyd meddwl a llesiant yn ystyried sut y gall y sector creadigol gyfrannu at wella cydraddoldeb mewn iechyd meddwl a llesiant, a chanlyniadau iechyd ehangach i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.  
 
Cadeirydd

Emily van de Venter, , Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Emily van de Venter yn ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chyfrifoldeb arweiniol am warchod a hyrwyddo llesiant meddwl. Mae wedi gweithio ym maes iechyd cyhoeddus y DU ers 15 mlynedd ac mae ganddi ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a llesiant, a sbardunwyd gan radd israddedig mewn niwrowyddoniaeth. Mae Emily wedi cyhoeddi papurau ar ddulliau gweithio yn y celfyddydau ac iechyd, yn ogystal ag effaith pandemig COVID-19 ar lesiant. 

Panelwyr

Dr Habib Naqvi, MBE, Prif Weithredwr, Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG 

Dr Habib Naqvi yw Prif Weithredwr Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG yn y DU, sy’n nodi ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ethnig mewn iechyd a gofal. Ar ôl ymuno â GIG Lloegr yn 2001, yn rheoli rhaglenni ymchwil iechyd cyhoeddus mawr, bu’n gweithio yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn cyfarwyddo rhaglenni cydraddoldeb iechyd cenedlaethol. Mae Dr Naqvi wedi ysgrifennu a siarad yn helaeth ar gydraddoldeb iechyd, a chyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin. Dyfarnwyd MBE iddo yn 2019 am wasanaethau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y GIG. 
 
Lexi Ireland, Arweinydd Strategol Anghydraddoldebau Iechyd, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Coventry a Warwickshire 

Mae Lexi Ireland yn angerddol o blaid trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl mewn ffyrdd arloesol a blaengar i gyflawni’r gofal iechyd gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae ganddi brofiad o greu llwybrau a gyd-gynhyrchir, gyda ffocws ar ddulliau gwella ansawdd. Bydd Lexi’n rhannu ei gwaith ar salwch meddwl difrifol ac anghydraddoldebau iechyd, yr angen am ddulliau partneriaeth arloesol, a’r celfyddydau ac ethnigrwydd, gan gynnwys hyrwyddo gwaith a gyflawnir gan y Rhwydwaith Cynhwysiant Diwylliannol. 
 
Nerys Edmonds, Prif Swyddog Datblygu Asesu Effaith Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru 
Mae Nerys Edmonds yn nyrs iechyd meddwl sydd wedi gweithio ym maes iechyd cyhoeddus y GIG yng Nghymru a Lloegr ers 2000, yn ogystal â llywodraeth leol a’r trydydd sector, yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae wedi gweithio i atal hunanladdiad, hyrwyddo llesiant meddwl gydol oes, ymdrin â stigma, ymyrraeth gynnar, strategaethau hybu iechyd meddwl ac asesiadau effaith iechyd lleol. Bellach mae Nerys yn gweithio i Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Ymddiriedolwr y Sefydliad Iechyd Meddwl. Hi yw awdur y Pecyn Cymorth Asesu Effaith Llesiant Meddwl (2011), ac Asesiadau Effaith Iechyd ar Brexit a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru. 

12.10pm - 12.50pm | Porffor TYFU’N DDA - IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC

Cadeiryddion 
 
Deb Austin, Arweinydd Ymgynghori Cenedlaethol, CAMHS a Glyn Jones, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, CAMHS  (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed)  

Hwb Celfyddydol: Kathryn Lambert a Katie O’Shea, BIP Hywel Dda  
 
Roedd yr Hwb Celfyddydol yn brosiect uchelgeisiol a lansiwyd yn 2022, dan arweiniad BIP Hywel Dda, i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng ngorllewin Cymru a lleihau eu teimladau o drallod drwy ymgysylltu â’r celfyddydau. Roedd y cyfranogwyr yn wybyddus i Wasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) y bwrdd iechyd. Roedd y prosiect yn ymateb i’r niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc oedd yn ceisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl gan S-CAMHS Hywel Dda. Roedd yr Hwb Celfyddydol yn rhan o raglen Celfyddyd a Chrebwyll genedlaethol a gyllidwyd gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

