Astudiaethau Achos WAHWN
Yn yr adran hon ceir astudiaethau achos o bartneriaethau celfyddydol ac iechyd, gan gynnwys y rheini a gyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd gwerthusiadau, adroddiadau ac astudiaethau achos eraill yn ymddangos yn yr adran Gwerthusiadau/Adroddiadau.
Chwiliad Cyflym
Bro Lles Dyffryn Nantlle
Bwriad prosiect Bro Lles oedd hybu iechyd meddwl, lles a hyder pobl drwy gynnal sesiynau amrywiol fyddai yn magu creadigrwydd a datblygu sgiliau celfyddydol gan fanteisio ar ddeunyddiau a geir yn lleol yn Nyffryn Nantlle, sef helyg, gwlân a llechi. Roedd bwriad hefyd i gynnal rhai sesiynau celf yn yr awyr agored.
Author: Yr Orsaf
Cymuned Greadigol
Rhaglen presgripsiwn cymdeithasol sy'n seiliedig ar y celfyddydau, a ddatblygwyd gan Porthi Dre yng Nghaernarfon, sy'n cefnogi oedolion sy'n wynebu heriau iechyd meddwl a lles trwy weithgareddau creadigol.
Author: Anne Evans, Prif Swyddog, Porthi Dre
Gwell Gyda'n Gilydd: Gwerth Gwir Heneiddio Cadarnhaol
Action for Elders – Cyflwyno yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae’r prosiect hwn gan Action for Elders, a gyflwynir ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn archwilio dull ymyrraeth gynnar o gefnogi pobl i heneiddio’n iachach. Drwy grwpiau Balanced Lives wythnosol yn y gymuned, mae’r rhaglen yn cyfuno symud, cydbwysedd, anadlu, cysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol i gefnogi pobl hŷn i barhau i fod yn egnïol, yn wydn ac yn gysylltiedig. Mae’r prosiect yn dangos potensial dulliau ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i leihau eiddilwch ac unigrwydd, gwella symudedd a lles, a chreu gwerth cymdeithasol ystyrlon i gyfranogwyr a chymunedau.
Author: Bevan Commission
Heulwen
Datblygwyd Prosiect Celfyddydau Uned Heulwen gan Pontio, BLAS ac Uned Heulwen, Ysbyty Gwynedd, i wella profiad plant a theuluoedd a lleihau apwyntiadau a fethir drwy leihau ofn a gorbryder. Trwy weithgareddau creadigol dan arweiniad artistiaid, gwnaeth y prosiect yr amgylchedd yn fwy croesawgar, cefnogi gweithdrefnau clinigol ac annog teuluoedd i ddychwelyd yn fwy hyderus.
Author: Mared Elliw Huws
Llwybr Atgyfeirio Celfyddydol Hywel Dda HARP
Hywel Dda Arts Referral Pathway
Mae HARP yn cefnogi pobl a oedd yn mynychu’r meddyg teulu’n aml sy’n wynebu cyflyrau cronig neu unigedd trwy sesiynau celfyddydol ar draws Hywel Dda i hybu lles a lleihau cyswllt â meddygon teulu.
Author: Kathryn Lambert, Pennaeth y Celfyddydau ac Iechyd
Llwybr Atgyfeirio Celfyddydol Hywel Dda HARP
Hywel Dda Arts Referral Pathway
Mae HARP yn cefnogi pobl a oedd yn mynychu’r meddyg teulu’n aml sy’n wynebu cyflyrau cronig neu unigedd trwy sesiynau celfyddydol ar draws Hywel Dda i hybu lles a lleihau cyswllt â meddygon teulu.
Author: Kathryn Lambert, Pennaeth y Celfyddydau ac Iechyd
Rhaglen Gelf Uned Canser Leri
Ymgorffori Iachâd Trwy Gelf
Prosiect celfyddydau ac iechyd arloesol sy'n trawsnewid gofal canser yn Ysbyty Bronglais trwy gelf gyhoeddus a dylunio cynhwysol wedi'i gyd-gynhyrchu.
Author: Kathryn Lambert, HDUHB
Hwb Celfyddydol 4
Mae Hwb Celfyddydol yn cefnogi pobl ifanc Gorllewin Cymru trwy weithgareddau i wella iechyd meddwl a lles mewn partneriaeth â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a sefydliadau celfyddydol.
Author: Kathryn Lambert, HDUHB
Sgwennu'n Well Writing Well
Mae 'Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen ddwyieithog dros 15 mis ar gyfer hwyluswyr llenyddol sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru. Fe'i cynhelir mewn dau ran i ddatblygu a chynnal gweithdai.
Author: Louise Richards, Creative Executive, Literature Wales
Ar y Dibyn Theatr Cymru
Prosiect iechyd a lles creadigol cyfrwng Cymraeg a gynhaliwyd led led Cymru rhwng Mehefin ‘24 a Mai 25 i bobl gyda dibyniaeth fel sesiynau grwp ac un wrth un gyda chwnselwyr.
Author: Nia Wyn Skyrme,, Iola Ynyr, Rhian Davies, Theatr Cymru
