Case Study: Ar y Dibyn Theatr Cymru
Authors(s), Creator(s) and Contributors: Nia Wyn Skyrme,, Iola Ynyr, Rhian Davies, Theatr Cymru
Publication Date: 26/06/2025
Categories: Case Studies
Funder(s): Arts Council Wales
Introduction
Mae Ar y Dibyn yn brosiect cenedlaethol arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i rymuso pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. Rydym yn darparu gweithdai creadigol diogel yn y Gymraeg ar draws Cymru, gyda chefnogaeth cwnselwyr a chyfieithwyr, mewn partneriaeth â’r sector iechyd a’r trydydd sector. Rydym yn hyfforddi artistiaid i weithio gyda breuder dynol ac yn cynnig llwyfannau i gyfranogwyr rannu eu gwaith, gan ddad-stigmateiddio dibyniaeth a dathlu gwydnwch.
PARTNERIAID GWEITHREDOL: Iola Ynyr; Llenyddiaeth Cymru; Uned Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol - Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd; Cronfa Grymuso Gwynedd Menter Môn; Meddwl.org; Adra; Cyngor Ynys Môn; Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Galeri. PARTNERIAID CYFEIRIO: Maes Ni; ICAN/GISDA Maesgeirchen, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog; Bron Castell; Isgraig Llangefni; Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn; Uned Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru; Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru; Gorwel; prosiect Mwy.
Cyngor Celfyddydau Cymru; Uned Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd; Cronfa Grymuso Gwynedd, Menter Mon; Meddwl.org; Cronfa Buddsoddi Cymunedol, Adra; Cronfa Ffyniant Bro - Cronfa Dathlu Pobl Hyn, Ynys Mon; Theatr Cymru
The Challenge
Gyda lefelau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol ar eu huchaf ers 1993 a marwolaethau cysylltiedig ag alcohol ar ei uchaf yng Nghymru yn 2023, mae ymyriadau creadigol yn seiliedig ar gelfyddydau wedi cael eu cydnabod fel dulliau effeithiol i gefnogi unigolion a effeithir gan drawma, dibyniaeth, a phroblemau iechyd meddwl. Yn wahanol i fodelau therapiwtig neu glinigol traddodiadol, mae’r rhaglenni hyn yn aml yn hwyluso iacháu drwy fynegiant, adrodd straeon, a chysylltiad, gan gynnig i gyfranogwyr awdurdod a ffyrdd newydd o hunan-ymwybyddiaeth. Mewn cyd-destun Cymreig, mae mynediad trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i ddarparu gwasanaeth cynhwysol a hygyrch. Datblygwyd y rhaglen i ddiwallu anghenion unigolion a allai deimlo eu heithrio o strwythurau cefnogaeth prif ffrwd oherwydd dibyniaeth.
The Approach
Rhwng Mehefin '24 a '25 cynhaliwyd cyfresi o 3 i 6 sesiwn (1.5 awr) a sesiynau 1:1 (1 awr) i unigolion wedi'u heffeithio gan ddibyniaeth wedi’u cyfeirio gan sefydliadau partner ac hunan gyfeirio. Roedd sesiynau'n cynnwys ysgrifennu creadigol, gwaith clai, arlunio a myfyrio creadigol. Roedd dau artist profiadol ym mhob sesiwn a chwnselydd a chyfieithydd ar y pryd. Ardaloedd yn cynnwys Caernarfon, Maesgeirchen, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Llangefni, Aberystwyth ac ar-lein. Cynnyrch ac allbynnau creadigol yn seiliedig ar awgrymiadau cyfranogwyr. Allbynnau'n cynnwys: - Pamffled o waith creadigol cyfranogwyr: 1 - Ffilm o'r gwaith yng Nghynhadledd Adrodd Storiau Iechyd a Lles: 1 - Arddangosfa yn Galeri