Prosiectau Ieuenctid Celfyddyd a Chrebwyll: Melanie Wotton, BIP Caerdydd a’r Fro 
 
Mae Tîm Celfyddydau er Iechyd a Llesiant BIP Caerdydd a’r Fro’n cefnogi rhaglen eang, amrywiol o gelfyddydau a gyflwynir ledled ei safleoedd ysbyty ac yn ei gymunedau. Maen nhw’n gweithio gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau trydydd sector a chymunedol i gyflwyno prosiectau arloesol ac effeithiol i bobl allu ymgysylltu â’r celfyddydau ar gyfer llesiant. Bydd Mel yn cyflwyno trosolwg o ddwy flynedd gyntaf Prosiect Celfyddyd a Chrebwyll y bwrdd iechyd, menter ar draws Cymru gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, gan gynnwys y ffilm Unity, a gyd-grewyd gan Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, Caerdydd.

Prosiect Amythyst: Deri Morgan, Small World Theatre 

Ers 2016, mae Prosiect Amethyst wedi cynnal gweithdai i bobl ifanc sydd wedi profi hunan-niweidio, gorbryder, iselder, hyder isel a diffyg hunan-barch. Mae hefyd yn gweithio’n fwy eang gyda phobl ifanc i wella llesiant emosiynol. Mae Amethyst yn blaenoriaethu creu man diogel, cefnogol heb feirniadaeth. Mae’n modelu caredigrwydd, empathi, gonestrwydd ac unplygrwydd. Gan ddefnyddio technegau ‘Theatr y Gorthrymedig’ fel theatr fforwm a theatr delwedd, elfennau o Ddadansoddi Trafodol, therapi ymddygiad gwybyddol a niwrowyddoniaeth, gemau ac ymarferion, mae’r prosiect yn hyrwyddo llesiant ac iechyd meddwl. Mae’n gweithio gyda phob grŵp i drafod contract clir, parhaus gyda’r holl aelodau.  

12.10pm - 12.50pm | Gwyrdd TRAIS RHYWIOL

Negeseuon o Obaith: Jain Boon a Matilda Tonkin-Wells (thisPlace) gyda New Pathways 
 
Roedd Negeseuon o Obaith yn brosiect creadigol ymchwil a datblygu gan brif ddarparwr cymorth trais rhywiol Cymru, New Pathways, â’r nod o annog pobl sydd wedi cael profiad o drais rhywiol i gofyn am gymorth gan weithio gyda’r artistiaid Jain Boon a Matilda Tonkin-Wells o thisPlace, cwmni theatr dawns yn seiliedig ar drawma yng Nghaerdydd. Mae thisPlace yn gweithio gyda straeon sy’n codi o’r corff drwy symud, byrfyfyrio, a chwarae. Mewn cydweithrediad â chymunedau, gobaith thisPlace yw datgelu ac ailddychmygu’r straeon hyn drwy broses greadigol wedi’i seilio mewn trugaredd i’r hunan, eraill a’r byd. Mae’r dull a gaiff ei lywio gan drawma’n canolbwyntio ar y corff a phwysigrwydd cymuned wrth reoleiddio’r system nerfol, gan greu mannau sy’n ddiogel a gobeithiol ond hefyd lle ble mae cyfranogwyr yn gallu cwrdd â’r heriol. 

