Case Study: Sgwennun Well Writing Well
Authors(s), Creator(s) and Contributors: Louise Richards, Creative Executive, Literature Wales
Publication Date: 30/07/2025
Categories: Case Studies
Partner(s): Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales
Funder(s): Llenyddiaeth Cymru a chyllid Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru
Introduction
Mae 'Sgwennu’n Well| Writing Well' yn canolbwyntio yn ddwys ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr gweithdai llên lled-newydd ym maes Iechyd a Llesiant. Mae'n rhaglen datblygiad proffesiynol 15 mis o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal i grŵp o 6 hwylusydd sydd â rhywfaint o brofiad o gyflwyno prosiectau mewn cymunedau. Cynigiodd y chwe mis cyntaf gyfleoedd i hogi sgiliau mewn meysydd fel: • datblygu prosiectau, rheoli a chodi arian • rhedeg cyllidebau • dal a chyfleu effaith • diogelu eu grwpiau a nhw eu hunain. Archwiliodd y grŵp theori ac ymarfer rhedeg gweithdai llenyddiaeth ar gyfer prosiectau iechyd a llesiant i amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn gwahanol leoliadau. Derbyniodd pob artist hefyd o leiaf 4 sesiwn un-i-un gyda'u mentor a chyllid i dreialu prosiect cyfranogol.
The Challenge
Nod ‘Sgwennu’n Well’ yw efelychu model llwyddiannus Cynrychioli Cymru, gan ddatblygu carfan o 6 awdur yn ddwys dros 15 mis ar gyfer hwyluso gweithdai ar gyfer iechyd a llesiant trwy fentora, sgyrsiau, gweithdai, rhwydweithio a chyflwyno prosiectau. Iechyd a Llesiant yw un o dair blaenoriaeth strategol Llenyddiaeth Cymru. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd ysgrifennu creadigol a darllen wedi’i brofi’n glinigol i fod o fudd i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae hwyluswyr llenyddol yn ganolog i gyflawni’r gwaith hwn ac mae angen mwy o hwyluswyr ledled Cymru, yn enwedig hwyluswyr heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys hwyluswyr iaith Gymraeg, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, hwyluswyr anabl, a’r rhai o gefndiroedd incwm isel.
The Approach
Recriwtiodd Sgwennu'n Well 6 hwylusydd newydd o bob cwr o Gymru drwy alwad gyhoeddus. Rhwng 2023-25 mynychodd y garfan encil penwythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, 5 gweithdy ar-lein sef: cynllunio prosiectau, diogelu, gwerthuso creadigol, codi arian, goruchwylio, a chwrs Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar-lein. Derbyniodd pob hwylusydd 4 sesiwn fentora a chyllideb prosiect fach. Roedd y prosiectau'n cynnwys: Ailysgrifennu Mamolaeth gyda mamau wedi profi trawma beichiogrwydd a genedigaeth, gan Emma Smith Barton. Ysgrifennu'r Pum Synnwyr gyda phobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl yng Nghaerdydd a'r Barri, gan Helen McSherry. Prosiect Green Ink gyda phobl ifanc â phryderon ynghylch effaith yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Harri Tudur dan arweiniad Lottie Williams. Enwau - i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Plas Mawr yn archwilio sut mae amgylcheddau awyr agored yn cefnogi nodau ysgrifennu creadigol ac iechyd a llesiant, gan Sian Hughes. Sgwennu Ni gyda grŵp o 16 o ddisgyblion Blwyddyn 7 o Ysgol y Preseli yn canolbwyntio ar greadigrwydd, gwydnwch, ac iechyd meddwl a llesiant dan arweiniad Steffan Phillips. Dan yr Wyneb Cymunedau gwledig, dwyieithog, yn wynebu heriau fel pandemig o unigrwydd dan arweiniad Grug Muse.
The Impact
Dyluniwyd gwerthusiad model rhesymeg gyda'r ymgynghorydd gwerthuso allanol Gerri Moriarty a chafodd ei lywio ymhellach gan ddulliau Gwerthuso Creadigol a Chredadwy Jane Willis. Casglwyd adborth a data gan gyfranogwyr, ymarferwyr a'r sefydliad partner ar gyfer pob prosiect. Roedd staff partner yn bresennol ym mhob gweithdy yn cefnogi'r artist a'r cyfranogwyr ac i asesu a monitro cynnydd. Darparodd Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chyfarfodydd gyfeiriad clir a chanlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect o'r cychwyn cyntaf. Canfyddiadau: Adroddodd 100% o artistiaid gynnydd mewn sgiliau a hyder wrth gyflwyno gweithdai ar gyfer iechyd a lles. Adroddodd 95% o gyfranogwyr fod eu lles wedi gwella. Helpodd gweithdai gyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol a'u harferion meddwl creadigol, ond rhoddodd hefyd yr amser a'r lle iddynt archwilio eu hochr greadigol, a'u helpu i ddod o hyd i'w llais eu hunain. “Wel, dw i’n teimlo’n special iawn. Mae wedi rhoi hyder i fi a doedd dim llawer gyda fi i ddechrau.” cyfranogwr Roedd cost llawn y prosiect yn £49,000 a thalwyd 95% o'r arian i artistiaid fel ffioedd a threuliau
Lessons Learned
• Mae'n cymryd mwy o amser i ddylunio a chyflwyno prosiectau ar gyfer gweithwyr llawrydd nag a feddyliwyd yn wreiddiol • Creu ffolder Google Drive ar gyfer pob templed cynllunio prosiect i'w rhannu gyda'r garfan yn hytrach na thrwy e-bost • Darparu sesiwn hyfforddi gyda mentoriaid gyda thempledi ar gyfer sesiynau • Sesiynau Zoom i fod yn fwy rhyngweithiol os yn bosibl • Sesiwn i'r garfan gyflwyno a derbyn adborth ar weithdy blasu Bydd hyn yn cael ei weithredu ar gyfer y garfan Sgwennu'n Well nesaf, gan gynnwys y cyfle i gwrdd â Carfan 1.
The Legacy
Bydd y Rhaglen Sgwennu'n Well yn parhau i gael ei haddasu a'i chyflwyno'n benodol i recriwtio unigolion heb gynrychiolaeth deg yn y sector creadigol yng Nghymru, gan gynnwys unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, unigolion anabl neu'r rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor, ac unigolion dosbarth gweithiol. Gobeithir y bydd y rhaglen hyfforddi hon yn arwain at nifer cynyddol o artistiaid yn cael eu huwchsgilio i gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol er lles.
Website and Social Media Links
Https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/sgwennun-well/ @LitWales https://www.instagram.com/llencymru_litwales/ https://www.facebook.com/LlenCymruLitWales/
Contact Details
Louise Richards post@literaturewales.org
Tags: Llenyddiaeth, y gair llafar, Llesiant, iechyd meddwll