Mawrth-Mai '25: 23 dydd - Mynychwyr Arddangosfa Galeri: 230 (10 y dydd) - Cyflwyniadau mewn digwyddiadau: 4 - Gweithdai (grwp ac 1:1): 90 - Sesiynau Hyfforddi, mentora a sesiynau myfyriol: 17 - Ymweliadau Celfyddydol: 4 - Artistiaid: 8 - Cwnselwyr: 6 (cyflogedig ac mewn da gan bartneriaid) - Cyfranogwyr ar draws pob gweithdy: 461 - Cyfranogwyr hyfforddiant: 27 - Cyfranogwyr yn mynychu digwyddiadau celfyddydol: 15 Cyllideb yn cynnwys: - Artistiaid - Gwerthusydd - Cydlynwyr - Lleoliadau - Cwnselwyr - Cyfieithwyr - Tocynnau theatr gostyngol
The Impact
Defnyddiwyd cymysgfa o ddulliau gwerthuso i asesu effaith y prosiect, gan gyfuno mewnwelediad mewnol ac allanol. Yn fewnol, trefnwyd y gwerthusiad gan y Cynhyrchydd a’r Artist Arweiniol drwy adroddiadau monitro, cyfarfodydd di-briff gydag artistiaid, a chyfarfodydd chwarterol gyda phartner iechyd. Casglwyd themâu megis cynydd mewn hyder a hunan-barch cyfranogwyr wrth ddychwelyd i sesiynau, arddangos eu gwaith i’r cyhoedd, a chefnogaeth broffesiynol ac emosiynol. Bu’r cwnselydd a’r dulliau myfyriol yn allweddol i greu amgylchedd diogel, gyda hyblygrwydd mewn lleoliadau a chynllunio.Mentorwyd cyn-gyfranogwr i artist, gan ehangu’r tîm i 8 artist. Yn allanol, cydweithiwyd gyda Dr Nia Williams (Prifysgol Bangor), arweinydd gwerthusiad annibynnol, a ddefnyddiodd dull ansoddol i archwilio profiadau unigolion a safbwynt gweithwyr proffesiynol. Defnyddiwyd naratifau agored i ddeall effaith y rhaglen ar adfer o drawma, dibyniaeth, ac iechyd meddwl. Canfuwyd fod Ar y Dibyn yn cynnig model ymyrraeth grymus, cynhwysol ac hyblyg sy’n canolbwyntio ar y person, diogelwch emosiynol, a chysylltiad. Gyda seilwaith gwell a chydweithredu traws-sector, mae potensial i’r rhaglen fod yn rhan greiddiol o wasanaethau adfer a lles ledled Cymru a thu hwnt.
Lessons Learned
Sesiynau blasu i staff cyfeirio yn cryfhau dealltwriaeth a hyder Arbrofi gyda modelau cost-effeithiol Gweithio’n ddiogel ac o fewn ffiniau proffesiynol Profiad bywyd/hyfforddiant perthnasol yn hanfodol Cydweithio parhaus gyda phartneriaid cyfeirio yn allweddol Dulliau ac allbwn creadigol clir yn effeithiol Allbwn creadigol yn rhoi gwerth i gyfranogwyr ac artistiaid Newidiadau staff yn heriol ond ymateb hyblyg Allbwn creadigol yn rhoi gwerth i gyfranogwyr ac artistiaid Newidiadau staff yn heriol ond ymateb hyblyg
The Legacy
Gwaddol: Cynnydd mewn partneriaid celfyddydol a thraws sector Cyfranogwyr yn dychwelyd a rhai newydd Partneriaid cyfeirio cyson Cynnydd mewn ymrwymiad ariannol gan bartneriaid sy'n medru Y dyfodol: Cyfrannu at gynllun gweithredu Bwrdd Camddefnyddio Sylweddau Parhau i gynnal gweithdai yn Aberystwyth a denu partneriaid Canolbarth Cymru Cyfathrebu llwybr cynnydd cyfranogwyr Cefnogi twf y prosiect drwy gynyddu nifer artistiaid. Sicrhau cyllid cynaliadwy aml asiantaeth Cydwethio ar ddatblygu chwaer brosiect i ofalwyr a theuluoedd
Website and Social Media Links
@theatrcymru www.theatr.cymru WAHWN Adroddiad Gwerthuso 24-25 Dr Nia Williams Pamffled (i ddod)
Contact Details
nia.skyrme@theatr.com rhian.davies@theatr.com
Tags: Iola Ynyr • Theatr Cymru • Ar y Dibyn • Dibyniaeth • Alcoholiaeth • Sesiynau • Creadigol • Camddefnyddio sylweddau • Iechyd a Lles