12.10pm - 12.50pm | Melyn CAFFI SGILIAU (GYDA CHYFIEITHIAD CYMRAEG)

Crynodeb

Wrth i’r diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant barhau i dyfu yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd i ysbrydoli a meithrin artistiaid i weithio mewn lleoliadau iechyd a llesiant cymunedol. Ond sut mae artistiaid yn gallu sicrhau’r hyder a’r sgiliau i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel yn y sector hwn? Ymunwch â’r ymgynghorydd llawrydd Rosie Dow am sgwrs anffurfiol am y sgiliau rydym ni’n credu bod angen i artistiaid eu datblygu a sut y gallai WAHWN ac eraill gefnogi hyn. Mae’r sesiwn hon yn rhan o brosiect ‘Llwybrau Creadigol’ WAHWN sy’n edrych ar ddatblygu’r 
gweithlu ac fe’i cyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Rosie Dow

Mae Rosie yn ymgynghorydd llawrydd sy’n helpu pobl a sefydliadau i feddwl sut maen nhw’n datblygu, cefnogi a chynnal gwaith creadigol mewn lleoliadau iechyd. Mae ei phortffolio o waith yn cwmpasu mentora a hyfforddi, strategaeth, cynhyrchu incwm a phrosiectau data/gwerthuso. Mae Rosie wedi’i hyfforddi’n gerddor a sefydlodd ac arweiniodd 18 côr ‘Sing with Us‘ Gofal Canser Tenovus cyn arwain corau’r Gwragedd Milwrol, Ymchwil Iechyd Breathe Arts a rhaglen ‘HARP‘ i Nesta/Cyngor Celfyddydau Cymru. Arweiniodd hefyd ar ymgysylltu a pholisi ar ran Grwp Ymchwil Dr Daisy Fancourt ac mae’n Gyfarwyddwr Bwrdd y Cynghrair Diwylliant, Iechyd a Llesiant a theatr Dirty Protest.

12.50pm - 1.30pm CINIO
1.30pm - 1.45pm | Pinc PERFFORMIAD GAN GÔR UN BYD OASIS
1.45pm - 2.15pm | Pinc GOFALU AM LESIANT MEDDWL Y GWEITHLU IECHYD A CHREADIGOL

Crynodeb  

Mae’r drafodaeth banel hon yn ystyried sut y gall y celfyddydau a chreadigrwydd gyfrannu at gefnogi llesiant meddwl y gweithlu iechyd a chreadigol, gan amlygu tair rhaglen arloesol arobryn ledled Cymru. 
 
Cadeiryddion

Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Conffederasiwn GIG Cymru 

Mae gan Nesta Lloyd-Jones dros ddegawd o brofiad yn gweithio ym maes polisi a materion cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Conffederasiwn GIG Cymru. Ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith a chael ei galw i’r Bar yn 2004, bu Nesta’n gweithio i Cymorth i Ferched Cymru am chwe blynedd fel cydlynydd materion cyfreithiol. Yna daeth yn aelod o dîm Materion Allanol arobryn Cymorth Canser Macmillan ac yn ymgynghorydd i Rape Crisis Cymru a Lloegr.
 
Oliver John, Rheolwr RCPsych yng Nghymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru 

Ollie John yw rheolwr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, gan oruchwylio cyfeiriad strategol, ymchwil a pholisi. Ymunodd â’r Coleg o Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol, gan gynnig profiad mewn arloesi digidol a dyngarol, mudo a dadleoli i sefydliadau ledled Ewrop. Ollie yw cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Arbenigol Iechyd Meddwl y Coleg Brenhinol sy’n dod â sefydliadau at ei gilydd ar draws gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. Mae hefyd yn darparu ysgrifenyddiaeth i Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hinsawdd, Natur a Llesiant. 
 
Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Mae Angie Oliver yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu yn AaGIC ers 2019. A hithau wedi’i hyfforddi’n gerddor clasurol gadawodd addysg uwchradd i ymuno â’r GIG yn 1995. Yn dilyn sawl rôl yn y Gwasanaeth Ambiwlans a BIP Caerdydd a’r Fro, yn 2004 daeth Angie yn Bennaeth Datblygu Staff ac yna’n Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad yn sir Benfro. Yn AaGIC hi sy’n gyfrifol am weithredu strategaeth 10 mlynedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a chynllun y gweithlu iechyd meddwl gan arwain yr agenda cyflenwi gweithlu. 

Panelwyr 
 
Dr Thania Acarón, Seicotherapydd Symud Dawns a Chyfarwyddwr Cwmni The Body Hotel 

Darlithydd, perfformiwr, seicotherapydd symud a dawns a goruchwyliwr clinigol yng Nghaerdydd yw Dr Thania Acarón o Puerto Rico. Mae’n ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru yn ymchwilio i amrywiaeth mewn ymarfer therapiwtig ac yn cynnig gweithdai rhyngwladol ar waith therapiwtig gyda’r gymuned LDHT+, penderfynu ymgorfforedig ac atal lludded gweithwyr. Sefydlodd Dr Acarón The Body Hotel yn 2020 – menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar lesiant gweithwyr a darparu gwasanaethau symud-er-llesiant a symud dawns ar sail seicotherapi i gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae wedi dysgu mewn dros 10 rhaglen hyfforddi therapi symud dawns ac yn gyd-olygydd yr American Dance Therapy Journal.
 
Aled Jones, Rheolwr Prosiect y Cwtsh Creadigol 

Rheolwr prosiectau llawrydd yw Aled Jones gyda thros ddwy ddegawd o brofiad ar brosiectau digidol. Mae’r Cwtsh Creadigol yn adnodd llesiant creadigol ar-lein a ddatblygwyd i gefnogi llesiant gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r wefan, a grewyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhan o raglen barhaus o waith partneriaeth ledled sectorau celfyddydau ac iechyd Cymru. Fe’i cynlluniwyd mewn ymgynghoriad ag AaGIC, Gofal Cymdeithasol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Cydlynwyr Celfyddydau ac Iechyd ym mhob bwrdd iechyd a grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd. 
 
Johan Skre, Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd, BIP Bae Abertawe 

Johan Skre yw cydlynydd y celfyddydau mewn iechyd BIP Bae Abertawe. Mae Rhannu Gobaith yn ymagwedd Celfyddydau mewn Iechyd arobryn at lesiant staff y GIG ym Mae Abertawe, a dyfodd o dueddiadau pryderus mewn iechyd meddwl a meddyliau am hunanladdiad yn dilyn COVID. Drwy’r celfyddydau a gweithgareddau creadigol, gall staff ddod o hyd i ffyrdd o fynegi’r hyn na allant ei ddweud, cysylltu â chydweithwyr a rhannu eu straeon. Mae Rhannu Gobaith yn cynnig mannau diogel i iachau, ymadfer a dod yn gryfach gyda’n gilydd. Dros ddwy flynedd mae dros 650 o staff wedi ymgysylltu â’r prosiect, a gefnogir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

2.15pm - 2.55pm | Porffor BYW’N DDA - IECHYD MEDDWL OEDOLION

Panelwyr

Maes Parcio Creadigol: Sarah Pace, Addo; Connor Wood KIM Inspire 
 
Mae Tŷ Pawb, KIM Inspire ac Addo wedi gweithio gyda’r artist Marja Bonada a phartneriaid i ailddychmygu’r to gwastad uwchlaw prif oriel Tŷ Pawb – rhan o faes parcio aml-lawr nad yw’n cael ei ddefnyddio – fel man gwyrdd arbrofol lle gall artistiaid, cymunedau a sefydliadau ddatblygu posibiliadau creadigol. Mae hyn wedi cynnwys cysgod neu weithdy awyr agored a man storio, wedi’i gynllunio a’i wneud gyda’r artist John Merrill. Roedd aelodau KIM Inspire yn ymwneud â’r holl waith adeiladu. Mae datblygu sgiliau newydd a meithrin hyder yn allweddol i’r rhaglen. Bydd potensial i gynnal digwyddiadau a chynulliadau anffurfiol, hyfforddiant a gweithdai creadigol gydag eraill, gan ddod yn lle celf ddefnyddiol yn yr awyr agored. Cyllidir gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Ymdeimlad o Le: Megan Leigh, Oriel Mission; Esther Ley, Crisis Skylight; Jenny Phillips, Cwmpas 
 
Prosiect partneriaeth rhwng Oriel Mission a’r elusen digartrefedd Crisis yw Ymdeimlad o Le. Gan adeiladu ar gydweithio llwyddiannus blaenorol, roedd y prosiect naw mis hwn yn cynnwys gweithgareddau a datblygu sgiliau i ddefnyddwyr gwasanaeth Crisis, gan holi’r cwestiwn ‘a all celf fod yn gerbyd i frwydro unigrwydd yn y rhai sy’n profi digartrefedd?’ Mae’r prosiect yn ymateb i adroddiad Crisis yn 2015, ‘I was all on my own’: experience of loneliness and isolation amongst homeless people.’ 

Prosiect Celfyddyd a Chrebwyll: Esyllt George, BIP Cwm Taf Morgannwg  
 
Nod prosiect Celfyddyd a Chrebwyll BIP Cwm Taf Morgannwg yw gwreiddio rôl y celfyddydau ar gyfer llesiant yng ngwasanaethau Iechyd Meddwl BIPCTM, gyda’r bwriad o ddatblygu celfyddydau cymunedol ar gyfer llesiant yn fframwaith rhagnodi cymdeithasol y Bwrdd Iechyd. Mae artistiaid wedi cyflwyno gweithdai creadigol mewn pedwar lleoliad. Gan adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn gyntaf, mae’r cyfranogwyr nawr yn cael eu cyflwyno i gydlynwyr cymunedol a phartneriaid celfyddydau’r trydydd sector. Caiff perthynas ei ffurfio gyda thimau rhagnodi cymdeithasol ac mae cyfranogwyr yn ymgysylltu â’r ddarpariaeth ddiwylliannol ehangach yn lleol. Ategir hyn gan bartneriaethau newydd gyda’r darparwyr rhanbarthol Tanio, Awen, RAFT, Artis Community a Llesiant Merthyr.  

2.15pm - 2.55pm | Gwyrdd CYN-FILWYR

Coming Home, Karin Diamond, Re-Live 
 
Karin Diamond, Cyfarwyddwr Artistig elusen Celfyddydau Straeon Bywyd Re-Live, yn trafod gweithio gyda chyn-filwyr a grym y celfyddydau i gynorthwyo pobl sy’n profi trawma. Mae’r sgwrs yn trafod prosiect diweddaraf Re-Live, Coming Home, comic a gyd-grewyd ochr yn ochr â chyn-filwyr sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl cymhleth, fel anhwylder straen wedi trawma, trawma rhywiol milwrol ac iselder. Bydd cyn-filwr a fu’n rhan o Coming Home yn ymuno â Karin ac yn rhannu effaith y celfyddydau ar ei iechyd meddwl a llesiant. Bydd pawb yn derbyn copi o gomic Coming Home sy’n cynnwys y gwaith a drafodwyd yn y sesiwn.  

2.15pm - 2.55pm | Melyn CAFFI HINSAWDD (GYDA CHYFIEITHIAD CYMRAEG)

Crynodeb 
 
Mae’r storïwr Carl Gough yn eich gwahodd i ymuno mewn ‘caffi hinsawdd’ lle bydd yn rhannu blas o’i weithdy profiad ‘Finding Your Nexus’ ac yn hwyluso sgwrs rymusol. Byddwch yn barod i newid eich canfyddiad a darganfod lle unigryw ble mae gennych chi’r cyfle i greu newid drwy weithredoedd bach. 
 
Carl Gough, Storiwr 
 
Mae Carl Gough yn storïwr proffesiynol sydd wedi perfformio’n rhyngwladol a recordio i BBC Cymru. Arweiniodd ei ail-ddeffroad personol yn ystod y cyfnod clo at ddatblygu gweithdy arbrofol y mae’n ei alw’n ‘Finding your Nexus’, sy’n defnyddio stori fel modd i helpu pobl i gysoni eu teimladau mewn cyfnod o newid yn yr hinsawdd.

3.00pm - 3.30pm | Pinc YMGORFFORI’R CELFYDDYDAU MEWN PARTNERIAETHAU RHANBARTHOL A LLEOL

Crynodeb  

Mae’r drafodaeth banel hon yn canolbwyntio ar rôl y celfyddydau, creadigrwydd, diwylliant ac arloesi yn ein tirwedd partneriaeth leol a rhanbarthol gan gynnwys byrddau gwasanaeth cyhoeddus a phartneriaeth rhanbarthol. Bydd yn trafod sut mae gogledd Cymru’n ceisio helpu preswylwyr y rhanbarth i fyw bywydau hapus, iachus a chysylltiedig.
 
Cadeirydd 
 
Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu Polisi Cyhoeddus, Prifysgol Wrecsam 
Nina Ruddle yw Pennaeth Ymgysylltu Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam. Mae ganddi 20  mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg, adfywio cymdeithasol ac economaidd, rhaglenni caffael a newid, a datblygu a chyflawni polisi mewn llywodraeth leol a chanolog. Erbyn hyn Nina sy’n arwain strategaeth partneriaeth cenhadaeth ddinesig y Brifysgol ledled y gogledd, sy’n gweithio i ddileu anghydraddoldeb cymdeithasol erbyn 2030. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp Strategaeth y Celfyddydau mewn Iechyd i BIP Betsi Cadwaladr ac yn aelod o Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, a rolau eraill. 

Panelwyr 
 
Yr Athro Alec Shepley, Deon Cyswllt Ymchwil ac Athro’r Celfyddydau a Chymdeithas, Prifysgol Wrecsam  
 
Academydd ac artist yng ngogledd ddwyrain Cymru yw’r Athro Shepley. Caiff ei waith, sy’n uno dulliau cynhyrchu celf ac ysgrifennu traddodiadol ag ystyriaethau ecolegol a chymdeithasol i greu mannau ar gyfer celf fel sgwrs ynghylch diben a chwarae, ei arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ymchwil wedi’i gyllido gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Cyngor Prydeinig, Cynghorau Celfyddydol Cymru a Lloegr. Ynghyd â’i rôl fel Deon Cyswllt Ymchwil yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Athro Celfyddydau a Chymdeithas ym Mhrifysgol Wrecsam, mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Uwch Gymrawd Advance HE ac yn Gymrawd Academi Frenhinol y Cambrian. 

Helen Goddard, Pennaeth Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy
 
Helen Goddard sy’n arwain Creu Conwy, Strategaeth Diwylliant Cyngor Conwy. Roedd yn archeolegydd yn wreiddiol a symudodd i faes datblygu cymunedol pan oedd yn byw yn Shetland cyn symud yn ddiweddarach i Gymru. Roedd yn swyddog datblygu amgueddfa ac yn swyddog twristiaeth treftadaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sir Conwy cyn cyflenwi prosiect Canolfan Diwylliant Conwy fel Pennaeth yr Adran Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth. Bellach mae Ms Goddard yn gosod llesiant wrth galon cenhadaeth Creu Conwy. Fe’i henwyd yn Grewr Newid Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am eiriol dros bŵer diwylliant i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dr Teri Howson-Griffiths, Arweinydd Strategol y Celfyddydau mewn Iechyd, BIP Betsi Cadwaladr 

Ymunodd Dr Teri Howson-Griffiths â BIP Betsi Cadwaladr ym mis Medi 2022. Mae hi hefyd yn gweithio fel darlithydd drama ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Mae ei hymchwil a’i harfer perfformio’n canolbwyntio ar berfformio cyfoes, cyfranogol â chyswllt cymdeithasol ac mae wedi cyfrannu at nifer o brosiectau celfyddydau cymunedol a chyfranogol yn ymwneud â chymuned a llesiant yn aml yn yr awyr agored. Roedd ei PhD yn ystyried potensial therapiwtig theatrau trochol. Roedd Teri’n rhan o’r rhaglen ymchwil Dementia a Dychymyg, yn edrych ar werth y celfyddydau cyfranogol i bobl sy’n byw gyda dementia ac ymchwilio i herio stigma dementia drwy gelf a theatr. Hefyd cefnogodd ddrama am brofiadau B/byddar o ganser.

Gwennan Mair, Theatr Clwyd

Hwylusydd ar gyfer theatr gymunedol ac artist yw Gwennan Mair sydd hefyd yn rhan o dîm arweinyddiaeth weithredol theatr gynhyrchu yng ngogledd Cymru, sef Theatr Clwyd. Ers 2014, mae Gwennan wedi ymroi i ddatblygu celfyddydau cymunedol i’r safon uchaf yn y gogledd, gan ddefnyddio theatr fel y brif ffurf gelfyddydol ar gyfer ymgysylltu. Ei hangerdd yw archwilio pŵer y celfyddydau mewn cymunedau: gwrando ar bobl, rhoi cyfle cyfartal iddynt ac agor drysau newydd i fyd y theatr. Ymhlith prosiectau cyfranogol diweddar Gwennan mae ‘Lleisiau Clwyd Voices’, a drefnwyd mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac a gyd-grëwyd gan bobl ifanc ac artistiaid llawrydd.

3.30pm - 4.10pm | Porffor HENEIDDIO’N DDA - IECHYD MEDDWL POBL HŶN

Cadeiryddion

Lisa Davies and Alicia Stark (Tanio), Cyd-gadeiryddion Rhwydwaith Heneiddio Creadigol, WAHWN  

Panelwyr

Y Celfyddydau mewn Cartrefi Gofal, Heather Furguson, Age Cymru 

Mae Age Cymru wedi arloesi yn y celfyddydau i bobl hŷn mewn cartrefi gofal yng Nghymru drwy eu prosiect adnabyddus cARTrefu. Heather Ferguson yw Pennaeth Polisi a Phrosiectau Age Cymru ac mae hi wedi gweithio i’r sefydliad ers dros saith mlynedd. Mae rôl Heather yn cynnwys goruchwylio gwaith dylanwadu Age Cymru sy’n cynnwys polisi, y cyfryngau, ymchwil, ymgyrchoedd a materion cyhoeddus. Mae’n cyflwyno gweledigaeth Age Cymru ar gyfer ‘Gwreiddio’r celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol ym mhob cartref gofal yng Nghymru. Pam eu bod yn hanfodol a sut y gellir ei wneud.'

Grŵp Cymdeithasol i Bobl Dros 50: Eleanor Shaw, People Speak Up 
 
Elusen gymdeithasol, celfyddydau ac iechyd yn y Ffwrnes Fach, hyb iechyd a llesiant Celfyddydau Llanelli yw People Speak Up. Mae’n gweithio ledled rhanbarth de orllewin Cymru, mewn cartrefi gofal, mannau cymunedol, mannau awyr agored a thrwy ymweliadau cartref un i un. Mae’n creu lle i leisiau a chymunedau anghofiedig ddod o hyd i’w hymdeimlad o le drwy adrodd straeon, geiriau llafar, ysgrifennu creadigol a’r celfyddydau cyfranogol. Ers y pandemig, mae People Speak Up wedi cynnal grŵp cymdeithasol wythnosol i bobl dros 50 oed, lle gallant sgwrsio dros baned a chreu gydag amrywiol artistiaid proffesiynol. Bydd Eleanor Shaw, sylfaenydd yr elusen, yn rhannu taith y prosiect a’i barn am yr angen am fannau creadigol i bobl hŷn a gwaith partneriaeth. 

Criccieth Greadigol, Dr Catrin Jones, Cyngor Tref Cricieth
 
Tref fach ddwyieithog yng ngogledd orllewin Cymru yw Cricieth. Yn debyg i lawer o gyrchfannau glan môr Cymru mae’n wynebu heriau: cyfleoedd cyflogaeth prin; anawsterau tai; poblogaeth fawr o bobl wedi ymddeol sy’n aml wedi’u hynysu; stryd fawr mewn trafferth; ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd y pandemig. Mae Cyngor Tref Cricieth yn ymateb i’r heriau’n greadigol, gan hwyluso nifer o brosiectau wedi’u cynllunio a’u cyflwyno gan wirfoddolwyr, yn tynnu ar dalentau amlgenhedlaeth ledled y dref. Ysbrydolwyd y gwaith arobryn gan y cysyniad o greu lle i gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r mannau maen nhw’n eu rhannu.

3.30pm - 4.10pm | Gwyrdd FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES

Côr Un Byd Oasis: Laura Bradshaw ac Emily Agbaso 
 
Dechreuodd prosiect Côr Un Byd Oasis fel rhan o elusen Celfyddydau Cymunedol Cwm a Bro a daeth yn gwmni budd cymunedol annibynnol yn 2020. Mae’r prosiect yn cynnig gweithgareddau croesawgar ac iachaol i bobl sy’n ceisio noddfa.  Mae wedi dod yn ffordd i rannu cyfuniad diwylliannol cyffrous o gerddoriaeth yn ystod perfformiadau cyhoeddus sy’n annog dealltwriaeth, diddordeb a thrugaredd rhwng cymunedau na fyddai fel arall yn cael cyfle i ryngweithio o bosibl.

3.30pm - 4.10pm | Melyn CAFFI RHANBARTHOL A MAN RHWYDWEITHIO (GYDA CHYFIEITHIAD CYMRAEG)

Crynodeb  
 
Cymerwch saib ar ddiwedd y dydd i gysylltu a chyfarfod â chydweithwyr o’ch rhanbarth. Cewch rannu nodiadau, cyfnewid cysylltiadau a rhoi cychwyn ar gynlluniau newydd. Trefnir y gofod yn ôl rhanbarthau a gellir ei ddefnyddio hefyd fel man rhwydweithio cyffredinol.  

4.10pm - 4.40pm | Pinc SESIWN LAWN

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 
 
Daeth Derek Walker yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ym mis Mawrth 2023. Cyn hynny, fel Prif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth datblygu gydweithredol fwyaf y DU, bu Derek yn gweithio i gynorthwyo pobl i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a newidiodd ffocws y sefydliad i ddatblygu sy’n bodloni anghenion cenedlaethau presennol heb gyfaddawdu anghenion rhai y dyfodol. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol yng Nghronfa’r Loteri Fawr (Cymru), Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd gyda TUC Cymru ac ef oedd y cyntaf i gael ei gyflogi gan Stonewall Cymru.

Connor Allen, Children’s Laureate Cymru 2021-23 
 
Bardd ac artist amlddisgyblaethol o Gasnewydd yw Connor Allen. Ers graddio o’r Drindod Dewi Sant fel actor yn 2013, mae wedi gweithio gyda chwmnïau fel Taking Flight Theatre, Theatr y Sherman, Royal Exchange Manchester, Tin Shed Theatre, BBC Cymru a National Theatre Wales. Mae elfennau o’i fywyd ei hun yn ysbrydoli gwaith Connor, fel galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth ac ethnigrwydd. Ei flaenoriaeth fel Children’s Laureate Cymru yw grymuso plant a phobl ifanc i adrodd eu straeon unigryw eu hunain drwy farddoniaeth.

4.40pm - 5.00pm | Pinc SYLWADAU CLOI

gyda Sally Lewis, Emily Van De Venter, Nesta Lloyd-Jones, Oliver John, Angie Oliver and Peter Carr.

Drwy'r Dydd | Glas MAN TAWEL

Mae croeso i chi gael egwyl o’r gynhadledd am seibiant neu i archwilio eich creadigrwydd eich hun ar unrhyw adeg yn ystod y dydd gyda deunyddiau celf am ddim ar gael ar y safle.

Dwry'r Dydd | Outdoors MAN CREADIGOL I ALW HEIBIO - AWYR AGORED

Gwehyddu 
 
Ewch allan i’r ardd unrhyw bryd yn ystod y dydd i ymuno â’r myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Jo, India, Roxy a Bethan mewn gwaith celf gwehyddu byw. 

Chwilio